Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau
Craffu) |
Cofnodion:
Craffodd
y pwyllgor ar yr eitem frys ganlynol ar agenda'r Cabinet:
Cyllideb
Refeniw 2022/23
Ystyriodd
yr Aelodau gyllideb refeniw 2022/23 Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port
Talbot, gan gynnwys buddsoddiadau mewn gwasanaethau, buddsoddiadau o gronfeydd
wrth gefn a lefelau Treth y Cyngor arfaethedig, fel y manylir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch y cynnig i rewi Treth y Cyngor Castell-nedd Port Talbot
ar gyfer 2022/23. Amlygwyd mai Castell-nedd Port Talbot sydd â'r drydedd
gyfradd uchaf o ran Treth y Cyngor yng Nghymru. O fewn yr ymgynghoriad, nodwyd
bod canran uchel o ymatebion o blaid rhewi'r gyfradd. Fodd bynnag, holwyd
ynghylch y ffaith nad oedd opsiwn o fewn yr ymgynghoriad i leihau Treth y
Cyngor ac roedd aelodau'n teimlo y gallai hyn fod wedi cael ymateb da hefyd.
Amlygodd yr Aelodau fod eitem frys mewn perthynas â sefydlu cronfa galedi gan
ddefnyddio arian o'r tanwariant hefyd o fewn y pecyn. Holodd yr Aelodau a ellid
defnyddio'r arian hwnnw i dalu'r arian ychwanegol i gynnig gostyngiad yn Nhreth
y Cyngor. Esboniodd swyddog Adran 151 fod dyletswydd arno i ddarparu cynigion
doeth, fforddiadwy a chynaliadwy i'r Cabinet a'r cyngor eu hystyried ac o fewn
ei rôl broffesiynol, roedd yn teimlo mai rhewi oedd yr opsiwn mwyaf fforddiadwy
a chynaliadwy i aelodau eu hystyried. Gofynnodd yr Aelodau i'r Cabinet
ailystyried lefel Treth y Cyngor a gyflwynir i'r Cabinet a'r cyngor a darparu
cynnig arall sy'n dangos gostyngiad yn Nhreth y Cyngor.
Holodd
yr Aelodau pe bai 3.1 miliwn yn cael ei drosglwyddo o gronfeydd wrth gefn
cyffredinol y byddai 17 miliwn yn weddill. Cadarnhaodd swyddogion y byddai 17
miliwn yn weddill yn y cronfeydd wrth gefn.
Amlygwyd
hefyd bod y tâl am reoli plâu wedi gostwng i dâl o £40.
Trafododd
yr Aelodau'r potensial ar gyfer unrhyw faterion annisgwyl sy'n codi yn y
dyfodol, yn dilyn canlyniad y pandemig. Felly, teimlai ei bod yn bwysig sicrhau
y gallwn ddarparu cyfradd Treth y Cyngor fforddiadwy i'r cyhoedd ynghyd â
sicrhau bod gan y cyngor gronfeydd wrth gefn cynaliadwy.
Gofynnodd
yr Aelodau i'r Cabinet ystyried a fyddent yn ystyried lleihau Treth y Cyngor yn
hytrach na'i rewi cyn i'r penderfyniad ar Dreth y Cyngor gael ei wneud yng
nghyfarfod y Cyngor yfory, fel y'i cynhwysir ar hyn o bryd yn yr argymhellion
yn y cyfarfod heddiw. O ganlyniad ymatalodd rhai aelodau rhag pleidleisio yn y
bleidlais a ddilynodd hyn.
Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad i'r Cabinet.
Strategaeth
Gyfalaf a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 i 2024/25
Derbyniodd
yr Aelodau'r Strategaeth Gyfalaf a'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2022/23 i
2024/25. Mae'r Strategaeth Gyfalaf yn nodi proses gynllunio'r Rhaglen Gyfalaf
ac ystyriaethau llywodraethu a chynaliadwyedd ariannol fel y nodir yn yr
adroddiad o ddosbarthwyd.
Cynhaliwyd
trafodaethau ynghylch costau'r gwaith a gwblhawyd ar waith carreg Castell
Margam. Nodwyd bod y gwaith wedi'i gymeradwyo fel rhan o raglen gyfalaf y
llynedd.
Trafododd
yr aelodau fenthyca darbodus hefyd. Nodwyd bod cyfraddau llog yn isel ar hyn o
bryd. Nodwyd y byddai'r swyddog Adran 151 yn rhoi rhagor o fanylion am fenthyca
darbodus y tu allan i'r cyfarfod.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y
Cabinet.
Adroddiad
Monitro'r Gyllideb Misol 2021/22 - fel yr oedd ar ddiwedd mis Rhagfyr 2021
Derbyniodd
yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa gyllidebol ragamcanol y cyngor
yn seiliedig ar wybodaeth a oedd ar gael ers 31 Rhagfyr 2021.
Rhoddwyd
gwybod i'r Aelodau fod yr eitem frys sydd i'w thrafod yn y cyfarfod heddiw yn
gysylltiedig â'r adroddiad hwn.
Holodd
yr aelodau a ellid defnyddio'r tanwariant o £2.3 miliwn i leihau Treth y
Cyngor. Eglurodd y swyddog adran 151 y byddai'r tanwariant yn cael ei ystyried
gan y Cabinet.
Amlygwyd
pe bai'r Cabinet yn dewis cytuno â'r Gronfa Galedi, yna roedd y cyngor wedi
defnyddio'r tanwariant i gefnogi pobl mewn cyfnod anodd.
Holodd
yr Aelodau ynghylch y tanwariant mewn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Nodwyd y
derbyniwyd cyllid ac felly nid oedd angen defnyddio cyllid craidd, gan arwain
at danwariant. Rhoddir yr arian mewn cronfeydd wrth gefn i gefnogi'r flwyddyn
ganlynol gan nad oes sicrwydd y bydd cyllid yn cael ei dderbyn ar gyfer y
flwyddyn ganlynol.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y
Cabinet.
Monitro
Cyllideb Gyfalaf 2021/22
Rhoddwyd
gwybodaeth mewn perthynas â chyflawni Rhaglen Gyfalaf 2021/22 i'r aelodau.
Holodd
yr aelodau ynghylch y grant a dderbyniwyd i gefnogi diogelwch tomenni glo.
Gofynnwyd a oedd y grant hwn yn ddigonol. Amlygodd swyddogion eu bod yn falch o
dderbyn grant a'u bod yn darparu cefnogaeth i'r tomenni glo risg uchel. Nodwyd
y byddai'r swm o arian i gefnogi'r holl domenni glo yn gost enfawr ac yn
annhebygol iawn o gael ei dderbyn gan y llywodraeth.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y
Cabinet.
Strategaeth
Rheoli'r Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi Flynyddol a'r Polisi Darpariaeth
Isafswm Refeniw
Tynnodd
swyddogion sylw at Strategaeth Rheoli'r Trysorlys y Cyngor, y Strategaeth
Fuddsoddi Flynyddol a'r Polisi Darpariaeth Isafswm Refeniw ar gyfer 2022/23,
fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Ceisiwyd
sicrwydd mewn perthynas â rheoli'r trysorlys a'r cysylltiad â'r sefyllfa
genedlaethol bresennol yn Ewrop. Nodwyd bod ein holl fuddsoddiadau gyda
banciau'r DU neu awdurdodau'r DU ac roedd swyddogion yn rhoi sicrwydd i aelodau
nad oedd unrhyw risgiau o'r sefyllfaoedd a oedd yn dod i'r amlwg.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y
Cabinet.