·
Dewis eitemau priodol o Agenda Bwrdd y Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau Bwrdd y Cabinet ar gufer yr Aelodau
Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet:
Diweddariad a Monitro Cyllideb 2020 - 2021
Trafodwyd y gyllideb yn unol ag effaith bresennol
COVID–19 a'r anawsterau a ragwelwyd ar gyfer pennu cyllideb ar gyfer 2021 –
2022.
Mynegwyd pryderon ynghylch a fyddai'r awdurdod yn
cydymffurfio â chanllawiau Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â chadw lefel
ddigonol o arian wrth gefn gan fod rhai awdurdodau'n ystyried cyhoeddi
hysbysiadau Adran 114. Holwyd a fyddai'r awdurdod lleol yn cynyddu arian wrth
gefn yn naturiol dros amser neu a fyddai Llywodraeth Cymru yn llenwi'r bwlch
gydag arian ychwanegol. Esboniodd swyddogion y sefyllfa ariannol o fis Mawrth i
fis Mehefin i'r Aelodau, gan fanylu ar y sefyllfa o ran hawliadau a oedd eisoes
wedi'u had-dalu a hawliadau mae'r awdurdod lleol yn dal i aros am ymateb
arnynt. Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol y tybir yn
yr adroddiad y bydd £2m yn cael ei ad-dalu ond y gobaith yw y byddai'r £4.2m
llawn yn cael ei dderbyn, sy'n golygu y byddai'r diffyg ariannol o £10.8m yn
lleihau. Sicrhawyd yr Aelodau y byddai diweddariadau pellach yn cael eu darparu
drwy gydol y flwyddyn ac y bydd hyn yn parhau i gael ei fonitro.
Holodd yr Aelodau a fyddent yn derbyn seminarau
cyllideb i helpu i bennu'r gyllideb. Esboniodd swyddogion na fyddai'r
seminarau'n debygol o gael eu cynnal cyn mis Medi/Hydref 2020 oherwydd y galw
presennol ar swyddogion oherwydd COVID-19.
Sicrhawyd yr Aelodau y byddai'r cyngor yn mynd ar
ôl cyllid Cyngor y Celfyddydau i gefnogi'r gorwariant rhagweladwy ar Theatr y
Dywysoges Frenhinol a Theatr Canolfan Celfyddydau Pontardawe. Rhoddwyd sicrwydd
hefyd mewn perthynas â'r tanwariant yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol.
Roedd hyn oherwydd nad oedd yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu
recriwtio yn ystod pandemig COVID-19.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch y disgwyliad y
bydd gwasanaethau'n ailddechrau fel arfer yn ystod yr achosion diweddar o
COVID-19, fodd bynnag, hysbyswyd y pwyllgor nad oedd hynny'n wir.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.
Perthnasoedd Iachach ar gyfer Cymunedau Cryfach
Croesawodd yr Aelodau'r Strategaeth Perthnasoedd
Iach ar gyfer Cymunedau Cryfach.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch agwedd cydlyniant
cymunedol y strategaeth a'r ffaith y byddai hyn yn hyrwyddo cydlyniant
cymunedol. Holodd yr Aelodau am hyn oherwydd roeddent o'r farn y byddai'n anodd
hyrwyddo cydlyniant cymunedol heb fod cydlyniant cymunedol yn bresennol yn y
lle cyntaf. Holodd yr Aelodau sut y byddai'r strategaeth hon yn cysylltu â
strategaethau eraill i sicrhau bod cydlyniant cymunedol yn cael ei hyrwyddo.
Croesawodd swyddogion yr adborth a thynnwyd sylw at y ffaith mai bwriad y
Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yw cynyddu ymwybyddiaeth o drais domestig ar
draws y gymuned gyfan. Nodwyd y byddai camau gweithredu'r Fframwaith Hyfforddi
Cenedlaethol yn y strategaeth yn mynd i'r afael â'r materion hyn.
Hysbyswyd yr Aelodau mai strategaeth ar y cyd rhwng
y Bwrdd Iechyd a'r awdurdod lleol oedd y strategaeth. Nodwyd bod y Bwrdd Iechyd
wedi darparu mân ddiwygiadau i'r strategaeth yn dilyn cyflwyno'r strategaeth
gerbron y Cabinet. Felly, gofynnwyd i aelodau ystyried argymhelliad ychwanegol
sy'n rhoi awdurdod dirprwyedig i Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a
Diogelu'r Cyhoedd i gymeradwyo unrhyw fân ddiwygiadau.
Yn dilyn gwaith craffu, roedd y pwyllgor yn
cefnogi'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet, gan gynnwys yr argymhelliad
ychwanegol fel y manylir uchod.
Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot
(CDLl) 2011 - 2026
Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith mai mân
sylwadau oedd gan Aelodau Pwyllgor Craffu'r Cabinet i'w gwneud mewn perthynas
ag Adroddiad Adolygu Drafft y Cynllun Datblygu Lleol, fodd bynnag byddai'r prif
drafodaeth yn cael ei chynnal gyda'r cyngor.
Cynhaliwyd trafodaethau ynghylch amserlen yr
adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol. Er bod dechrau'r adolygiad yn ffurfiol
wedi'i ohirio'n ffurfiol oherwydd COVID–19, sicrhawyd yr Aelodau bod gwaith ar
y sylfaen dystiolaeth wedi cychwyn ac y byddai Aelodau'n cael eu hannog i
ymgysylltu â'r swyddogion i gefnogi proses yr adolygiad. Nodwyd y byddai'r
broses adolygu lawn yn cymryd 3 blynedd a hanner i'w chwblhau.
Tynnodd Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio sylw'r
aelodau at y ffaith y bydd yr adolygiad yn mynd i'r afael â'r materion sy'n
ymwneud â Thai Amlfeddiannaeth.
Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.