I ddewis
eitemau priodol o agenda'r Cabinet ar gyfer craffu cyn
penderfyniadau (adroddiadau
cabinet wedi'u hamgáu ar gyfer Aelodau
CraffuDewis eitemau priodol o agenda'r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (adroddiadau cabinet wedi'u hamgáu ar gyfer
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Dewisodd
y Pwyllgor graffu ar yr eitem ganlynol ar agenda'r Cabinet:
Cynigion
y Gyllideb 2023/24 ar gyfer Ymgynghoriad
Darparwyd
gwybodaeth i aelodau ynghylch ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar gynigion y
gyllideb ddrafft ar gyfer 2023/24 gan y Cabinet. Nodwyd y cynhelir ymgynghoriad
byr hyd at 10 Chwefror 2023 oherwydd amseru'r setliad llywodraeth leol dros
dro. Adolygir ymatebion yn dilyn yr ymgynghoriad cyn cyflwyno cyllideb derfynol
ar gyfer 2023/24 yn ystod cyfarfod Cabinet y Cyngor ar 1 a 2 Mawrth yn eu
trefn, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnodd
aelodau gwestiynau i'r swyddogion mewn perthynas â'r pwyntiau canlynol fel y
nodir yn yr adroddiad:
·
Gofynnwyd a oedd y Gronfa Bontio Ynni Adnewyddadwy £2.8 miliwn yn
benodol ar gyfer ynni adnewyddadwy neu a fyddai'r gronfa hon yn cynnwys meysydd
eraill. Esboniodd swyddogion mai'r cynnig oedd neilltuo £2.8 miliwn gan fod
angen i ni gyrraedd targed sero net dros y 7 mlynedd nesaf. Nodwyd os derbynnir
y cynnig hwn, byddai aelodau'n derbyn adroddiadau pellach ynghylch unrhyw
ddefnydd o'r gronfa honno.
·
Nodwyd o fewn y gofrestr risgiau y nodir cyflwyno gwastraff fel risg uchel
oherwydd costau chwyddiant tanwydd. Gofynnodd aelodau pa fesurau lliniaru a
ddefnyddir er mwyn cefnogi hyn. Esboniodd swyddogion fod tanwydd wedi lleihau
yn dilyn amlygu'r risg hwn felly nid oes unrhyw gynnig i ddiwygio cyflwyno
gwastraff. Gofynnodd aelodau i'r risg hwn gael ei ddiwygio er mwyn adlewyrchu
hyn o fewn y gofrestr risgiau.
·
Trafododd aelodau effaith y dyfarniad cyflog. Roedd angen sicrwydd ar
aelodau ynghylch cynnig y dyfarniad cyflog ysgolion. Nodwyd o fewn cyllideb eleni
y cytunwyd y telir y bwlch o 4%. Ar gyfer y cynnig a nodwyd yng nghyllideb y
flwyddyn nesaf, trafodwyd y darperir y 5% llawn trwy gronfeydd wrth gefn
ysgolion.
·
Trafododd swyddogion y cynnig ynghylch arbed costau glanhau mewn
ysgolion. Nodwyd mai'r cynnig oedd gwaredu'r cymhorthdal ar gyfer glanhau
ysgolion oherwydd teimlwyd mai cyfrifoldeb yr ysgolion oedd talu am hyn.
·
Nodwyd bod dadansoddiad yn cael ei gynllunio i roi manylion ynghylch yr
ysgolion y gallai fod yn anodd iddynt gydbwyso cyllidebau gyda phwysau ar
gyllidebau yn y dyfodol, a fyddai'n achosi iddynt fod mewn diffyg ariannol o
bosib. Gofynnodd yr aelodau i'r dadansoddiad gael ei ddosbarthu pan fydd wedi'i
gwblhau.
·
Nododd aelodau eu rhwystredigaeth am fod y ddogfen ymgynghori wedi'i dosbarthu'n
hwyr. Ymddiheurodd swyddogion am unrhyw anghyfleustra, ond esboniwyd mai'r
ddogfen a gyflwynir i'r cyhoedd fyddai'r prif adroddiad am y gyllideb a oedd
wedi'i atodi. Nodwyd hefyd y byddant yn cynnwys y cyhoedd gymaint ag sy'n bosib
er mwyn mwyafu ymatebion i'r ymgynghoriad. Roedd yn amlwg yn ystod y drafodaeth
fod aelodau'n teimlo'r pwysigrwydd o sicrhau bod yr adroddiad yn glir er mwyn
sicrhau bod gan y cyhoedd ddealltwriaeth glir o ganlyniadau cynigion y
gyllideb. Sicrhaodd swyddogion felly eu bod yn darparu nodiadau esboniadol gyda
dogfen y gyllideb pan fydd wedi'i gyflwyno ar gyfer ymgynghoriad.
·
Roedd aelodau hefyd yn cydnabod bod codau cyfarwyddiaeth o fewn
adroddiadau'r gyllideb blaenorol ger pob un o'r cynigion er mwyn i aelodau
fonitro a chymharu cynigion y gyllideb. Gofynnwyd i'r codau hyn gael eu cynnwys
yn y ddogfen derfynol. Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r rhain yn cael eu
cynnwys yn y ddogfen yn y dyfodol.
·
Gofynnodd aelodau pryd y byddant yn derbyn Cynllun Busnes Hamdden
Celtic, gan y byddai hyn yn eu helpu wrth benderfynu ar gynigion y gyllideb ar
gyfer hamdden. Cadarnhaodd swyddogion y byddai hyn ar gael iddynt ei dderbyn.
·
Gofynnodd yr aelodau ynghylch y £30,000 a fyddai'n ofynnol i ariannu
Parc y Gnoll. Esboniodd swyddogion eu bod wedi sicrhau arian a fyddai'n gwella
Parc y Gnoll ac yn galluogi'r parc i wneud elw ac felly ni fyddai angen
cymhorthdal arno yn y dyfodol.
·
Cafwyd trafodaethau ynghylch cronfeydd wrth gefn a defnyddio cronfeydd
wrth gefn. Nodwyd y defnyddir cronfeydd wrth gefn mewn achosion lle roedd
pwysau, fodd bynnag, wrth flaengynllunio byddai angen ystyried a fyddai'r
pwysau hyn yn barhaus ac os bydd yn barhaus, byddai angen ystyriaeth bellach
ynghylch cyllid i atal defnyddio cronfeydd wrth gefn i dalu costau parhaus.
·
Gofynnodd aelodau ynghylch y cynnig i gynyddu ffïoedd a thaliadau 10%.
Esboniodd swyddogion na fyddai hyn o reidrwydd yn golygu y byddai'r holl
ffïoedd a thaliadau'n cynyddu 10%; byddai wedi'i gapio ar 10% ar gyfer y
ffïoedd a'r taliadau hynny.
·
Gofynnodd aelodau am y cynigion ynghylch adolygiad yr Adeiladau a
gofynnodd a fyddai'r arbedion hyn yn cael eu cynnwys o fewn 2023/24. Esboniodd
swyddogion fod yr adolygiad yn ceisio bod yn gost-effeithiol wrth geisio
sicrhau nad yw'r gwasanaeth cyhoeddus wedi'i effeithio a sicrhau bod hyn wedi'i
ddarparu'n effeithiol. Felly, ystyriwyd yr adeiladau eu hunain a'r defnydd o'r
adeiladau hynny yn y dyfodol yn ogystal â'r arbedion cyfleustodau cyffredinol
megis diffodd goleuadau, etc.
·
Gofynnwyd i aelodau, swyddogion ac ysgrifenwyr adroddiadau sicrhau nad
ydynt yn defnyddio acronymau er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn deall y
drafodaeth ac unrhyw wybodaeth a ddarperir o fewn y broses ymgynghori.
Yn
dilyn craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion i'r Cabinet.
Cronfa
Ffyniant Gyffredin y DU - Cymeradwyo prosiectau 'angori' strategol
Hysbyswyd
aelodau ynghylch prosiectau 'angori' strategol a ariennir gan Gronfa Ffyniant
Gyffredin y DU a oedd yn destun cymeradwyaeth yn dilyn cyfarfod y Cabinet, fel
y'i nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Derbyniodd
aelodau gyflwyniad PowerPoint gan swyddogion, a oedd yn manylu ymhellach ar
Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a phrosiectau angori strategol.
Canmolwyd
y swyddogion gan yr aelodau am y gwaith a wnaed gan swyddogion mewn perthynas â
Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Yn
dilyn craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion i'r Cabinet.