Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 30ain Mehefin, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod.

 

Y Cynghorydd S Rahaman Parthed: Eitem 3 ar yr Agenda, Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe Am ei fod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

 

Y Cynghorydd S Freeguard  Parthed: Eitem 3 ar yr Agenda, Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig  Am ei bod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

 

Y Cynghorydd A Llewelyn  Parthed: Eitem 3 ar yr Agenda, Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe Am ei fod yn aelod o Gyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

·        Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu (amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Rhaglen Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe

 

Darparwyd gwybodaeth i'r aelodau am achos busnes Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nodwyd bod aelodau o'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant a'r Pwyllgor Craffu Adfywio, Sgiliau a Diwylliant yn bresennol i gymryd rhan yn y sgwrs.

 

Darparwyd cyflwyniad PowerPoint ar y prosiect Sgiliau a Thalent i aelodau a oedd yn darparu gwybodaeth bellach am yr achos busnes.

 

Cafwyd trafodaethau am bwysigrwydd cysylltedd cynhwysol mewn ardaloedd gwledig a'r cymoedd. Nodwyd y byddai'r prosiect Sgiliau a Thalent yn gweithio ochr yn ochr â'r prosiect Isadeiledd Digidol i sicrhau'r canlyniadau cysylltedd gorau posib. Byddai cysylltedd yn agwedd bwysig ar weithio yn y dyfodol ac yn darparu cymorth gyda gweithio gartref.

 

Trafodwyd cysylltiadau trafnidiaeth hefyd i sicrhau y gallai'r rheini ym mhob ardal gael mynediad at gyfleoedd gwaith. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau y byddai prosiectau megis prosiect y ddaear yn darparu  adnoddau.

 

Amlygodd aelodau Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a Phwyllgor Craffu'r Cabinet fod y prosiect hwn yn brosiect rhanbarthol ac y byddai hefyd dan gylch gwaith Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe. Nododd yr aelodau y byddai'r pwyntiau a godwyd yng nghyfarfod heddiw yn cael eu nodi ac y byddai'r cynnydd yn cael ei fonitro yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

 

Canmolodd aelodau'r adroddiad a manylder y prosiect. Amlygwyd ei bod yn hanfodol i'r rheini yr oedd ganddynt swyddi ar hyn o bryd fod yn ymwybodol o'r hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael iddynt fel y gallant uwchsgilio'u haddysg a'u sgiliau, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd iddynt.

 

Yn dilyn craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r

argymhellion i'w hystyried gan y cabinet.

 

Prosiect Sinema Canolfan Celfyddydau Pontardawe

 

Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am gais am gymeradwyaeth i ddyrannu £600 mil yn rhagor ar gyfer datblygu sinema allanol newydd â 70 o seddi, ac adeiladau cysylltiedig yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Nodwyd bod aelodau'r Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Diwylliant yn bresennol i gymryd rhan yn y drafodaeth.

 

Cafwyd trafodaethau am y costau ychwanegol. Gofynnwyd pam roedd angen yr arian ychwanegol a pham nad oedd wedi cael ei amcangyfrif yn y lle cyntaf. Esboniodd swyddogion fod angen arian ychwanegol ar gyfer y gwaith adeiladu oherwydd agweddau technegol ar yr adeilad, yn ogystal â dyluniadau mwy manwl er mwyn creu cyfleuster sy'n well yn weledol i gwsmeriaid.

 

Gofynnodd aelodau a fyddai'r adeilad wedi bod yn gymwys am y gronfa codi'r gwastad. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi ystyried y gronfa codi'r gwastad, fodd bynnag ar ôl rhoi ystyriaeth i’r prosiect, roedd yn anghymwys. 

 

Trafododd aelodau'r effaith gadarnhaol y byddai'r adeilad yn ei chael ar y cymoedd ac roedd aelodau felly'n cefnogi'r argymhellion.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion

 i'w hystyried gan y cabinet.

 

Adolygiad Archwilio Cymru o'r System Rheoli Perfformiad Corfforaethol (CPMS)

 

I dderbyn gwybodaeth am ymateb y cyngor i'r 'cyfleoedd ar gyfer gwella' a nodwyd gan  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Nodi'r Flaenraglen Waith.