Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet aa gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd Bwyllgor Craffu'r
Cabinet ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Hunanasesiad 2021/2022
Derbyniodd Aelodau wybodaeth
am hunanasesiad drafft y cyngor ar gyfer
2021/2022. Mae'n ofynnol i'r cyngor gyhoeddi'r
hunanasesiad o fewn 4 wythnos iddo gael
ei gymeradwyo yn unol â'r
adroddiad a ddosbarthwyd.
Soniodd yr Aelodau am faint
o fanylion oedd yn yr adroddiad
ac awgrymwyd y syniad o gael casgliad ar
y dechrau i gael trosolwg gwell
ar ddechrau adroddiadau. Dywedodd Swyddogion fod gofyniad statudol arnynt i gynnwys
manylion penodol ond dywedasant y byddant yn cyflwyno
fersiwn hawdd ei darllen pan fyddant yn ei
gyhoeddi. Dywedodd Swyddogion hefyd y byddant yn ystyried
sylwadau'r bwrdd ynglŷn â chael crynodeb ar ddechrau
adroddiadau pan fyddant yn llunio asesiad
2022/23.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Sefydlu Fforwm Cyswllt mewn perthynas â Chyrchfan Antur Cwm Afan
Hysbyswyd yr Aelodau am gais Wildfox Resorts Afan Valley Limited, i sefydlu fforwm cysylltu â chynrychiolwyr o Wildfox Resorts Afan Valley
Limited mewn perthynas â datblygu Cyrchfan Antur Cwm Afan. Prif ddiben y fforwm
cyswllt yw sicrhau y gwneir yn fawr o fanteision
cymdeithasol, amgylcheddol,
ac economaidd Cyrchfan Antur Cwm Afan ar gyfer y cymunedau
lleol, yn unol â'r adroddiad.
Mynegodd Aelodau bryderon yn ymwneud ag eitemau
8 a 9 o becyn agenda'r
Cabinet. Nodwyd bod yr effaith ar gymuned
y cwm ac effaith ar y gweithlu ar gyfer
y ddau adroddiad yn manylu nad
oedd unrhyw oblygiadau. Teimlai'r Aelodau y byddai effeithiau sylweddol ar y gweithlu o ran yr adroddiadau oherwydd y gefnogaeth weinyddol y byddai ei hangen gan
adrannau perthnasol.
Roedd Aelodau hefyd yn teimlo y gallai
fod effaith ar wardiau eraill
a byddai ystyried cynnwys Aelodau o Gwm Afan isaf
ar y pwyllgor cyswllt yn fuddiol.
Esboniodd Swyddogion y byddai'n agored i Aelodau a oedd
wedi'u penodi i'r fforymau priodol
nodi a oes unrhyw broblemau a allai gael effeithiau
ar wardiau cyfagos a gellir ailystyried y cylch gorchwyl bob amser yn y fforymau hynny.
Holodd yr Aelodau hefyd ynghylch y posibilrwydd o ddosbarthu cofnodion y fforwm cyswllt i'r Cadeiryddion
Craffu. Dywedodd Swyddogion, gan fod y pwyllgorau cyswllt yn gyrff
allanol, na fyddai'r cofnodion yn cael eu
dosbarthu i holl gynrychiolwyr y cyngor. Awgrymodd Swyddogion ymhellach, fel rhan o'r
blaenraglen waith craffu, fod y cyngor
yn dod o hyd i ffyrdd
o wneud yn siŵr bod cadeiryddion yn cael eu
diweddaru'n rheolaidd ac i geisio dod
o hyd i ffyrdd
o roi eitemau sefydlog ar agendâu
ac ystyried y materion hynny.
Ystyriodd Swyddogion y pwyntiau
a godwyd a dywedasant wrth edrych ar
yr effeithiau ar y cwm a'r gweithlu,
mai’r rheswm nad oedd unrhyw
effeithiau wedi'u cofnodi ar yr
adroddiad oedd oherwydd pwrpas yr adroddiad oedd
manylu ar y broses sefydlu yn gyffredinol,
ac roedd yn ymwneud yn benodol
â'r fframwaith llywodraethu sydd wedi'i roi ar
waith ynghyd â'r cylch gorchwyl.
Nodwyd y byddai adroddiadau pellach sy'n manylu ar
waith y prosiectau yn cynnwys yr
effeithiau priodol.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Sefydlu Panel Cynghori mewn perthynas â'r Ganolfan Ragoriaeth
Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd
Hysbyswyd yr Aelodau am sefydlu Panel Cynghori mewn perthynas â'r Ganolfan Ragoriaeth
Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd a chylch gorchwyl y Panel Cynghori Canolfan Ragoriaeth Fyd-Eang ar gyfer Rheilffyrdd
a sefydlwyd gan GCRE Ltd. Gofynnwyd iddynt hefyd gytuno ar
gynrychiolwyr y cyngor i'r gwahanol bwyllgorau
a sefydlwyd gan y Panel Cynghori, yn dilyn
cais gan GCRE Ltd, yn unol â'r
adroddiad a ddosbarthwyd.
Cynhaliwyd y brif drafodaeth ar gyfer yr
eitem hon dan Eitem 8. Nododd yr Aelodau
y byddai angen iddynt sicrhau bod Cynrychiolwyr CNPT sydd ar y pwyllgorau hynny yn ymwybodol
o bryderon pobl leol fel y gallant eu cynrychioli'n llawn.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Cam
Un yr Adolygiad Llety
Dywedwyd wrth yr Aelodau fod Swyddogion
yn ceisio cymeradwyaeth i gau pump o adeiladau swyddfa gweithredol Cyngor Castell-nedd Port Talbot a
datgan nad oes eu hangen
mwyach at ddibenion gofynion gweithredol o 31 Mawrth
2023 yn unol â'r adroddiad.
Eglurodd Swyddogion mai pwrpas yr adolygiad
o lety hwn yw galluogi'r awdurdod
lleol i leihau
nifer yr adeiladau y mae'r awdurdod yn eu
defnyddio gan fod yr awdurdod
yn talu rhent
ar y rheini ac hefyd oherwydd y defnydd o ynni a biliau cyfleustodau eraill sy'n deillio
o hynny ac sy'n gysylltiedig â'r adeiladau hynny sy'n cael eu
defnyddio. Byddai lleihau nifer yr
adeiladau'n helpu i leihau costau
fel bod modd gwarchod gwasanaethau a sicrhau bod egwyddorion cynaladwyedd y mae'r awdurdod, Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU eisiau eu cyflawni, sef
carbon sero-net diogel erbyn 2030 yn cael
eu bodloni.
Dywedodd Swyddogion y byddant
yn ceisio defnyddio'r adeiladau sy'n cael eu
cadw yn y tymor hir gan nad
ydynt am symud staff i adeilad arall
sy'n mynd i gostio i'r
awdurdod ei weithredu neu fel arall eu symud
i adeilad arall a allai
fod yn rhan
o gam diweddarach y strategaeth
llety. Dywedodd Swyddogion mai cam un yn unig o strategaeth
aml-gam yw hwn.
Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad a manylion ynghylch y mater ar dudalen 91/92 o'r adroddiad, lle mae hyd at chwe
ystafell yn ysbyty Cimla yn cael eu cadw
at ddibenion hyfforddi arbenigol ar gyfer
y gwasanaethau cymdeithasol
ac roeddent yn gofyn am ragor o fanylion ynglŷn ag a oes llinell
amser ar waith a phroses ar gyfer trefnu
adleoli.
Dywedodd Swyddogion fod yr ystafelloedd wedi'u cadw ar
gyfer hyfforddiant trafod â llaw ac nid oes amserlen
ar gyfer Swyddogion i symud
yr offer arbenigol a'i adleoli wedi'i
phenderfynu, ond bydd Swyddogion yn rhoi gwybod
i'r pwyllgor cyn gynted ag y bydd ganddynt un. Rhoddodd Swyddogion hefyd esboniad byr o’r hyn
y byddai staff yn ei symud ac i
ble y byddent yn symud iddo
o ran y gwasanaethau cymdeithasol.
Cafwyd trafodaeth am fanylion
yr adroddiad gyda'r Aelodau'n awgrymu y dylai'r adroddiad fod wedi
cynnwys dadansoddiadau manwl ar bob cynnig
ac esboniad ar y costau a fyddai'n cael eu harbed
drwy gau'r adeiladau neu wrth ildio'r brydles. Cytunodd Swyddogion i ddarparu dadansoddiad
manylach i’r Aelodau a'i ddosbarthu
ar ôl y cyfarfod
ynghyd â manylion pellach mewn adroddiadau
yn y dyfodol.
Cafwyd trafodaeth ynghylch
diogelwch a'r costau parhaus o gadw a chynnal adeiladau gwag tan iddynt gael eu
gwerthu. Dywedodd Swyddogion na fyddai
angen i ddiogelwch
fod yn bresennol
ym mhob eiddo.
Byddai'r eiddo'n cael eu harchwilio
ar ôl eu
gadael er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel, a'r
awdurdod fydd yn gyfrifol am ofal a chynnal a chadw'r eiddo yn
y dyfodol.
Dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd gan yr awdurdod
daliadau gwasanaeth a bydd dal angen gwresogi’r adeiladau o hyd tra’u bod yn
wag er mwyn atal unrhyw leithder a dadfeilio. Dywedodd Swyddogion, o'i gymharu â'r costau
yr eir iddynt
gan adeiladau a ddefnyddir yn llawn
neu'n rhannol, y bydd y costau’n llawer llai.
Roedd trafodaeth ynghylch
goblygiadau posib ar gyfer dod
â phrydlesi i ben gyda CGG a allai
gael effaith gynyddol ar bobl
leol a chreu costau yn y dyfodol.
Mewn trafodaeth ragarweiniol gyda'r sefydliadau sy'n berchen ar yr
adeiladau, dywedodd Swyddogion na fyddai
effaith andwyol ar y perchnogion hynny oherwydd bod yr awdurdod yn
gadael yr eiddo ar brydles.
Holodd yr Aelodau sut mae'r adroddiad
yn cyflawni ei arbedion o ran y £158,000. Roedd yr Aelodau
am ddeall a oedd hynny'n cynnwys
ardrethi busnes ac a yw'n rhagdybio y bydd y ddau adeilad
hynny’n cael eu gwerthu’n gyflym.
Teimlai'r Aelodau fod diffyg manylion
o ran a yw'r adroddiad yn tybio
y bydd gan yr awdurdod y ddau
eiddo o hyd am 12 mis. Teimlai'r Aelodau nad oedd digon
o fanylion i ddeall yr hyn
yr oeddent yn cytuno iddo
a bod yr adroddiad wedi cael ei
ddefnyddio i gydbwyso'r gyllideb, ond does dim sicrwydd y bydd yn dwyn
ffrwyth. Mynegodd Aelodau bryderon y dylid cael rhagor
o fanylion yn y papur cyllideb hwnnw a gofynnwyd i'r wybodaeth hon gael ei dosbarthu
i bob aelod o'r cyngor gan
ei bod yn berthnasol i'r gyllideb y bydd y cyngor yn penderfynu
arni ym mis Mawrth.
Esboniodd Swyddogion fod nifer o ragdybiaethau yn yr adroddiad
sydd wedi'u cynnwys yn y costau,
gan na fydd
Swyddogion yn gwybod y canlyniad gan ei fod
yn gysylltiedig â marchnata'r eiddo hwnnw. Dywedodd Swyddogion mai Bwrdd y Cabinet sy'n gyfrifol am gymeradwyo gwerthu eiddo. Mynegodd Aelodau bryderon, heb wybod
a yw'r rhagdybiaeth
sydd wedi'i defnyddio wrth arbed costau yn
dibynnu ar werthiant yr eiddo
ac roedd rhai Aelodau yn teimlo'n
anghyfforddus y gallant argymell
penderfyniad a allai arwain at werthu adeilad heb eu
bod wedi ystyried opsiynau eraill.
Yn
dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet gydag un aelod yn pleidleisio yn erbyn yr
argymhelliad.
Adroddiad Monitro
Cyllideb Gyfalaf 22/23 o ddiwedd mis Rhagfyr 2022
Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau mewn perthynas
â chyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2022/23 yn unol â'r adroddiad.
Rhoddodd Swyddogion hefyd drosolwg o'r adroddiad
gan gynghori mai dyma'r adroddiad
monitro ar gyfer y rhaglen gyfalaf o ddiwedd mis Rhagfyr. Roedd yn manylu bod y rhaglen gyfalaf flaenorol y cytunwyd arni gan y Cabinet yn £70.4 miliwn. Mae'r adroddiad hwn yn cynnig
rhaglen gyfalaf newydd ar gyfer
eleni, sef £54 miliwn gyda nifer
o ddiwygiadau y nodwyd yn yr adroddiad
yn dangos y newidiadau o'r gyllideb a gymeradwywyd yn flaenorol i'r
un a gynigiwyd gerbron y Cabinet.
Cododd Aelodau bryderon mewn perthynas â'r nifer o feysydd
sydd wedi'u rhestru ar gyfer
eu hailbroffilio a nifer y tanwariant drwy gydol yr
adroddiad. Tynnodd yr Aelodau sylw at 29 maes ailbroffilio ar amcangyfrif o £21,000,000 ar gyfer y prosiectau
cyfalaf y flwyddyn nesaf. Tynnodd yr Aelodau sylw at y Grant Cyfleusterau i'r Anabl, y Fargen Ddinesig, Parc Margam, Byw â Chymorth a chynnal a chadw ysgolion fel meysydd yr
oeddent am gael eglurder arnynt.
Cytunodd Swyddogion fod cryn dipyn o waith
ailbroffilio i'w wneud. Esboniodd Swyddogion o ran y Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, y cariwyd swm sylweddol o gyllideb ymlaen o 2021/22 oherwydd anallu i gael contractwyr
i weithio yn ystod y pandemig,
a ychwanegwyd at gyllideb 22/23. Oherwydd maint y gadwyn gyflenwi, cafodd ei ailbroffilio eto oherwydd eto,
ni allant gael pobl i
wneud y gwaith.
Esboniodd Swyddogion fod prinder adnoddau yn y tîm adfywio
mewn perthynas â'r Fargen Ddinesig,
a thrafferthion o ran gallu
recriwtio pobl addas i dimau'r prosiect.
Mae Swyddogion wedi bod yn gweithio drwy
gydol y flwyddyn o ran ceisiadau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ceisiadau'r Gronfa Codi'r Gwastad, cyrchfan Wild Fox etc., sy'n golygu bod rhai o brosiectau'r fargen ddinesig hynny wedi gorfod symud
i'r flwyddyn nesaf.
Dywedodd Swyddogion hefyd fod Llywodraeth Cymru, o ran peth o'r rhaglen
ysgol, wedi clustnodi arian ychwanegol yn ystod
y flwyddyn, felly mae hynny wedi symud
yr arian i'r flwyddyn nesaf.
Mae hyn yn golygu bod yr awdurdod
yn gwario rhywfaint o arian Llywodraeth Cymru yn lle hynny. Esboniodd
Swyddogion hefyd fod ffenestr gyfyngedig
lle gallwch ymgymryd â gwaith cyfalaf mewn ysgolion
felly mae yna broblem adnoddau a phroffilio.
O
ran byw â chymorth, esboniodd Swyddogion ei fod yn
gyfraniad y mae'r awdurdod yn ei
wneud tuag at brosiect y mae Dinas a Sir
Abertawe yn ei gynnal, sy'n golygu
oedi o ran cyfraniad i'r prosiect hwnnw.
O
ran Parc Margam, dywedodd Swyddogion
fod gwaith pellach yn cael
ei wneud o ran y prosiect yno, a disgwylir i'r adroddiad
gael ei ddychwelyd
cyn cyfarfod y Bwrdd Cabinet perthnasol yn fuan.
Roedd Aelodau eisiau gwybod beth mae
Swyddogion yn ei wneud i
fynd i'r afael â diffyg gweithlu mewn perthynas
â gweithredu rhaglenni gwaith cyfalaf yn y dyfodol.
Eglurodd Swyddogion fod yr awdurdod wedi
cryfhau sawl swyddogaeth yn y gyfarwyddiaeth amgylchedd ar draws Cynllunio, Priffyrdd ac Adfywio a bod yr awdurdod yn
bwriadu gwneud yr un peth gyda'r
arian sydd ganddynt o’r Gronfa
Ffyniant Gyffredin.
Eglurwyd hefyd y bydd cynnig yn cael
ei wneud yn ystod y misoedd
nesaf a fydd yn ymwneud â rhai
o'r buddsoddiadau mwy strategol sydd
gan yr awdurdod
ac ail-lunio'r ffordd y mae'r awdurdod yn ymateb i'r
rheini.
Bydd cynigion pellach yn dod i'r
amlwg yn ystod y misoedd nesaf sy'n golygu
bod adnoddau ar gyfer y prosiectau mwy'n gyfyngedig. Eglurwyd nad yw'r
awdurdod wedi gallu recriwtio pobl i dimau
prosiect er gwaethaf ymdrechion helaeth i ddefnyddio gwahanol
sianeli ar gyfer hysbysebu. Fodd bynnag, mae'r
awdurdod wedi sicrhau cymeradwyaeth gan fwrdd y rhaglen
i benodi ymgynghorydd i ymgymryd â dyletswyddau o ran y
cam cyntaf fel bod yr awdurdod yn
gallu gwneud cynnydd.
Mae
gan yr awdurdod
gofrestrau risg ar waith ar
gyfer pob prosiect ac mae Swyddogion yn adrodd
i fyrddau rhaglenni yn rheolaidd
mewn perthynas â'r risgiau hynny
ac mae Swyddogion yn hyderus y gallant gyflawni'r canlyniadau a nodwyd i ddechrau
er eu bod yn amodol ar yr
oedi y cyfeirir atynt yn yr
eitem.
Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â diffyg manylder mewn adroddiadau ynghylch yr eitemau
a drafodwyd, rhoddodd Swyddogion rywfaint o gyd-destun ynghylch y newid yn y proffil
risg yr oedd
angen i'r cynghorwyr ei reoli.
Dywedodd y Prif Weithredwr, oherwydd bod llawer mwy o wybodaeth
yn cael ei
rhoi ym mhob
adroddiad, mae'n cymryd hyd yn
oed mwy o amser Swyddogion ac mae Swyddogion yn ei chael
hi'n anodd iawn mewn rhai
meysydd o ran adnoddau ac anogwyd Aelodau i ofyn am ragor
o fanylion i ddeall risgiau.
Gofynnodd yr Aelodau i Swyddogion a fydd unrhyw arian
yn cael ei
wario ar Sinema Canolfan Celfyddydau Pontardawe yn y flwyddyn ariannol
nesaf. Gofynnodd yr Aelodau hefyd,
o ystyried chwyddiant, y gallai'r prosiectau sy'n cael eu
hailbroffilio ar yr un swm olygu
y gallai fod angen rhywfaint o arian ychwanegol ar y prosiect.
Dywedodd yr Aelodau fod papurau'r gyllideb
yn ei gwneud
yn glir y bydd y prosiectau a'r canolfannau yn dechrau talu
eu costau eu hunain yn
llawn heb gymhorthdal. Teimlai'r Aelodau y gallai canolfannau cyhoeddus penodol ei chael
hi'n anodd a nodwyd pwysigrwydd y drafodaeth ar y gyllideb sydd i
ddod.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Adroddiad Monitro'r
Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/2023 - o ddiwedd mis Rhagfyr 2022
Rhoddwyd gwybodaeth i'r Aelodau mewn perthynas
â sefyllfa cyllideb refeniw ragamcanol y cyngor yn unol
â’r adroddiad. Ychwanegodd Swyddogion hefyd eu bod yn
falch o nodi mai'r amcanestyniad diweddaraf yw bod gorwariant y cyngor (ac eithrio ysgolion) wedi gostwng i £86,000 ar ôl symudiadau
o ran arian wrth gefn.
Holodd yr Aelodau am dudalen 123, a'r adran a oedd
yn ymwneud ag ardollau a chyfraniadau, ar wahân i'r
Awdurdod Tân, rhestrodd yr adroddiad ardollau
a chyfraniadau eraill. Roedd yr Aelodau
am gael enghraifft o ba gyrff oedd
y rheini.
Eglurodd Swyddogion fod
£46,000 ar gyfer ardoll Awdurdod Iechyd Porthladd Abertawe, £1,000 ar gyfer ardoll Cyd-bwyllgor
Amlosgfa Margam, a £117,000 ar
gyfer ardoll y Cyd-bwyllgor Corfforedig. Mae yna hefyd gyfraniad
o £9,000 tuag at y Gwasanaeth
Archifau a chyfraniad o
£10,000 tuag at y Llys Ynadon o ystyried y cyfanswm o £270,000 a nodir.
Holodd yr Aelodau am adran yr adroddiad
ar dudalen 119 a oedd yn
ymwneud â'r gwasanaeth cyngor am dai a chefnogi tenantiaid sy'n rhagweld gorwariant o £656,000. Roedd yr adroddiad
yn nodi ei fod wedi'i gynnwys
mewn polisi. Amlygodd yr Aelodau
nad yw'r adroddiad yn egluro
sut y telir am y gorwariant.
Dywedodd Swyddogion ei fod yn newid
ym mholisi Llywodraeth Cymru. Mae Swyddogion
wedi ei gynnwys
fel pwysau dan ystyriaeth. Eglurodd Swyddogion fod yr awdurdod yn
ystyried y polisi ailgartrefu cyflym ac am weithredu hwnnw cyn gynted â phosib
gan mai'r gobaith yw y bydd
hynny'n lleihau rywfaint ohono. Dywedodd Swyddogion hefyd fod angen
i'r awdurdod symud at ataliaeth yn y gobaith y bydd yn lleihau'r
gorwariant, gan ddweud bod Swyddogion yn gweithio ar
ymagwedd wahanol at dod o hyd i
gartrefi i bobl dros y misoedd
nesaf a’u bod yn gwneud llawer
o waith y tu ôl i'r llenni
i geisio lleihau'r gorwariant. Dywedodd wrth yr
Aelodau y byddant yn cael eu
diweddaru'n fanylach yn ystod y misoedd
nesaf.
Roedd Aelodau'n cydymdeimlo
â gwaith Swyddogion ac yn siomedig nad
yw'r newid mewn deddfwriaeth wedi'i ariannu a nodwyd ei fod
yn fater o lobïo Llywodraeth Cymru i geisio cyllid
ar gyfer materion o'r fath.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet.
Adroddiad Monitro'r
Gofrestr Risgiau 2022/2023
Cafodd yr Aelodau yr wybodaeth ddiweddaraf
am Risgiau Strategol y cyngor yn unol
â'r adroddiad.
Gofynnodd yr Aelodau am y risg o dirlithriad ym Mhant-teg, Cyfyng Road. Esboniodd Swyddogion y cafwyd problemau o ran dymchwel cam un o Cyfyng Road. Mae'r
awdurdod yn cysylltu â pherchnogion yr eiddo ac mae'r
cyfreithwyr sy'n gweithredu ar eu
rhan yn gwneud
diwygiadau munud olaf ar hyn
o bryd na fydd yn gwneud
unrhyw wahaniaeth sylweddol i'r canlyniad.
Mae
gan Swyddogion fanylion Iechyd a Diogelwch a Rheoli Dylunio Adeiladu'r contractwr, sydd wedi cael
eu hystyried yn fewnol, gyda'r
contractwyr yn gobeithio bod ar y safle ganol mis Mawrth. Dywedodd Swyddogion y bydd yr awdurdod
yn hysbysu’r gymuned leol bythefnos
cyn dechrau ar y safle bod y gwaith yn mynd
yn ei flaen
i ddymchwel cam un a’u bod yn gobeithio
y bydd gan yr awdurdod fomentwm
ar gyfer cam dau.
Dywedwyd wrth yr Aelodau fod cam dau yn fwy
cymhleth gan fod y cwmnïau yswiriant
yn dal i fethu â thalu perchnogion
yr eiddo hynny gan nad
ydynt o'r farn bod problem iechyd a diogelwch
go iawn yn gysylltiedig â'r eiddo hynny. Mae Swyddogion yn gobeithio,
unwaith y dechreuir ar gam un y bydd yn anfon neges
glir i'r cwmnïau yswiriant a gellir symud ymlaen
gyda cham dau.
Gofynnodd yr Aelodau am y risg nad oedd
buddsoddiad digonol ym mhrif isadeiledd
y cyngor ac roeddent am wybod a yw'r
awdurdod wedi ystyried y risg o gynnal a chadw'r adeiladau wrth lunio'r gofrestr risgiau. Yn ogystal
ag a oedd hi'n bosib cael
cofnod o gyflwr cyfredol ei holl
adeiladau, a yw’r risg honno wedi'i
hystyried a'i hasesu ac os nad
ydynt wedi bodloni'r meini prawf i’w rhoi
ar y gofrestr.
Esboniodd Swyddogion ei bod yn ymddangos bod mesurau lliniaru ar goll o'r
adroddiad gan fod gan yr
awdurdod gynlluniau rheoli asedau eiddo
ond mae'n ymddangos nad ydynt
wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.
Er enghraifft, mae'r sail y
mae'r awdurdod yn dewis ysgolion
o fewn y rhaglen strategol Gwella Ysgolion yn ystyried
y risgiau sy'n ymwneud â'r adeiladau.
Ailadroddodd Swyddogion fod dulliau ar
waith sydd wedi asesu'r risgiau
sy'n ymwneud ag asedau eiddo'r awdurdod, ond mae'n
ymddangos bod y llinellau sy'n ymwneud â chynnal a chadw adeiladau wedi cael eu gadael
allan ar yr ailadroddiad hwn o'r adroddiad
yn ddamweiniol.
Cytunwyd bod rhywfaint o fanylion
ar goll o'r
adroddiad sy'n adlewyrchu'r trefniadau ynghylch rheoli asedau eiddo a byddai'r rheini'n cael eu cynnwys
yn yr adroddiad
nesaf y tro nesaf.
Cytunwyd hefyd y byddai Swyddogion yn dosbarthu
copi o'r Cynllun Rheoli Asedau i Aelodau.