Manylion y penderfyniad

Craffu Cyn Penderfynu

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Craffu'r Cabinet

Statws: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Archwilio Cymru – Llamu Ymlaen – Rheoli Gweithlu’n Strategol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot

 

Cyfeiriodd yr aelodau at dudalen 33, paragraff 24 o adroddiad Archwilio Cymru a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet. Nododd yr adroddiad nad yw graddfa risg strategol gyfredol y cyngor yn adlewyrchu'n ddigonol y risg weddilliol a wynebir oherwydd oedi wrth ddatblygu cynlluniau olyniaeth a nodi rolau busnes hanfodol. Holodd yr aelodau a yw'r gofrestr risgiau wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r pwynt hwn, a pha waith a wnaed ers cyhoeddi'r adroddiad i fynd i'r afael â'r sefyllfa. 

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y Gofrestr Risgiau Strategol yn cael ei hadolygu ar hyn o bryd, a bydd y broses hon yn cynnwys gwaith ar gynllunio olyniaeth. Crynhodd y Pennaeth Gwasanaeth y camau gweithredu a roddwyd ar waith i gynyddu nifer y gwasanaethau a chanddynt gynlluniau olyniaeth ar waith, gyda sefyllfaoedd busnes hanfodol a nodwyd. Yn ystod y flwyddyn galendr ddiwethaf, mae 72 o Reolwyr wedi mynychu Gweithdai Cynllunio Olyniaeth ac mae'r gweithdy wedi'i wreiddio fel rhan o'r Rhaglen Datblygu Craidd ar gyfer Rheolwyr. Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu'r pecyn cymorth a ddefnyddir ar gyfer cynllunio olyniaeth gyda'r nod o'i ddigideiddio. Ymgymerwyd â dadansoddiad o'r cynlluniau olyniaeth sydd ar waith ar hyn o bryd. Mae Rheolwyr Atebol wedi cael eu hatgoffa o bwysigrwydd sicrhau bod cynlluniau olyniaeth ar waith.

 

Mynegodd yr aelodau bryder bod nifer o uwch reolwyr allweddol wedi gadael yr awdurdod ac mae profiad y swyddogion busnes hanfodol hyn wedi'i golli. Dywedodd yr aelodau nad oedd y gyfradd recriwtio yn cyfateb i nifer y swyddi gwag.

 

Cydnabu'r Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol bwysigrwydd rheolwyr yn ymwneud â chynllunio olyniaeth. Nodwyd bod cyfradd benodi lwyddiannus y cyngor wedi cynyddu dros gyfnod o ddwy flynedd o 82% i 93% ac mae gweithgarwch recriwtio wedi cynyddu 40%, gyda chyfradd trosiant gadarnhaol. Cydnabuwyd bod rhai swyddi'n parhau i fod yn anodd eu llenwi, yn enwedig mewn meysydd arbenigol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr sicrwydd bod hwn yn faes gwaith pwysig a fydd yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd mae'r cyngor yn gweithredu mewn marchnad lafur dynn. Rhennir gwybodaeth am y gweithlu gyda'r Pwyllgor Personél i alluogi aelodau i olrhain cynnydd.

 

Roedd yr aelodau'n falch o glywed am y cynnydd mewn targedau recriwtio ond mynegwyd pryder ynghylch cadw staff a'r gost ariannol o ddefnyddio taliadau atodol ar sail y farchnad mewn perthynas â swyddi anodd eu llenwi.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod taliadau atodol ar sail y farchnad yn offeryn y gellir ei ddefnyddio pan fo'n briodol ac mae disgwyl i'r cynllun gael ei adolygu. Nodwyd mai dim ond un agwedd ar y pecyn taliad cydnabyddiaeth gweithwyr yw tâl ac roedd buddion eraill yn gwneud y cyngor yn gyflogwr deniadol.

 

Cadarnhaodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol fod y defnydd o daliadau atodol ar sail y farchnad yn y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi gweithio'n dda ac wedi helpu i gadw staff profiadol. Mae manteision ariannol i'w cael wrth gymhwyso taliadau atodol ar sail y farchnad yn hytrach na'r dewis arall o ôl-lenwi swyddi gwag gyda staff asiantaeth.  Nodwyd bod recriwtio gweithwyr cymdeithasol yn anodd ar hyn o bryd.

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am yr ymatebion cynhwysfawr.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

Tendro Bysus Lleol

 

Rhoddodd y Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth drosolwg gryno o'r adroddiad fel y'i cynhwysir ym mhecyn agenda Bwrdd y Cabinet.

 

Diolchodd yr aelodau i'r swyddogion am eu gwaith ar y mater hwn ac am y canlyniad cadarnhaol. Holodd yr aelodau a oedd y gyllideb gyfan wedi cael ei defnyddio neu a oedd unrhyw bosibilrwydd y byddai llwybrau ychwanegol yn cael eu hail-sefydlu.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai llwybrau a dorrwyd ym mis Hydref 2023 yn cael eu hailsefydlu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y gellir cadw'r tanwariant o £200 mil yn ystod y flwyddyn i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Cydnabyddir bod diffygion o hyd yn y Rhwydweithiau, nid yw rhai o elfennau'r gwasanaethau wedi'u cofrestru. Aethpwyd ag adroddiad i'r Cabinet yn ddiweddar a oedd yn rhoi caniatâd i ddyfarnu contractau  Gwobr Cymhorthdal De Minimis, gyda'r bwriad o ôl-lenwi unrhyw fylchau sy'n dod i'r amlwg. Mae trafodaethau cynnar yn parhau mewn perthynas â masnachfreinio'r rhwydwaith bysus. 

 

Mewn perthynas â gofynion staff, gofynnodd yr aelodau a oedd unrhyw sicrwydd mewn perthynas â'r fframwaith wrth i'r prosiect anelu at fasnachfreinio. Mewn perthynas â'r tanwariant o £200 mil ar wasanaethau bysus, gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch gwasanaethau masnachol nad ydynt wedi'u cofrestru a pha effaith y gall hynny ei chael cyn llenwi unrhyw fylchau.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau fod adolygiad rhwydwaith Trafnidiaeth Cymru wedi nodi meysydd lle mae angen gwelliannau i amseroedd teithio; y gobaith yw y bydd data'r adolygiad yn arwain at welliannau isadeiledd. Bydd system gwybodaeth am deithwyr amser real yn cael ei chyflwyno yng Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod y flwyddyn nesaf, mae'n cael ei chyflwyno’n gynharach na mewn rhannau eraill o Gymru. Mae gwaith yn mynd rhagddo o ran masnachfreinio a strwythur y rhwydwaith. Nid yw manylion llawn yr ardaloedd masnachfreinio wedi'u cyhoeddi ond mae'n debygol y bydd naw ardal yng Nghymru gyda Chastell-nedd Port Talbot yn disgyn o dan Ganolbarth / De Cymru. Cadarnhawyd bod y tîm mewnol yn cynnwys 1.2 aelod o staff a fydd yn gyfrifol am 42 contract, cofrestru, amserlennu a chwynion yn ogystal â'u dyletswyddau cyfredol. Mae angen ehangu'r tîm drwy'r broses reoli newid  a chreu dwy rôl newydd o bosib i sicrhau bod y tîm yn gynaliadwy ac yn gadarn.  Nodwyd bod rôl y swyddogion yn hanfodol i fusnes ac mae cynllun olyniaeth ar waith.

 

Dywedodd yr aelodau fod cynllunio olyniaeth yn anodd mewn adrannau llai gydag anghysondeb mawr rhwng graddau o fewn y timau.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y gofyniad am wasanaeth bysus newydd rhwng Abertawe ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot wedi'i nodi, cafodd hyn ei ystyried yn ystod y broses dendro ond ni chymerwyd unrhyw gamau oherwydd ansicrwydd ariannol. Mae gan weithredwyr wasanaethau cofrestredig i'r ysbyty ar draul y rhwydwaith lleol ac mae angen llenwi'r bwlch hwn mewn gwasanaeth.

 

Gofynnodd yr aelodau am eglurder mewn perthynas ag unrhyw fylchau mewn gwasanaeth ar ôl 1 Ebrill 2024.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod trosglwyddiad di-dor yn dibynnu ar y Comisiynydd Traffig yn derbyn yr hysbysiad tymor byr a roddwyd gan First Cymru. Os nad oedd y Comisiynydd Traffig yn derbyn yr hysbysiad tymor byr, efallai y bydd toriad yn y gwasanaeth.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 07/03/2024

Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/02/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet