·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor
i ystyried parhad casgliadau tecstilau ar ymyl y ffordd.
Gofynnodd Aelodau sut byddai'r
grwpiau cymunedol neu'r banciau tecstilau yn gallu cael pris ymarferol, os na
allai'r cyngor ei gael, drwy gasglu o ymyl y ffordd Eglurwyd nad oedd marchnad
ar gyfer y tecstilau cymysg yr oedd y cyngor yn eu casglu; roedd marchnad ar
gyfer dillad ailddefnyddiadwy oedd wedi'u didoli, ond pe bai'r cyngor yn
didoli'r tecstilau cymysg, byddai angen i'r incwm fod yn fwy na chost y didoli
er mwyn iddo fod yn ddichonadwy i'r cyngor, a chadarnhawyd gan swyddogion mai
nid fel yna yr oedd hi.
Holwyd a oedd gan y cyngor
farchnad am decstilau a gasglwyd yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff cartref
(CAGC). Amlygodd swyddogion nad oedd gan y cyngor farchnad ar gyfer ailgylchu,
a bod y farchnad yn y sector gwirfoddol a oedd yn barod i fynd ati i ddidoli'r
tecstilau cymysg. Fodd bynnag roedd gan y cwmni gwastraff, FCC Environment,
sy'n gweithredu safleoedd y cyngor ar hyn o bryd, fynediad at y marchnadoedd
hynny. Cadarnhawyd bod y tecstilau a gasglwyd yn CAGC y cyngor yn mynd i gael
eu hanfon i'w didoli.
Awgrymodd swyddogion y gallai
aelodau rannu eu profiadau cymunedol â'i gilydd i drosglwyddo gwybodaeth mewn
perthynas â threfniadau eraill er mwyn cael mynediad at ailgylchu, gan fod
nifer o fannau 'Cash for Clothes' wedi'u trefnu ledled y fwrdeistref sirol;
nodwyd hefyd y gallai swyddogion rannu manylion partïon y gwyddys eu bod yn
cynnig arian parod am ddillad, ac yn amodol ar gymeradwyaeth, fanylion
cynrychiolwyr cymunedol sy'n trefnu digwyddiadau. Amlygodd Aelodau fod cyfle i
godi arian ar gyfer y gymuned drwy 'Cash for Clothes', a hyd yn oed gyda'r
pandemig presennol, gellid ei wneud yn ddiogel a gellid dilyn rheolau cadw
pellter cymdeithasol. Ychwanegwyd bod angen i Aelodau fod yn ymwybodol bod
llawer o decstilau yn mynd i safleoedd tirlenwi yn y pen draw oherwydd bod llai
o hen ddillad yn cael eu casglu ar hyn o bryd.
O ran amserlenni, pe bai'r
gwasanaeth casglu o ymyl y ffordd yn dod i ben, nodwyd y byddai angen rhoi o
leiaf un mis o rybudd, a digon o amser hefyd i hysbysu'r cyhoedd o'r newid.
Gofynnodd Aelodau a fyddai'r
adnoddau casglu'n cael eu cadw e.e. cerbydau, pe bai'r amgylchiadau economaidd
yn newid ar gyfer casglu o ymyl y ffordd, a chadarnhaodd swyddogion y byddai;
Ychwanegwyd y byddai dwy flynedd yn mynd heibio cyn bod angen newid unrhyw un
o'r cerbydau cyntaf.
Mynegwyd pryderon ynghylch y
diffyg casglu deunyddiau oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau symud presennol;
pe bai hyn yn parhau am amser hir, gallai'r deunyddiau gael eu gwaredu mewn
safle tirlenwi yn y pen draw, a/neu gael eu tipio'n anghyfreithlon yn lle.
Nodwyd bod y cyngor yn gweithio'n unol â'r strategaeth genedlaethol sy'n bolisi
sy'n annog lefel uchel o ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio; caiff y deunyddiau
na all y cyngor eu hailddefnyddio, eu hailgylchu neu eu compostio i weithfeydd
Energy for Waste yn hytrach na safleoedd tirlenwi. O ran aelodau'r cyhoedd y
gallai fod ganddynt ddeunyddiau ychwanegol, nodwyd bod cynllun eithrio'r cyngor
yn dal i weithredu fel y gall y cyhoedd wneud cais, ynghyd â'r gwasanaethau
wythnosol a phythefnosol; felly ni ddylai fod rheswm pam na ddylai preswylwyr
waredu eu gwastraff yn briodol. Ychwanegodd swyddogion y byddent yn parhau i
adolygu'r wybodaeth y mae'r cyngor yn ei chyhoeddi o ran tecstilau.
Amlygwyd bod y safle CAGC
agosaf ar gyfer Cwm Tawe Uchaf a Dyffryn Aman yng Nghwmtwrch Isaf, safle sy'n
cael ei rannu â Chyngor Powys; Gofynnodd Aelodau a oedd preswylwyr Castell-nedd
Port Talbot yn gallu defnyddio'r safle hwn o hyd oherwydd y cyfyngiadau symud
lleol presennol. Rhoddwyd cyngor cyfreithiol ar y geiriad presennol yn
rheoliadau diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch pryd y gellid defnyddio'r
gwasanaethau hyn.
Cynigiwyd ac eiliwyd newid
ffurfiol i bwynt (i) yr argymhelliad a geir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd:-
(i) Mae'r cyngor yn peidio â
chasglu tecstilau o ymyl y ffordd ac yn newid ei farchnata'n unol â hyn, gan
roi rhybudd o ddeufis i'r cyhoedd; a,
(ii) Bydd swyddogion yn
gweithio gydag unrhyw wasanaethau lleol sy'n barod i dderbyn a/neu dalu am
decstilau, i helpu i hyrwyddo'r nifer cynyddol o ddigwyddiadau cymunedol a'r
defnydd o gyfleusterau 'dod â phethau' fel y rheini a ddarperir mewn
Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref y cyngor.
Galwyd enwau at ddibenion
penderfynu ar y bleidlais; cymeradwywyd y newid o ganlyniad i alw'r enwau.
Yn dilyn proses graffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.