Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Iau, 25ain Mehefin, 2020 10.01 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Gwnaeth yr aelod canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cynghorydd M Harvey       Parthed 'Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach' (papurau'r Cabinet), gan ei fod yn cael ei gyflogi gan Heddlu De Cymru.  

 

 

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Diweddariad a Monitro Cyllideb 2020 - 2021

 

Trafodwyd y gyllideb yn unol ag effaith bresennol COVID–19 a'r anawsterau a ragwelwyd ar gyfer pennu cyllideb ar gyfer 2021 – 2022.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch a fyddai'r awdurdod yn cydymffurfio â chanllawiau Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chadw lefel ddigonol o arian wrth gefn gan fod rhai awdurdodau'n ystyried cyhoeddi hysbysiadau Adran 114. Holwyd a fyddai'r awdurdod lleol yn cynyddu arian wrth gefn yn naturiol dros amser neu a fyddai Llywodraeth Cymru yn llenwi'r bwlch gydag arian ychwanegol. Esboniodd swyddogion y sefyllfa ariannol o fis Mawrth i fis Mehefin i'r Aelodau, gan fanylu ar y sefyllfa o ran hawliadau a oedd eisoes wedi'u had-dalu a hawliadau mae'r awdurdod lleol yn dal i aros am ymateb arnynt. Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y tybir yn yr adroddiad y bydd £2m yn cael ei ad-dalu ond y gobaith yw y byddai'r £4.2m llawn yn cael ei dderbyn, sy'n golygu y byddai'r diffyg ariannol o £10.8m yn lleihau. Sicrhawyd yr Aelodau y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu drwy gydol y flwyddyn ac y bydd hyn yn parhau i gael ei fonitro.

 

Holodd yr Aelodau a fyddent yn derbyn seminarau cyllideb i helpu i bennu'r gyllideb. Esboniodd swyddogion na fyddai'r seminarau'n debygol o gael eu cynnal cyn mis Medi/Hydref 2020 oherwydd y galw presennol ar swyddogion oherwydd COVID-19.

 

Sicrhawyd yr Aelodau y byddai'r cyngor yn mynd ar ôl cyllid Cyngor y Celfyddydau i gefnogi'r gorwariant rhagweladwy ar Theatr y Dywysoges Frenhinol a Theatr Canolfan Celfyddydau Pontardawe. Rhoddwyd sicrwydd hefyd mewn perthynas â'r tanwariant yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol. Roedd hyn oherwydd nad oedd yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu recriwtio yn ystod pandemig COVID-19.  

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y disgwyliad y bydd gwasanaethau'n ailddechrau fel arfer yn ystod yr achosion diweddar o COVID-19, fodd bynnag, hysbyswyd y pwyllgor nad oedd hynny'n wir.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.

Perthnasoedd Iachach ar gyfer Cymunedau Cryfach

 

Croesawodd yr Aelodau'r Strategaeth Perthnasoedd Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch agwedd cydlyniant cymunedol y strategaeth a'r ffaith y byddai hyn yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Holodd yr Aelodau am hyn oherwydd roeddent o'r farn y byddai'n anodd hyrwyddo cydlyniant cymunedol heb fod cydlyniant cymunedol yn bresennol yn y lle cyntaf. Holodd yr Aelodau sut y byddai'r strategaeth hon yn cysylltu â strategaethau eraill i sicrhau bod cydlyniant cymunedol yn cael ei hyrwyddo. Croesawodd swyddogion yr adborth a thynnwyd sylw at y ffaith mai bwriad y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yw cynyddu ymwybyddiaeth o drais domestig ar draws y gymuned gyfan. Nodwyd y byddai camau gweithredu'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn y strategaeth yn mynd i'r afael â'r materion hyn.

 

Hysbyswyd yr Aelodau mai strategaeth ar y cyd rhwng y Bwrdd Iechyd a'r awdurdod lleol oedd y strategaeth. Nodwyd bod y Bwrdd Iechyd wedi darparu mân ddiwygiadau i'r strategaeth yn dilyn cyflwyno'r strategaeth gerbron y Cabinet. Felly, gofynnwyd i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.