Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Iau, 19eg Ionawr, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd y Pwyllgor.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

 

3.

Craffu Cyn Penderfynu

I ddewis eitemau priodol o agenda'r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfyniadau (adroddiadau cabinet wedi'u hamgáu ar gyfer Aelodau CraffuDewis eitemau priodol o agenda'r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (adroddiadau cabinet wedi'u hamgáu ar gyfer Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Dewisodd y Pwyllgor graffu ar yr eitem ganlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Cynigion y Gyllideb 2023/24 ar gyfer Ymgynghoriad

 

Darparwyd gwybodaeth i aelodau ynghylch ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar gynigion y gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 gan y Cabinet. Nodwyd y cynhelir ymgynghoriad byr hyd at 10 Chwefror 2023 oherwydd amseru'r setliad llywodraeth leol dros dro. Adolygir ymatebion yn dilyn yr ymgynghoriad cyn cyflwyno cyllideb derfynol ar gyfer 2023/24 yn ystod cyfarfod Cabinet y Cyngor ar 1 a 2 Mawrth yn eu trefn, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Gofynnodd aelodau gwestiynau i'r swyddogion mewn perthynas â'r pwyntiau canlynol fel y nodir yn yr adroddiad:

 

·        Gofynnwyd a oedd y Gronfa Bontio Ynni Adnewyddadwy £2.8 miliwn yn benodol ar gyfer ynni adnewyddadwy neu a fyddai'r gronfa hon yn cynnwys meysydd eraill. Esboniodd swyddogion mai'r cynnig oedd neilltuo £2.8 miliwn gan fod angen i ni gyrraedd targed sero net dros y 7 mlynedd nesaf. Nodwyd os derbynnir y cynnig hwn, byddai aelodau'n derbyn adroddiadau pellach ynghylch unrhyw ddefnydd o'r gronfa honno.

 

·        Nodwyd o fewn y gofrestr risgiau y nodir cyflwyno gwastraff fel risg uchel oherwydd costau chwyddiant tanwydd. Gofynnodd aelodau pa fesurau lliniaru a ddefnyddir er mwyn cefnogi hyn. Esboniodd swyddogion fod tanwydd wedi lleihau yn dilyn amlygu'r risg hwn felly nid oes unrhyw gynnig i ddiwygio cyflwyno gwastraff. Gofynnodd aelodau i'r risg hwn gael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu hyn o fewn y gofrestr risgiau.

 

·        Trafododd aelodau effaith y dyfarniad cyflog. Roedd angen sicrwydd ar aelodau ynghylch cynnig y dyfarniad cyflog ysgolion. Nodwyd o fewn cyllideb eleni y cytunwyd y telir y bwlch o 4%. Ar gyfer y cynnig a nodwyd yng nghyllideb y flwyddyn nesaf, trafodwyd y darperir y 5% llawn trwy gronfeydd wrth gefn ysgolion.

 

·        Trafododd swyddogion y cynnig ynghylch arbed costau glanhau mewn ysgolion. Nodwyd mai'r cynnig oedd gwaredu'r cymhorthdal ar gyfer glanhau ysgolion oherwydd teimlwyd mai cyfrifoldeb yr ysgolion oedd talu am hyn.

 

·        Nodwyd bod dadansoddiad yn cael ei gynllunio i roi manylion ynghylch yr ysgolion y gallai fod yn anodd iddynt gydbwyso cyllidebau gyda phwysau ar gyllidebau yn y dyfodol, a fyddai'n achosi iddynt fod mewn diffyg ariannol o bosib. Gofynnodd yr aelodau i'r dadansoddiad gael ei ddosbarthu pan fydd wedi'i gwblhau.

 

·        Nododd aelodau eu rhwystredigaeth am fod y ddogfen ymgynghori wedi'i dosbarthu'n hwyr. Ymddiheurodd swyddogion am unrhyw anghyfleustra, ond esboniwyd mai'r ddogfen a gyflwynir i'r cyhoedd fyddai'r prif adroddiad am y gyllideb a oedd wedi'i atodi. Nodwyd hefyd y byddant yn cynnwys y cyhoedd gymaint ag sy'n bosib er mwyn mwyafu ymatebion i'r ymgynghoriad. Roedd yn amlwg yn ystod y drafodaeth fod aelodau'n teimlo'r pwysigrwydd o sicrhau bod yr adroddiad yn glir er mwyn sicrhau bod gan y cyhoedd ddealltwriaeth glir o ganlyniadau cynigion y gyllideb. Sicrhaodd swyddogion felly eu bod yn darparu nodiadau esboniadol gyda dogfen y gyllideb pan fydd wedi'i gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad.

 

·        Roedd aelodau hefyd yn cydnabod bod codau cyfarwyddiaeth o fewn adroddiadau'r gyllideb blaenorol ger pob un o'r cynigion er mwyn i aelodau fonitro a chymharu cynigion y gyllideb.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.