·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Fframwaith Cydnerthedd Gwasanaethau Tymor Byr
Derbyniodd yr
Aelodau'r Fframwaith Cydnerthedd Gwasanaethau Tymor Byr a oedd yn ceisio
lleihau'r risg o darfu ar wasanaethau yn y tymor byr.
Esboniodd y Prif
Weithredwr sut yr oedd gofynion y gwasanaeth wedi cynyddu dros y misoedd
diwethaf a sut yr oedd hyn wedi effeithio ar y gweithlu cyffredinol.
Nodwyd bod Llywodraeth
Cymru wedi lleihau'r lefel rhybudd i Lefel Sero ar 7 Awst 2021, a arweiniodd at
lawer mwy o gymysgu cymdeithasol ar draws gwahanol gymunedau; erbyn 24 Hydref
2021 roedd nifer yr achosion lleol wedi codi i 1037.6 achos i bob 100,000 o'r
boblogaeth, gyda bron i 1 o bob 3 o bobl yn profi'n bositif am COVID-19 bryd
hynny. Soniodd swyddogion fod y cyfraddau wedi gostwng ers hynny; ar adeg
ysgrifennu'r adroddiad, roedd nifer yr achosion yn 653.8 achos fesul 100,000
o'r boblogaeth.
Er gwaethaf y
gostyngiad yn nifer yr achosion, dywedwyd bod cyfraddau Coronafeirws ar draws y
gymuned yn parhau i fod yn uchel iawn, a bod y cynnydd mewn trosglwyddo
cymunedol wedi cael effaith bellach ar y galw am wasanaethau; er enghraifft,
roedd y Gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) yn brysurach ac roedd
effeithiau sylweddol ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol. Hysbyswyd
yr aelodau fod meysydd gwasanaeth ar draws y cyngor yn parhau i weithredu dan
asesiadau risg COVID-19; roedd hyn yn effeithio ar y ffordd yr oedd y cyngor yn
gallu darparu gwasanaethau, a nifer y bobl sydd ar gael i ddarparu'r
gwasanaethau hynny. Nodwyd bod llawer mwy o unigolion o fewn y gymuned yn
cyflwyno anghenion amrywiol, o ganlyniad i fyw drwy 20 mis o'r pandemig.
Tynnodd swyddogion
sylw at y ffaith bod gan rai meysydd gwasanaeth ôl-groniadau sylweddol yn eu
gwaith yr oedd angen rhoi sylw iddynt; roedd hyn o ganlyniad i neilltuo
rhywfaint o waith er mwyn gallu ymdrin â'r blaenoriaethau yr oedd Llywodraeth
Cymru wedi gofyn i gynghorau eu hystyried.
Hysbyswyd yr aelodau
fod y cyngor wedi derbyn cyllid ar gyfer rhai prosiectau cyffrous iawn yn y
Fwrdeistref Sirol, yr oedd swyddogion yn gefnogol i'w datblygu; roedd hyn yn
golygu bod angen eu hystyried yng nghynlluniau cydnerthedd gwasanaethau tymor
byr y cyngor.
Esboniwyd bod nifer y
bobl a oedd ar gael i wasanaethu'r galw wedi lleihau ychydig dros y misoedd
diwethaf; roedd nifer o resymau dros hyn, a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Soniodd swyddogion fod rhai meysydd gwasanaeth yn wynebu heriau o
ran recriwtio pobl i swyddi gwag; ar hyn o bryd roedd llawer o swyddi gwag o
fewn yr economi leol, ac roedd gan rai o'r swyddi yn y sector preifat fwy o
fanteision a/neu well cyflog na'r rhai yn y sector cyhoeddus.
O ran sefyllfa
bresennol y cyngor, nodwyd bod galw cynyddol, ychydig yn llai o bobl i ymdrin
â'r galw, ac ôl-groniadau a oedd yn gofyn am staff ychwanegol y tu hwnt i'r
lefelau gallu arferol; roedd angen cymryd camau ar unwaith i geisio llenwi'r
swyddi gwag sy'n weddill, yn ogystal â dod â gallu ychwanegol i sicrhau bod y
gweithlu'n cael ei gefnogi dros fisoedd y gaeaf. Ychwanegwyd bod y cyngor yn
gallu cynnig y rolau amrywiol yn allanol; gyda'r gobaith y bydd pobl leol yn
gwneud cais.
Esboniodd swyddogion
fod tanwariant cyfredol o fewn y terfyn arian parod presennol a oedd wedi'i
gymeradwyo'n flaenorol; nod y cynnig oedd defnyddio £2 filiwn o'r tanwariant
manwl ar gyfer y Fframwaith Cydnerthedd Gwasanaethau er mwyn cyflogi staff
ychwanegol.
Tynnwyd sylw at y
ffaith bod y seminar diweddar ar gyfer yr holl aelodau yn ymwneud â phwysau
gwasanaeth yn llawn gwybodaeth, a'i fod wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
aelodau am y pwysau presennol a pha gamau yr oedd angen eu rhoi ar waith er
mwyn lleddfu rhai o'r pwysau hynny.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Adroddiad Monitro'r Gyllideb Misol 2021/2022
Rhoddwyd Adroddiad
Monitro'r Gyllideb Misol i'r pwyllgor ar gyfer 2021/22.
Rhoddodd y Prif
Swyddog Cyllid drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd; ar hyn o bryd roedd
swyddogion yn rhagweld y bydd gan y cyngor danwariant o tua £8.3miliwn erbyn
diwedd mis Mawrth 2022. Nodwyd bod amrywiaeth o resymau dros hyn; un o'r prif
bwyntiau oedd, pan bennwyd y gyllideb, roedd lefel enfawr o ansicrwydd o ran
Cronfa Galedi COVID-19. Felly, nodwyd bod lefel fawr o arian wrth gefn wedi'i
chynnwys yn y gyllideb; ar hyn o bryd, roedd swyddogion yn rhagweld na fyddai
angen y lefel hon o arian wrth gefn. Esboniodd swyddogion fod y cyngor hefyd yn
casglu mwy o incwm treth y cyngor na'r disgwyl; roedd hefyd angen cymorth treth
y cyngor ar lai o bobl na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol.
Hysbyswyd yr aelodau
na ragwelwyd y byddai'r tanwariant hwn yn rheolaidd, gan y rhagwelwyd y bydd y
swyddi gwag yn cael eu llenwi, a bydd y cyngor yn gallu dechrau cyflawni rhai
mentrau a oedd wedi'u rhoi ar waith.
Roedd swyddogion yn
cynnig peidio â defnyddio'r £3.1miliwn, a gynlluniwyd yn wreiddiol, o gronfeydd
wrth gefn cyffredinol; ac roeddent yn bwriadu rhoi £2 filiwn i'r Fframwaith
Cydnerthedd Gwasanaethau a £2 filiwn arall yn ôl i gronfeydd wrth gefn penodol.
Cynhaliwyd trafodaeth
mewn perthynas â lefelau digonol o gronfeydd wrth gefn cyffredinol; awgrymodd
canllawiau Archwilio Cymru y byddai lefel ddoeth ar gyfer cronfeydd wrth gefn
cyffredinol yn 5% o'r gyllideb. Nododd yr aelodau fod lefel Cyngor Castell-nedd
Port Talbot yn sylweddol uwch na'r lefel yn y canllawiau, ac o'i chymharu â
chynghorau eraill ledled Cymru; mynegwyd pryderon mewn perthynas â'r cydbwysedd
rhwng cronfeydd wrth gefn cyffredinol a lefelau treth y cyngor a bennwyd ar
gyfer y flwyddyn ariannol gyfredol.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi nad oedd cardbord a gwastraff bwyd bellach yn arwain at
gostau i'w gwaredu a’u bod yn cynhyrchu incwm yn lle, gan arwain at ostyngiad
disgwyliedig yng nghostau net gwaredu gwastraff; Gofynnodd yr aelodau am ragor
o wybodaeth am hyn a'r newid yn y gwasanaeth. Cadarnhaodd Cyfarwyddwr yr
Amgylchedd ac Adfywio fod y diwydiant gwastraff yn gyfnewidiol iawn; mae pris
cardbord, plastig, gwydr etc. yn newid yn aml iawn. Nodwyd y gallai'r cyngor
fynd o sefyllfa o dalu pobl i gymryd deunyddiau, i sefyllfa o sicrhau incwm o'r
deunyddiau y gellir eu hailgylchu. Hysbyswyd yr aelodau fod pocedi o fewn y
Fwrdeistref Sirol lle'r oedd diffyg cydweithrediad gan rai preswylwyr; byddai'r
cyngor yn ymgymryd â chynllun peilot yn un o'r ardaloedd hynny, er mwyn ceisio
annog y preswylwyr hynny i gynyddu eu hailgylchu er mwyn i'r cyngor gyrraedd y
targedau a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. Esboniwyd nad oedd y cyngor wedi
cyrraedd y targedau y llynedd, ond eleni cyrhaeddwyd y targedau; rhagorodd y
cyngor ar y targedau eleni ac roeddent yn un o'r ychydig iawn o awdurdodau i
gael gwelliant sylweddol mewn perfformiad.
Holodd yr aelodau pe
bai'r cyngor yn llenwi'r holl swyddi gwag, a fyddai gwahaniaeth sylweddol yn
sefyllfa'r gyflogres. Cadarnhaodd swyddogion fod tua 200 o swyddi gwag o fewn y
cyngor ar hyn o bryd, a phe bai'r holl swyddi hyn yn cael eu llenwi, byddai'n
cael effaith sylweddol ar y gyllideb; roedd angen cadw hyn mewn cof ar gyfer y
dyfodol.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.
Monitro Cyllideb Gyfalaf 2021/22
Derbyniodd yr aelodau
wybodaeth mewn perthynas â chyflawni Rhaglen Gyfalaf 2021/22.
Dywedodd swyddogion
fod yr adroddiad yn nodi cyllideb arfaethedig o £82.4miliwn a oedd £2.3miliwn
yn llai na'r hyn a gymeradwywyd; manylwyd ar y rhestr o newidiadau yn atodiad 2
yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd bod y cyngor wedi ysgwyddo £30.6miliwn o
wariant, sef 37% o'r rhaglen gyfalaf; amlygwyd bod hyn ar y trywydd iawn o
ystyried yr oedi wrth gyflwyno prosiectau a gwario arian.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi bod cyllideb o £2.584m wedi'i chynnwys yn 2021/22 ar gyfer
Buddsoddiad Mewn Gweithgareddau Parc Margam; fodd bynnag, mae £2.336m wedi'i
ail-broffilio ar gyfer 2022/23 i adlewyrchu proffil y gwaith y mae ei angen.
Gofynnodd yr Aelodau a allai Swyddogion egluro'r hyn y mae 'ail-broffilio' yn
ei olygu; cadarnhawyd nad oedd modd i'r gwaith fynd rhagddo yn ôl y bwriad,
felly roedd yr arian yn cael ei drosglwyddo i'r flwyddyn ariannol nesaf.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.