Agenda a Chofnodion

PSB - Wellbeing Plan, Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Gwener, 13eg Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penderfynu arfer y pwerau a nodir yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan mai ni yw'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y'i cymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mai 2015

Cofnodion:

Penderfynwyd: Arfer y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y'i cymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mai 2015.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cynllun Lles Castell-nedd Port Talbot 2023-28 - Y diweddaraf am gynnydd - Amcan Lles 2 - Bydd pob cymuned yn ffynnu ac yn gynaliadwy pdf eicon PDF 347 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol yr adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Lles y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (CGG) / Cadeirydd y Bartneriaeth Costau Byw a Thlodi a'i Atal, gyflwyniad ar gynnydd.

 

Roedd yr aelodau'n cytuno â chynnwys yr adroddiad ond roeddent yn cwestiynu a oedd Amcan Lles 2 'bydd ein holl gymunedau'n ffynnu ac yn gynaliadwy' yn gyraeddadwy ac, os felly, beth oedd y dyddiad targed. Awgrymodd yr aelodau y dylid diwygio’r datganiad fel a ganlyn, ‘Mae ein holl gymunedau’n ymdrechu i fod/gobeithio bod yn ffyniannus ac yn gynaliadwy’ a nodwyd yr awgrym hwn gan swyddogion.

 

Roedd Cyfarwyddwr CGG Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod pryderon yr aelodau a chytunodd nad oedd yr heriau a wynebir wedi newid dros gyfnod hir. Mae'r targedau presennol wedi'u gosod mewn partneriaeth ag asiantaethau ac ystod o swyddogion. Mae'n bwysig dangos uchelgais a pharhau i roi gobaith i gymunedau. Bydd y model rhesymeg yn helpu i ganolbwyntio'r amserlenni a'r targedau ac mae'n bwysig ystyried profiad bywyd.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at adborth o'r gweithdy costau byw y cyfeiriwyd ato ar dudalen 35 o'r adroddiad a dywedasant y byddai adborth o'r ail weithdy a gynhaliwyd yn ddiweddar wedi bod yn werthfawr. Mynegwyd pryder gan aelodau am breswylwyr sy'n gweithio sydd uwchlaw'r trothwy ar gyfer hawlio budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau, nad ydynt yn ennill digon i oroesi yn yr argyfwng costau byw presennol. Nodwyd bod y system fudd-daliadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru. Nid yw'r BGC yn cael ei ariannu ac mae’n derbyn ychydig iawn o arian grant nad yw wedi’i warantu ar gyfer y dyfodol. Dywedodd yr aelodau ei bod yn bwysig ceisio barn preswylwyr er mwyn cael profiad byw o dlodi.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol fod canlyniadau'r gweithdy diweddaraf yn cael eu casglu ar hyn o bryd ac y byddai'r data'n bwydo i mewn i adroddiadau yn y dyfodol. Byddai manteision astudiaethau achos bywyd go iawn a chynnwys unigolion â phrofiad byw yn cael eu hystyried ar gyfer gweithdai yn y dyfodol. Cafwyd 1,600 o ymatebion i’r arolwg ‘Parhewch i sgwrsio’ a gynhaliwyd yn ddiweddar a phrif bryder preswylwyr yw’r argyfwng costau byw. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol â sylwadau’r aelodau ynghylch teuluoedd sy’n gweithio, nad oeddent yn gallu hawlio budd-daliadau ac maent yn byw mewn tlodi, cydnabuwyd hyn yn y gweithdy ac mae angen ffocws pellach yn y maes hwn.

 

Amlinellodd Cyfarwyddwr CGG Castell-nedd Port Talbot yr heriau wrth bennu nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi ond nododd fod aelodau a phartneriaid y trydydd sector mewn sefyllfa dda i drosglwyddo'r wybodaeth hon oherwydd eu cysylltiadau â'u cymunedau. Rhoddwyd ystyriaeth i sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi; sefydlwyd comisiwn tebyg yn Ninas a Sir Abertawe, fodd bynnag, oherwydd costau uchel bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd eraill. Nodwyd bod Cydlynwyr Datblygu Cymunedol a Chydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gweithio o fewn cymunedau, ond yn unigol ni all unrhyw asiantaeth fynd i'r afael  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.