Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol · 19 Hydref, 2022 · 21 Tachwedd, 2022 · 30 Tachwedd, 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd
blaenorol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022, 21 Tachwedd
2022 a 30 Tachwedd 2022 fel
cofnod cywir. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd Bwyllgor Craffu'r
Cabinet ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet: Hunanasesiad 2021/2022 Derbyniodd Aelodau wybodaeth
am hunanasesiad drafft y cyngor ar gyfer
2021/2022. Mae'n ofynnol i'r cyngor gyhoeddi'r
hunanasesiad o fewn 4 wythnos iddo gael
ei gymeradwyo yn unol â'r
adroddiad a ddosbarthwyd. Soniodd yr Aelodau am faint
o fanylion oedd yn yr adroddiad
ac awgrymwyd y syniad o gael casgliad ar
y dechrau i gael trosolwg gwell
ar ddechrau adroddiadau. Dywedodd Swyddogion fod gofyniad statudol arnynt i gynnwys
manylion penodol ond dywedasant y byddant yn cyflwyno
fersiwn hawdd ei darllen pan fyddant yn ei
gyhoeddi. Dywedodd Swyddogion hefyd y byddant yn ystyried
sylwadau'r bwrdd ynglŷn â chael crynodeb ar ddechrau
adroddiadau pan fyddant yn llunio asesiad
2022/23. Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet. Sefydlu Fforwm Cyswllt mewn perthynas â Chyrchfan Antur Cwm Afan Hysbyswyd yr Aelodau am gais Wildfox Resorts Afan Valley Limited, i sefydlu fforwm cysylltu â chynrychiolwyr o Wildfox Resorts Afan Valley
Limited mewn perthynas â datblygu Cyrchfan Antur Cwm Afan. Prif ddiben y fforwm
cyswllt yw sicrhau y gwneir yn fawr o fanteision
cymdeithasol, amgylcheddol,
ac economaidd Cyrchfan Antur Cwm Afan ar gyfer y cymunedau
lleol, yn unol â'r adroddiad. Mynegodd Aelodau bryderon yn ymwneud ag eitemau
8 a 9 o becyn agenda'r
Cabinet. Nodwyd bod yr effaith ar gymuned
y cwm ac effaith ar y gweithlu ar gyfer
y ddau adroddiad yn manylu nad
oedd unrhyw oblygiadau. Teimlai'r Aelodau y byddai effeithiau sylweddol ar y gweithlu o ran yr adroddiadau oherwydd y gefnogaeth weinyddol y byddai ei hangen gan
adrannau perthnasol. Roedd Aelodau hefyd yn teimlo y gallai
fod effaith ar wardiau eraill
a byddai ystyried cynnwys Aelodau o Gwm Afan isaf
ar y pwyllgor cyswllt yn fuddiol.
Esboniodd Swyddogion y byddai'n agored i Aelodau a oedd
wedi'u penodi i'r fforymau priodol
nodi a oes unrhyw broblemau a allai gael effeithiau
ar wardiau cyfagos a gellir ailystyried y cylch gorchwyl bob amser yn y fforymau hynny. Holodd yr Aelodau hefyd ynghylch y posibilrwydd o ddosbarthu cofnodion y fforwm cyswllt i'r Cadeiryddion
Craffu. Dywedodd Swyddogion, gan fod y pwyllgorau cyswllt yn gyrff
allanol, na fyddai'r cofnodion yn cael eu
dosbarthu i holl gynrychiolwyr y cyngor. Awgrymodd Swyddogion ymhellach, fel rhan o'r
blaenraglen waith craffu, fod y cyngor
yn dod o hyd i ffyrdd
o wneud yn siŵr bod cadeiryddion yn cael eu
diweddaru'n rheolaidd ac i geisio dod
o hyd i ffyrdd
o roi eitemau sefydlog ar agendâu
ac ystyried y materion hynny. Ystyriodd Swyddogion y pwyntiau a godwyd a dywedasant wrth edrych ar yr effeithiau ar y cwm a'r gweithlu, mai’r rheswm nad oedd unrhyw effeithiau wedi'u cofnodi ar yr adroddiad oedd oherwydd pwrpas yr adroddiad oedd manylu ar y broses sefydlu yn gyffredinol, ac roedd yn ymwneud yn benodol â'r fframwaith llywodraethu sydd wedi'i roi ar waith ynghyd â'r ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Rhaglen Gwaith Cychwynnol 2022/23 Cofnodion: Penderfynodd Aelodau eu bod am ychwanegu adroddiad creu incwm 2022/2023 at y Blaenraglen Waith. Nodwyd y Flaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau
brys (boed yn gyhoeddus neu
wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |