·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
·
Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu
(amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd
y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Rhaglen
Sgiliau a Thalent Bargen Ddinesig Bae Abertawe
Darparwyd gwybodaeth i'r aelodau am achos busnes Sgiliau a Thalent
Bargen Ddinesig Bae Abertawe, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Nodwyd bod aelodau o'r Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant
a'r Pwyllgor Craffu Adfywio, Sgiliau a Diwylliant yn bresennol i gymryd rhan yn
y sgwrs.
Darparwyd cyflwyniad PowerPoint ar y prosiect Sgiliau a Thalent i
aelodau a oedd yn darparu gwybodaeth bellach am yr achos busnes.
Cafwyd trafodaethau am bwysigrwydd cysylltedd cynhwysol mewn ardaloedd
gwledig a'r cymoedd. Nodwyd y byddai'r prosiect Sgiliau a Thalent yn gweithio
ochr yn ochr â'r prosiect Isadeiledd Digidol i sicrhau'r canlyniadau cysylltedd
gorau posib. Byddai cysylltedd yn agwedd bwysig ar weithio yn y dyfodol ac yn
darparu cymorth gyda gweithio gartref.
Trafodwyd cysylltiadau trafnidiaeth hefyd i sicrhau y gallai'r rheini
ym mhob ardal gael mynediad at gyfleoedd gwaith. Rhoddwyd sicrwydd i aelodau y
byddai prosiectau megis prosiect y ddaear yn darparu adnoddau.
Amlygodd aelodau Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe a
Phwyllgor Craffu'r Cabinet fod y prosiect hwn yn brosiect rhanbarthol ac y
byddai hefyd dan gylch gwaith Cyd-bwyllgor Craffu Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.
Nododd yr aelodau y byddai'r pwyntiau a godwyd yng nghyfarfod heddiw yn cael eu
nodi ac y byddai'r cynnydd yn cael ei fonitro yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor
Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.
Canmolodd aelodau'r adroddiad a manylder y prosiect. Amlygwyd ei bod
yn hanfodol i'r rheini yr oedd ganddynt swyddi ar hyn o bryd fod yn ymwybodol
o'r hyfforddiant ychwanegol sydd ar gael iddynt fel y gallant uwchsgilio'u
haddysg a'u sgiliau, gan ddarparu rhagor o gyfleoedd iddynt.
Yn dilyn craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r
argymhellion i'w hystyried gan y cabinet.
Prosiect Sinema Canolfan Celfyddydau Pontardawe
Rhoddwyd y diweddaraf i aelodau am gais am gymeradwyaeth i ddyrannu
£600 mil yn rhagor ar gyfer datblygu sinema allanol newydd â 70 o seddi, ac
adeiladau cysylltiedig yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe, fel a fanylwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Nodwyd bod aelodau'r Pwyllgor Addysg, Sgiliau a Diwylliant yn
bresennol i gymryd rhan yn y drafodaeth.
Cafwyd trafodaethau am y costau ychwanegol. Gofynnwyd pam roedd angen
yr arian ychwanegol a pham nad oedd wedi cael ei amcangyfrif yn y lle cyntaf.
Esboniodd swyddogion fod angen arian ychwanegol ar gyfer y gwaith adeiladu
oherwydd agweddau technegol ar yr adeilad, yn ogystal â dyluniadau mwy manwl er
mwyn creu cyfleuster sy'n well yn weledol i gwsmeriaid.
Gofynnodd aelodau a fyddai'r adeilad wedi bod yn gymwys am y gronfa
codi'r gwastad. Cadarnhaodd swyddogion eu bod wedi ystyried y gronfa codi'r
gwastad, fodd bynnag ar ôl rhoi ystyriaeth i’r prosiect, roedd yn
anghymwys.
Trafododd aelodau'r effaith gadarnhaol y byddai'r adeilad yn ei chael
ar y cymoedd ac roedd aelodau felly'n cefnogi'r argymhellion.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion
i'w hystyried gan y cabinet.
Adolygiad Archwilio Cymru o'r System Rheoli Perfformiad Corfforaethol
(CPMS)
I dderbyn gwybodaeth am ymateb y cyngor i'r 'cyfleoedd ar gyfer
gwella' a nodwyd gan Archwilio Cymru yn dilyn yr adolygiad o'r System Rheoli
Perfformiad Corfforaethol (CPMS), fel a fanylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Hysbyswyd yr aelodau fod y penderfyniad i roi'r penderfyniad ar waith
wedi'i hepgor o adroddiad Adolygiad Archwilio Cymru o'r System Rheoli
Perfformiad Corfforaethol o fewn papurau'r Cabinet. Nodwyd y dylai fod yr
adroddiad wedi nodi bod y penderfyniad yn amodol ar y cyfnos 3 diwrnod galw i mewn.
Amlygodd aelodau fod nifer o feysydd o fewn y cynllun gweithredu yr
oedd angen eu cwblhau, a gofynnwyd sut byddai'r cyngor yn mynd i'r afael â'r
holl bwyntiau a godwyd. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau fod yr amserlen ar
gyfer cwblhau'r camau gweithredu ar y trywydd iawn a bod y mwyafrif ohonynt
wedi'u cwblhau ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi. Nodwyd y byddai diweddariad
pellach yn cael ei ddarparu yn yr hydref.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r argymhellion i'w
hystyried gan y cabinet.
Buddsoddiadau o Gronfeydd wrth Gefn 2021/22
Hysbyswyd aelodau am y cais i gymeradwyo buddsoddiadau ychwanegol mewn
gweithgareddau gwasanaeth a ariannwyd o gronfeydd wrth gefn, fel a fanylwyd yn
yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Gofynnodd aelodau sut byddai'r cymoedd yn elwa o'r buddsoddiadau hyn,
fel a fanylwyd yn adroddiad effaith cymunedau'r cymoedd.Hysbyswyd yr aelodau y
byddai cynllun y gronfa gymunedol yn caniatáu i bob aelod gael £10 mil i'w
wario o fewn ei wardiau, a fyddai'n effaith gadarnhaol ar bob ardal o fewn
Castell-nedd Port Talbot. Ynghyd â'r Rhaglen Adnewyddu Cerbydau, a fyddai hefyd
yn darparu cefnogaeth ychwanegol i'r fwrdeistref sirol gyfan.
Nodwyd, oherwydd y pandemig, y bu llawer o bwysau a phroblemau
adnoddau o fewn adran yr amgylchedd, a gofynnodd aelodau pa gefnogaeth oedd yn
cael ei darparu yn y maes hwn. Nodwyd bod yr adroddiad yn cynnwys nifer o
gynigion buddsoddiad ar gyfer adran yr amgylchedd, i helpu gyda'r pryderon hyn.
Holodd yr aelodau beth fyddai swm y cronfeydd wrth gefn a oedd yn
weddill, pe bai'r gwariant yn yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo. Nodwyd y
byddai oddeutu £51.5 miliwn o gronfeydd wrth gefn yn weddill yn dilyn
cymeradwyo'r argymhelliad. Nodwyd y byddai cyfle i ailystyried y cronfeydd wrth
gefn yn yr hydref.
Cafwyd trafodaethau am Gronfa Codi'r Gwastad a'r potensial o wneud
cais am yr uchafswm a oedd ar gael.
Trafododd yr aelodau'r Rhaglen Adnewyddu Cerbydau a holwyd a fyddai'r
cerbydau'n rhai carbon isel. Nodwyd bod y cyngor yn bwriadu defnyddio cerbydau
allyriadau isel a'i fod yn ystyried cerbydau trydan.
Cyfeiriodd aelodau at adroddiad grŵp tasg a
gorffen y cymoedd a holwyd sut byddai'r adroddiad 'buddsoddiad a chronfeydd
wrth gefn' yn adlewyrchu yn erbyn cynllun gweithredu'r cymoedd. Nodwyd bod buddsoddiad
presennol yn cael ei reoli ochr yn ochr ag effeithiau pandemig COVID-19, fodd
bynnag nodwyd bod angen rhoi ystyriaeth i'r hyn a oedd yn cael ei gyflwyno yn y
cymoedd.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
argymhellion i'w hystyried gan y cabinet.
Papur ar y cyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae
Abertawe a Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ar Gwm Afan Uchaf
Nodwyd bod dau fater ar wahân ond cysylltiedig a
fyddai'n effeithio ar breswylwyr Cwm Afan Uchaf dros y 5 mlynedd nesaf oherwydd
materion gydag isadeiledd y briffordd ac asesiad parhaus o'r cyfleusterau i
ddarparu gofal iechyd priodol o fewn yr ardal, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelod Ward Lleol, y Cyng. Scott Jones yn
bresennol i rannu ei bryderon ar y materion adeileddol yng Nghwm Afan Uchaf.
Nodwyd bod angen sicrhau bod gan gymunedau yn y cymoedd gysylltiadau cyfathrebu
da.
Roedd angen sicrwydd ar aelodau y byddai Pont Wen
Y Cymer yn aros lle y mae, ac y byddai ymdrechion yn y dyfodol yn parhau er
mwyn sicrhau arian i'w chadw ar agor. Amlygodd swyddogion eu bod wedi rhoi
mesurau ar waith er mwyn i'r bont aros ar agor. Byddai'r cyngor a'r Bwrdd
Iechyd yn parhau i olrhain Llywodraeth Cymru ar y cyd i ddarparu cyllid i
alluogi'r gwasanaethau gorau o fewn Cwm Afan Uchaf.
Gofynnwyd lle byddai'r adeilad gofal iechyd
newydd yn cael ei leoli. Nodwyd mai’r Bwrdd Iechyd fyddai’n gwneud y
penderfyniad hwn.
Amlygwyd bod angen i gynllunio yn y dyfodol gael
ei ystyried ar gyfer cynnal a chadw adeiladau rhestredig eraill yng
Nghastell-nedd Port Talbot.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
argymhellion i'w hystyried gan y cabinet.
Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu
Cydraddoldeb Hiliol i Gymru -
ymateb drafft ymgynghori.
Hysbyswyd yr aelodau am y cais i gymeradwyo
ymateb i'r ymgynghoriad ar "Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu
Cydraddoldeb Hiliol i Gymru Llywodraeth Cymru’ - fel a fanylwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Cafwyd trafodaethau am yr angen i bwysleisio a
sicrhau y cedwir at y cynllun gweithredu ym mhob ysgol. Darparodd swyddogion
sicrwydd y byddai'r cynllun gweithredu'n cael i godi a'i ddilyn mewn ysgolion,
am ei fod yn ofyniad.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
argymhellion i'w hystyried gan y cabinet.
Adfer, Ailosod, Adnewyddu
Diweddarwyd aelodau am yr ymateb parhaus i
COVID-19 a'r cais i ddechrau ymarfer ymgynghoriad cyhoeddus i ymgysylltu â
phanel cyfoedion allanol i lywio ymagwedd y cyngor at gynllunio ar gyfer
adferiad, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Nodwyd y byddai rhagor o wybodaeth ar gael yn
ystod y Panel Aelodau - Coronafeirws, ynghyd â seminar ychwanegol i'r Holl
Aelodau.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
argymhellion i'w hystyried gan y cabinet.
Cronfa Gymunedol yr Aelodau (protocol ar gyfer
ail-lansio)
Diweddarwyd yr aelodau am ail-lansiad Cronfa
Gymunedol yr Aelodau, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Cafwyd trafodaethau am gyflwyniad y cynllun,
dilyn amserlen fyrrach y cynllun a lleihad yn nifer y staff sy'n cefnogi'r
cynllun. Rhoddodd swyddogion sicrwydd i'r aelodau am y pryderon hyn.
Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
argymhellion i'w hystyried gan y cabinet.