Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem | |
---|---|---|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Gwnaed
datganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod gan yr aelod canlynol. Y Cynghorydd M Harvey -
Parthed: Eitemau Agenda 5, 6, 7 a 9 ym mhapurau'r Cabinet gan ei fod yn
gweithio i Heddlu De Cymru ond teimlai nad oedd ei ddiddordeb yn rhagfarnol. |
||
Craffu Cyn Penderfynu
Cofnodion: Craffodd
y pwyllgor ar yr eitem frys ganlynol ar agenda'r Cabinet: Cyllideb
Refeniw 2022/23 Ystyriodd
yr Aelodau gyllideb refeniw 2022/23 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot, gan gynnwys buddsoddiadau mewn gwasanaethau, buddsoddiadau o gronfeydd
wrth gefn a lefelau Treth y Cyngor arfaethedig, fel y manylir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch y cynnig i rewi Treth y Cyngor Castell-nedd Port Talbot
ar gyfer 2022/23. Amlygwyd mai Castell-nedd Port Talbot sydd â'r drydedd
gyfradd uchaf o ran Treth y Cyngor yng Nghymru. O fewn yr ymgynghoriad, nodwyd
bod canran uchel o ymatebion o blaid rhewi'r gyfradd. Fodd bynnag, holwyd
ynghylch y ffaith nad oedd opsiwn o fewn yr ymgynghoriad i leihau Treth y
Cyngor ac roedd aelodau'n teimlo y gallai hyn fod wedi cael ymateb da hefyd.
Amlygodd yr Aelodau fod eitem frys mewn perthynas â sefydlu cronfa galedi gan
ddefnyddio arian o'r tanwariant hefyd o fewn y pecyn. Holodd yr Aelodau a ellid
defnyddio'r arian hwnnw i dalu'r arian ychwanegol i gynnig gostyngiad yn Nhreth
y Cyngor. Esboniodd swyddog Adran 151 fod dyletswydd arno i ddarparu cynigion
doeth, fforddiadwy a chynaliadwy i'r Cabinet a'r cyngor eu hystyried ac o fewn
ei rôl broffesiynol, roedd yn teimlo mai rhewi oedd yr opsiwn mwyaf fforddiadwy
a chynaliadwy i aelodau eu hystyried. Gofynnodd yr Aelodau i'r Cabinet
ailystyried lefel Treth y Cyngor a gyflwynir i'r Cabinet a'r cyngor a darparu
cynnig arall sy'n dangos gostyngiad yn Nhreth y Cyngor. Holodd
yr Aelodau pe bai 3.1 miliwn yn cael ei drosglwyddo o gronfeydd wrth gefn
cyffredinol y byddai 17 miliwn yn weddill. Cadarnhaodd swyddogion y byddai 17
miliwn yn weddill yn y cronfeydd wrth gefn. Amlygwyd
hefyd bod y tâl am reoli plâu wedi gostwng i dâl o £40. Trafododd
yr Aelodau'r potensial ar gyfer unrhyw faterion annisgwyl sy'n codi yn y
dyfodol, yn dilyn canlyniad y pandemig. Felly, teimlai ei bod yn bwysig sicrhau
y gallwn ddarparu cyfradd Treth y Cyngor fforddiadwy i'r cyhoedd ynghyd â
sicrhau bod gan y cyngor gronfeydd wrth gefn cynaliadwy. Gofynnodd
yr Aelodau i'r Cabinet ystyried a fyddent yn ystyried lleihau Treth y Cyngor yn
hytrach na'i rewi cyn i'r penderfyniad ar Dreth y Cyngor gael ei wneud yng
nghyfarfod y Cyngor yfory, fel y'i cynhwysir ar hyn o bryd yn yr argymhellion
yn y cyfarfod heddiw. O ganlyniad ymatalodd rhai aelodau rhag pleidleisio yn y
bleidlais a ddilynodd hyn. Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad i'r Cabinet. Strategaeth
Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 i 2024/25 Derbyniodd
yr Aelodau'r Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23 i
2024/25. Mae'r Strategaeth Gyfalaf yn nodi proses gynllunio'r Rhaglen Gyfalaf
ac ystyriaethau llywodraethu a chynaliadwyedd ariannol fel y nodir yn yr
adroddiad o ddosbarthwyd. Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch costau'r gwaith a gwblhawyd ar waith carreg Castell
Margam. Nodwyd bod y gwaith wedi'i gymeradwyo fel rhan o raglen gyfalaf y
llynedd. Trafododd yr aelodau fenthyca darbodus hefyd. Nodwyd bod cyfraddau llog yn isel ar hyn o bryd. Nodwyd y byddai'r swyddog Adran 151 yn rhoi ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
||
Eitemau brys
Cofnodion: Oherwydd
yr angen i ymdrin â'r mater sydd wedi'i gynnwys yng Nghofnod Rhif 12 isod,
cytunodd y Cadeirydd y gellid codi hyn yn y cyfarfod heddiw fel eitem frys yn
unol ag Adran 100B (4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rheswm: Oherwydd
yr elfen amser. |
||
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Craffodd
y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda'r Cabinet: Cynnig
i greu cynllun cymorth caledi wedi'i dargedu Rhoddwyd
gwybod i'r Aelodau am y cais am gyngor pellach ynghylch sut y gellir
defnyddio'r tanwariant sy'n weddill ar gyfer 2021/22 i ddatblygu ystod o
fesurau i gefnogi'r rheini sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau
byw, fel y manylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd,
yn dilyn cyhoeddi adroddiad monitro diweddaraf y gyllideb refeniw sy'n cynnwys
manylion tanwariant pellach o £2.3m (ar ôl trosglwyddo cronfeydd wrth gefn),
fod y Cabinet wedi gofyn am gyngor pellach ynghylch sut y gellir defnyddio'r
tanwariant hwn i gefnogi preswylwyr y Fwrdeistref Sirol sydd ar hyn o bryd yn
cael eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng costau byw. Cymeradwyodd
yr aelodau'r adroddiad a'r rhesymeg dros gael cronfa galedi. Holwyd pa fath o
feini prawf a osodir. Nodwyd y gwneir hynny dim ond er mwyn neilltuo'r arian i
ddatblygu'r cynllun ac y byddai'r meini prawf yn cael eu gosod yn ystod
cyfarfod yn y dyfodol. Roedd yr Aelodau'n poeni am gefnogi'r adroddiad heb y
meini prawf, fodd bynnag, roeddent yn deall egwyddor y gronfa galedi a'r meini
prawf posib. Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch hwyrni'r adroddiad. Eglurodd Aelod y Cabinet dros gyllid
fod yr adroddiad yn hwyr oherwydd yr hysbysiad hwyr o gyfanswm y tanwariant yn
dilyn cyfarfod diweddar. Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y
Cabinet. |