Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem |
---|---|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet: Fframwaith Cydnerthedd Gwasanaethau Tymor Byr Derbyniodd yr
Aelodau'r Fframwaith Cydnerthedd Gwasanaethau Tymor Byr a oedd yn ceisio
lleihau'r risg o darfu ar wasanaethau yn y tymor byr. Esboniodd y Prif
Weithredwr sut yr oedd gofynion y gwasanaeth wedi cynyddu dros y misoedd
diwethaf a sut yr oedd hyn wedi effeithio ar y gweithlu cyffredinol. Nodwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi lleihau'r lefel rhybudd i Lefel Sero ar 7 Awst 2021, a arweiniodd at
lawer mwy o gymysgu cymdeithasol ar draws gwahanol gymunedau; erbyn 24 Hydref
2021 roedd nifer yr achosion lleol wedi codi i 1037.6 achos i bob 100,000 o'r
boblogaeth, gyda bron i 1 o bob 3 o bobl yn profi'n bositif am COVID-19 bryd
hynny. Soniodd swyddogion fod y cyfraddau wedi gostwng ers hynny; ar adeg
ysgrifennu'r adroddiad, roedd nifer yr achosion yn 653.8 achos fesul 100,000
o'r boblogaeth. Er gwaethaf y
gostyngiad yn nifer yr achosion, dywedwyd bod cyfraddau Coronafeirws ar draws y
gymuned yn parhau i fod yn uchel iawn, a bod y cynnydd mewn trosglwyddo
cymunedol wedi cael effaith bellach ar y galw am wasanaethau; er enghraifft,
roedd y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) yn brysurach ac roedd
effeithiau sylweddol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Hysbyswyd
yr aelodau fod meysydd gwasanaeth ar draws y cyngor yn parhau i weithredu dan
asesiadau risg COVID-19; roedd hyn yn effeithio ar y ffordd yr oedd y cyngor yn
gallu darparu gwasanaethau, a nifer y bobl sydd ar gael i ddarparu'r
gwasanaethau hynny. Nodwyd bod llawer mwy o unigolion o fewn y gymuned yn
cyflwyno anghenion amrywiol, o ganlyniad i fyw drwy 20 mis o'r pandemig. Tynnodd swyddogion
sylw at y ffaith bod gan rai meysydd gwasanaeth ôl-groniadau sylweddol yn eu
gwaith yr oedd angen rhoi sylw iddynt; roedd hyn o ganlyniad i neilltuo
rhywfaint o waith er mwyn gallu ymdrin â'r blaenoriaethau yr oedd Llywodraeth
Cymru wedi gofyn i gynghorau eu hystyried. Hysbyswyd yr aelodau
fod y cyngor wedi derbyn cyllid ar gyfer rhai prosiectau cyffrous iawn yn y
Fwrdeistref Sirol, yr oedd swyddogion yn gefnogol i'w datblygu; roedd hyn yn
golygu bod angen eu hystyried yng nghynlluniau cydnerthedd gwasanaethau tymor
byr y cyngor. Esboniwyd bod nifer y
bobl a oedd ar gael i wasanaethu'r galw wedi lleihau ychydig dros y misoedd
diwethaf; roedd nifer o resymau dros hyn, a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Soniodd swyddogion fod rhai meysydd gwasanaeth yn wynebu heriau o
ran recriwtio pobl i swyddi gwag; ar hyn o bryd roedd llawer o swyddi gwag o
fewn yr economi leol, ac roedd gan rai o'r swyddi yn y sector preifat fwy o
fanteision a/neu well cyflog na'r rhai yn y sector cyhoeddus. O ran sefyllfa bresennol y cyngor, nodwyd bod galw cynyddol, ychydig yn llai o bobl i ymdrin â'r galw, ac ôl-groniadau a oedd yn gofyn am staff ychwanegol y tu hwnt i'r lefelau gallu arferol; roedd angen cymryd camau ar unwaith i geisio llenwi'r swyddi gwag sy'n weddill, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |