Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 14eg Chwefror, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r Pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 ac 12 ar Agenda Bwrdd y Cabinet

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cyng. Rob Jones, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet – Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach, Budd Personol

 

Y Cyng. Sean Pursey, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet – Ymddiriedolwr Llyfrgell Gymunedol Tai-bach, Budd Personol

 

Y Cyng. Scott Jones, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet - Ymddiriedolwr AVCL (cysylltiad â Phwll Nofio Cymer), Budd Personol

 

Y Cyng. Simon Knoyle, Eitem 12 ar yr Agenda – Aelod o Fwrdd Canolfan Hyfforddi Glyn-nedd, Budd Personol

 

Y Cyng. Sian Harris, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet – Cadeirydd Ffrindiau Creunant, Budd Personol

 

Y Cyng. Wyndham Griffiths, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet – aelod o Bulldogs a Hyrwyddwr y Lluoedd, Budd Personol

 

Y Cyng. Tim Bowen, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet – Hyrwyddwr y Lluoedd, Budd Personol

 

Y Cyng. Sonia Reynolds, Eitem 12 ar Agenda'r Cabinet – Ymddiriedolwr Canolfan Maerdy, Budd Personol

 

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 301 KB

·        28 Tachwedd 2023

·        13 Rhagfyr 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd 2023 ac 13 Rhagfyr fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)  

 

Cofnodion:

Archwilio Cymru – Llamu Ymlaen – Rheoli Gweithlu’n Strategol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 33, paragraff 24 o adroddiad Archwilio Cymru a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet. Nododd yr adroddiad nad yw graddfa risg strategol gyfredol y cyngor yn adlewyrchu'n ddigonol y risg weddilliol a wynebir oherwydd oedi wrth ddatblygu cynlluniau olyniaeth a nodi rolau busnes hanfodol. Holodd yr aelodau a yw'r gofrestr risgiau wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r pwynt hwn, a pha waith a wnaed ers cyhoeddi'r adroddiad i fynd i'r afael â'r sefyllfa. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y Gofrestr Risgiau Strategol yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, a bydd y broses hon yn cynnwys gwaith ar gynllunio olyniaeth. Crynhodd y Pennaeth Gwasanaeth y camau gweithredu a roddwyd ar waith i gynyddu nifer y gwasanaethau a chanddynt gynlluniau olyniaeth ar waith, gyda sefyllfaoedd busnes hanfodol a nodwyd. Yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf, mae 72 o Reolwyr wedi mynychu Gweithdai Cynllunio Olyniaeth ac mae'r gweithdy wedi'i wreiddio fel rhan o'r Rhaglen Datblygu Craidd ar gyfer Rheolwyr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu'r pecyn cymorth a ddefnyddir ar gyfer cynllunio olyniaeth gyda'r nod o'i ddigideiddio. Ymgymerwyd â dadansoddiad o'r cynlluniau olyniaeth sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae Rheolwyr Atebol wedi cael eu hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod cynlluniau olyniaeth ar waith.

 

Mynegodd yr aelodau bryder bod nifer o uwch reolwyr allweddol wedi gadael yr awdurdod ac mae profiad y swyddogion busnes hanfodol hyn wedi'i golli. Dywedodd yr aelodau nad oedd y gyfradd recriwtio yn cyfateb i nifer y swyddi gwag.

 

Cydnabu'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol bwysigrwydd rheolwyr yn ymwneud â chynllunio olyniaeth. Nodwyd bod cyfradd benodi lwyddiannus y cyngor wedi cynyddu dros gyfnod o ddwy flynedd o 82% i 93% ac mae gweithgarwch recriwtio wedi cynyddu 40%, gyda chyfradd trosiant gadarnhaol. Cydnabuwyd bod rhai swyddi'n parhau i fod yn anodd eu llenwi, yn enwedig mewn meysydd arbenigol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod hwn yn faes gwaith pwysig a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gweithredu mewn marchnad lafur dynn. Rhennir gwybodaeth am y gweithlu gyda'r Pwyllgor Personél i alluogi aelodau i olrhain cynnydd.

 

Roedd yr aelodau'n falch o glywed am y cynnydd mewn targedau recriwtio ond mynegwyd pryder ynghylch cadw staff a'r gost ariannol o ddefnyddio taliadau atodol ar sail y farchnad mewn perthynas â swyddi anodd eu llenwi.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod taliadau atodol ar sail y farchnad yn offeryn y gellir ei ddefnyddio pan fo'n briodol ac mae disgwyl i'r cynllun gael ei adolygu. Nodwyd mai dim ond un agwedd ar y pecyn taliad cydnabyddiaeth gweithwyr yw tâl ac roedd buddion eraill yn gwneud y cyngor yn gyflogwr deniadol.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y defnydd o daliadau atodol ar sail y farchnad yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio'n dda ac wedi helpu i gadw staff profiadol. Mae manteision ariannol i'w cael wrth gymhwyso taliadau atodol ar sail y farchnad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 503 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor.

6.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 397 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·         Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu).   

Cofnodion:

Grantiau Trydydd Sector – Dyfarnu Grantiau ar gyfer 2024-2025 (Wedi'u heithrio o dan Baragraff 14)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y

Y Cabinet.