Cofnodion:
Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol yr
adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Lles y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).
Rhoddodd
Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (CGG) /
Cadeirydd y Bartneriaeth Costau Byw a Thlodi a'i Atal, gyflwyniad ar gynnydd.
Roedd yr
aelodau'n cytuno â chynnwys yr adroddiad ond roeddent yn cwestiynu a oedd Amcan
Lles 2 'bydd ein holl gymunedau'n ffynnu ac yn gynaliadwy' yn gyraeddadwy ac,
os felly, beth oedd y dyddiad targed. Awgrymodd yr aelodau y dylid diwygio’r
datganiad fel a ganlyn, ‘Mae ein holl gymunedau’n ymdrechu i fod/gobeithio bod
yn ffyniannus ac yn gynaliadwy’ a nodwyd yr awgrym hwn gan swyddogion.
Roedd Cyfarwyddwr
CGG Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod pryderon yr aelodau a chytunodd nad
oedd yr heriau a wynebir wedi newid dros gyfnod hir. Mae'r targedau presennol
wedi'u gosod mewn partneriaeth ag asiantaethau ac ystod o swyddogion. Mae'n
bwysig dangos uchelgais a pharhau i roi gobaith i gymunedau. Bydd y model
rhesymeg yn helpu i ganolbwyntio'r amserlenni a'r targedau ac mae'n bwysig
ystyried profiad bywyd.
Cyfeiriodd yr
aelodau at adborth o'r gweithdy costau byw y cyfeiriwyd ato ar dudalen 35 o'r
adroddiad a dywedasant y byddai adborth o'r ail weithdy a gynhaliwyd yn
ddiweddar wedi bod yn werthfawr. Mynegwyd pryder gan aelodau am breswylwyr sy'n
gweithio sydd uwchlaw'r trothwy ar gyfer hawlio budd-daliadau'r Adran Gwaith a
Phensiynau, nad ydynt yn ennill digon i oroesi yn yr argyfwng costau byw
presennol. Nodwyd bod y system fudd-daliadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod
lleol a Llywodraeth Cymru. Nid yw'r BGC yn cael ei ariannu ac mae’n derbyn
ychydig iawn o arian grant nad yw wedi’i warantu ar gyfer y dyfodol. Dywedodd
yr aelodau ei bod yn bwysig ceisio barn preswylwyr er mwyn cael profiad byw o
dlodi.
Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol fod
canlyniadau'r gweithdy diweddaraf yn cael eu casglu ar hyn o bryd ac y byddai'r
data'n bwydo i mewn i adroddiadau yn y dyfodol. Byddai manteision astudiaethau
achos bywyd go iawn a chynnwys unigolion â phrofiad byw yn cael eu hystyried ar
gyfer gweithdai yn y dyfodol. Cafwyd 1,600 o ymatebion i’r arolwg ‘Parhewch i
sgwrsio’ a gynhaliwyd yn ddiweddar a phrif bryder preswylwyr yw’r argyfwng
costau byw. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol â sylwadau’r aelodau ynghylch
teuluoedd sy’n gweithio, nad oeddent yn gallu hawlio budd-daliadau ac maent yn
byw mewn tlodi, cydnabuwyd hyn yn y gweithdy ac mae angen ffocws pellach yn y
maes hwn.
Amlinellodd
Cyfarwyddwr CGG Castell-nedd Port Talbot yr heriau wrth bennu nifer y bobl sy'n
byw mewn tlodi ond nododd fod aelodau a phartneriaid y trydydd sector mewn
sefyllfa dda i drosglwyddo'r wybodaeth hon oherwydd eu cysylltiadau â'u
cymunedau. Rhoddwyd ystyriaeth i sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi; sefydlwyd
comisiwn tebyg yn Ninas a Sir Abertawe, fodd bynnag, oherwydd costau uchel bydd
yr arian yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd eraill. Nodwyd bod Cydlynwyr
Datblygu Cymunedol a Chydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gweithio o fewn cymunedau,
ond yn unigol ni all unrhyw asiantaeth fynd i'r afael â'r materion ar ei phen
ei hun.
Dywedodd yr
aelodau fod yr ymgyrch ‘Parhewch i sgwrsio' yn canolbwyntio gormod ar gael
adborth ystyrlon gan gymunedau lleol ac y gellid ystyried casglu gwybodaeth gan
dimau o fewn yr awdurdod lleol e.e. Budd-daliadau ac Opsiynau Tai.
Cytunodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol fod angen
gwneud rhagor o waith mewn perthynas â chasglu data ond dywedodd nad yr ymgyrch
‘Parhewch i sgwrsio' oedd yr unig ddull a ddefnyddiwyd i gasglu gwybodaeth.
Mynegodd yr
aelodau rwystredigaeth ynglŷn â'r sefyllfa dlodi barhaus a chyflymder rhoi
newid ar waith a gwnaed awgrym i ddefnyddio system cronfa ddata TG i
ddadansoddi preswylwyr. Rhannodd Cyfarwyddwr CGG y rhwystredigaeth ond nododd
fod angen cymorth gan Lywodraethau Cymru a'r DU er mwyn symud ymlaen ac mae'n
bwysig pwyso'n barhaus ar Lywodraeth y DU. Roedd Cyfarwyddwr Corfforaethol y
Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol yn cydnabod bod nifer o ffactorau y
tu hwnt i reolaeth yr awdurdodau lleol ond y byddai'r awdurdod lleol yn
gweithio o fewn y cyllid a'r cyllidebau sydd ar gael.
Dywedodd yr
Aelodau mai un ffordd i gael pobl allan o dlodi oedd drwy ddarparu swyddi
medrus sy'n talu'n dda a bod adfywio economaidd yn rhywbeth yr oedd yr awdurdod
wedi rhagori ynddo a bydd cyfle pellach gyda'r prosiectau ar y Ganolfan
Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd, Wildfox, Porthladd Rhydd a'r Fargen
Ddinesig.
Croesawodd y
Cadeirydd y Rheolwr Strategol ar gyfer Partneriaethau a Chydlyniant Cymunedol,
y Prif Swyddog Diogelwch Cymunedol a'r Uwch-arolygydd Eve Davies, Pennaeth
Diogelwch Cymunedol a Phartneriaethau Heddlu De Cymru a roddodd ddiweddariad ar
y cyd ar waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wrth helpu i gyflawni
uchelgeisiau Cynllun Lles y BGC.
Mynegodd yr
aelodau rwystredigaeth mewn perthynas â'r system bresennol i ymdrin ag
adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nodwyd bod pwyslais mawr ar
ymddygiad gwrthgymdeithasol pobl ifanc ac yn y gymuned yr oedolion sy'n aml yn
gyfrifol am ymddygiad gwrthgymdeithasol mwy difrifol. Roedd yr aelodau yn
cefnogi'r ymgyrch 'Heads Up' i hyfforddi trinwyr gwallt i gyfeirio cleientiaid
at wasanaethau cymorth lleol. Dywedodd yr aelodau fod gormod o ddibyniaeth ar
ddata a bod blaenoriaethau'n newid gan eu bod yn cael eu llywio gan ddata.
Llongyfarchodd yr
aelodau Heddlu De Cymru a'r tîm Diogelwch Cymunedol ar y digwyddiad aelodau
diweddar a'r materion allweddol a godwyd, ond mynegwyd rhwystredigaeth nad oedd
digon o amser ar gyfer trafodaethau manylach. Cadarnhaodd swyddogion fod
agenda'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn rhagnodol ond gellir cyflwyno agenda
estynedig mewn unrhyw weithdy yn y dyfodol er mwyn gallu trafod materion yn fwy
manwl. Estynnodd swyddogion gynnig i aelodau eu bod ar gael i drafod unrhyw
faterion â nhw yn unigol.
Canmolodd yr
aelodau waith swyddogion, ond nodwyd nad oedd y dull presennol 'o'r gwaelod i
fyny' yn grymuso pobl. Er mwyn i gymunedau ffynnu mae angen i bobl fod yn rhan
o'r hyn sy'n digwydd, rhaid iddynt gael eu grymuso, eu cynnwys a dylent fod yn
gyfrifol o ran yr hyn sy'n digwydd yn eu cymunedau. Nodwyd bod pobl ifanc sy’n
ymddwyn yn wrthgymdeithasol ac sy’n cael eu cyfeirio at y Tîm Troseddau
Ieuenctid yn cael cymorth ychwanegol nad yw’r rheini sy’n cyflawni ymddygiad
gwrthgymdeithasol lefel is yn ei gael oherwydd pwysau ariannol. Dywedodd yr
aelodau fod y symptomau'n cael eu trin ond nid yw'r achosion a'r angen
cymdeithasol sylfaenol yn cael eu trin. Awgrymwyd bod angen mwy o grwpiau
gorchwyl a gorffen ar gyfer gweithdai syniadau ac y dylid canolbwyntio mwy ar
gomisiynu cymunedol. Mae problem gyda sefydliadau trydydd sector yn cystadlu am
gyllid.
Dywedodd yr
aelodau fod y cyhoedd wedi colli hyder yn yr heddlu. Mae angen mwy o arian gan y llywodraeth ar
gyfer gwasanaethau lleol.
Diolchodd
swyddogion i'r aelodau am eu sylwadau a'u hadborth ac roeddent yn gytûn bod
gwasanaethau anstatudol ar draws yr awdurdod yn ceisio cyflawni mwy gyda llai o
gyllid. Tynnodd y swyddogion sylw'r aelodau at nifer o ddyletswyddau
llywodraeth genedlaethol newydd (Trais Difrifol, Gwrthderfysgaeth) sydd wedi'u
gosod ar awdurdodau ond heb unrhyw adnoddau na chyllid ychwanegol, gan arwain
at ailgyfeirio adnoddau presennol. Nodwyd bod materion sylweddol o ran diffyg
adrodd. Mae rhagor o waith i'w wneud mewn perthynas ag addysgu pobl o ran y
gwahanol ddulliau adrodd sydd ar gael ac i oresgyn rhwystrau i adrodd.
Dywedodd yr
Uwch-arolygydd Eve Davies, er y gallai'r materion a drafodwyd ymddangos yr un
fath â materion a wynebwyd yn hanesyddol, mae ffactorau i'w hystyried;
diweithdra trydedd genhedlaeth yn lleol, y lefel uchaf o blant yn osgoi'r
ysgol, yr argyfwng costau byw a phandemig COVID diweddar. Mae'r Bartneriaeth
Diogelwch Cymunedol yn dibynnu ar gyllid ac mae angen data i alluogi mynediad
at ffrydiau ariannu. O ran hyder y cyhoedd yn yr heddlu, mae angen dull
amlasiantaeth i sicrhau bod yr heddlu'n gallu canolbwyntio ar y materion sy'n
effeithio ar gymunedau. Yn genedlaethol mae'r rhaglen 'Right Care Right Person'
yw mynd i'r afael â'r mater hwn.
Yn dilyn gwaith
craffu, nododd yr aelodau'r wybodaeth a ddarparwyd ar y cynnydd sy'n cael ei
wneud gan y BGC ar gyflawni amcan lles 2, 'Bydd ein holl gymunedau'n ffynnu ac
yn gynaliadwy'.
Dogfennau ategol: