Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 30ain Medi, 2020 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 57 KB

• 29 Ionawr 2020

• 5 Chwefror 2020

• 12 Chwefror 2020

• 19 Chwefror 2020

• 5 Mawrth 2020

• 21 Mai 2020

• 25 Mehefin 2020

• 23 Gorffennaf 2020

• 30 Gorffennaf 2020

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd canlynol:

·        29 Ionawr 2020

·        5 Chwefror 2020

·        12 Chwefror 2020

·        19 Chwefror 2020

·        5 Mawrth 2020

·        21 Mai 2020

·        25 Mehefin 2020

·        23 Gorffennaf 2020

·        30 Gorffennaf 2020

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor i ystyried parhad casgliadau tecstilau ar ymyl y ffordd.

Gofynnodd Aelodau sut byddai'r grwpiau cymunedol neu'r banciau tecstilau yn gallu cael pris ymarferol, os na allai'r cyngor ei gael, drwy gasglu o ymyl y ffordd Eglurwyd nad oedd marchnad ar gyfer y tecstilau cymysg yr oedd y cyngor yn eu casglu; roedd marchnad ar gyfer dillad ailddefnyddiadwy oedd wedi'u didoli, ond pe bai'r cyngor yn didoli'r tecstilau cymysg, byddai angen i'r incwm fod yn fwy na chost y didoli er mwyn iddo fod yn ddichonadwy i'r cyngor, a chadarnhawyd gan swyddogion mai nid fel yna yr oedd hi.

Holwyd a oedd gan y cyngor farchnad am decstilau a gasglwyd yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff cartref (CAGC). Amlygodd swyddogion nad oedd gan y cyngor farchnad ar gyfer ailgylchu, a bod y farchnad yn y sector gwirfoddol a oedd yn barod i fynd ati i ddidoli'r tecstilau cymysg. Fodd bynnag roedd gan y cwmni gwastraff, FCC Environment, sy'n gweithredu safleoedd y cyngor ar hyn o bryd, fynediad at y marchnadoedd hynny. Cadarnhawyd bod y tecstilau a gasglwyd yn CAGC y cyngor yn mynd i gael eu hanfon i'w didoli.

Awgrymodd swyddogion y gallai aelodau rannu eu profiadau cymunedol â'i gilydd i drosglwyddo gwybodaeth mewn perthynas â threfniadau eraill er mwyn cael mynediad at ailgylchu, gan fod nifer o fannau 'Cash for Clothes' wedi'u trefnu ledled y fwrdeistref sirol; nodwyd hefyd y gallai swyddogion rannu manylion partïon y gwyddys eu bod yn cynnig arian parod am ddillad, ac yn amodol ar gymeradwyaeth, fanylion cynrychiolwyr cymunedol sy'n trefnu digwyddiadau. Amlygodd Aelodau fod cyfle i godi arian ar gyfer y gymuned drwy 'Cash for Clothes', a hyd yn oed gyda'r pandemig presennol, gellid ei wneud yn ddiogel a gellid dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol. Ychwanegwyd bod angen i Aelodau fod yn ymwybodol bod llawer o decstilau yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw oherwydd bod llai o hen ddillad yn cael eu casglu ar hyn o bryd.

O ran amserlenni, pe bai'r gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd yn dod i ben, nodwyd y byddai angen rhoi o leiaf un mis o rybudd, a digon o amser hefyd i hysbysu'r cyhoedd o'r newid.

Gofynnodd Aelodau a fyddai'r adnoddau casglu'n cael eu cadw e.e. cerbydau, pe bai'r amgylchiadau economaidd yn newid ar gyfer casglu o ymyl y ffordd, a chadarnhaodd swyddogion y byddai; Ychwanegwyd y byddai dwy flynedd yn mynd heibio cyn bod angen newid unrhyw un o'r cerbydau cyntaf.

Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg casglu deunyddiau oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau symud presennol; pe bai hyn yn parhau am amser hir, gallai'r deunyddiau gael eu gwaredu mewn safle tirlenwi yn y pen draw, a/neu gael eu tipio'n anghyfreithlon yn lle. Nodwyd bod y cyngor yn gweithio'n unol â'r strategaeth genedlaethol sy'n bolisi sy'n annog lefel uchel o ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio; caiff y deunyddiau na all y cyngor eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio i weithfeydd Energy for Waste yn hytrach na safleoedd tirlenwi. O ran aelodau'r cyhoedd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.