Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Llun, 22ain Ionawr, 2024 10.30 am

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhawyd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 8 a 11 ar Agenda'r Cabinet.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 211 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)  

 

Cofnodion:

Hunanasesiad 2022-2023

 

Rhoddodd swyddogion drosolwg o adroddiad Hunanasesiad 2022-2023 a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 29 yr adroddiad (Crynodeb o Berfformiad) a mynegwyd siom yn nifer y meysydd a gwblhawyd. Holodd yr Aelodau am yr oedi cyn cwblhau SA22 (mireinio ymagwedd y cyngor o ran ymdrin â'r strategaeth Hunanasesiad) ac SA3 (sefydlu tasglu recriwtio) a mynegwyd pryder ynghylch faint o amser a gymerir i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, y rhai sy'n gadael yr Awdurdod Lleol a'r amserlen o ran ceisiadau cynllunio. Mynegodd aelodau siom nad oedd ffigurau canran yn cynnwys data llawn, fel y gofynnwyd amdano'n flaenorol, sy'n golygu roedd craffu ac argymell i'r Cabinet yn anodd.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd modd cwblhau'r cyfeirnod SA22 yn 2022/2023 oherwydd materion gallu, ond y gobaith yw y bydd hyn yn cael ei gwblhau ar gyfer hunanasesiad 2023/2024. Ymddiheurodd swyddogion am y diffyg ffigurau cyfatebol yn yr adroddiad mewn perthynas â'r canrannau a chadarnhawyd y bydd hyn yn cael ei gynnwys cyn caiff y ddogfen ei chyhoeddi.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y tasglu recriwtio wedi'i sefydlu, ond mae gwaith yn mynd rhagddo gan fod nifer o swyddi sy'n anodd eu llenwi yn y cyngor o hyd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno data ymadawyr mwy manwl ac mae categorïau rhesymau ymadawyr wedi cael eu gwella. Mae'r data a ddarperir yn adlewyrchu 2022/23 a bydd gwybodaeth fanylach ar gael wrth i amser fynd yn ei flaen.

Dywedodd yr aelodau y byddai wedi bod yn gliriach pe bai'r adroddiad wedi nodi bod y tasglu recriwtio wedi'i sefydlu ac yn parhau â'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a gofynnwyd am eglurhad o'r ymagwedd a fabwysiadwyd eleni, a pham nad oedd adroddiadau eraill yn cyd-fynd fel sydd wedi digwydd mewn awdurdodau eraill.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod ymchwil wedi'i wneud i sefydlu'r ymagwedd orau ar gyfer hunanasesu gan fod yr arweiniad yn gyfyngedig. Nodwyd mai hwn oedd yr ail hunanasesiad sydd wedi'i gwblhau yn unig a bydd adborth yr aelodau'n cael ei ystyried mewn perthynas â chwblhau'r trydydd hunanasesiad. Bydd y pecyn cymorth yn gallu dangos y cynnydd a wnaed dros amser a rhoddir ystyriaeth i sicrhau nad oes dyblygu a bod yr asesiad yn ychwanegu gwerth.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Sefyllfa'r Setliad

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid wrth y pwyllgor mai adroddiad gwybodaeth ar gyfer y Cabinet yw hwn, sy'n nodi'r sefyllfa ariannol sy'n gwaethygu o ganlyniad i'r setliad dros dro is. Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar dri grant penodol lle bu toriadau sylweddol ar draws Cymru.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am oblygiadau colli grantiau.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod y cyngor wedi derbyn manylion y gostyngiadau grant penodol ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr 2023.

 

Cadarnhaodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai fod y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 400 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor pdf eicon PDF 410 KB

Cofnodion:

Nodwyd Cofnod Gweithredu'r Pwyllgor.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Roedd un eitem frys:

 

Cadeirydd APSE Cymru – Tai, Digartrefedd a Chymorth Cymunedol

 

Ni wnaeth yr Aelodau graffu ar yr eitem hon.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd: Gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod

 

 

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·         Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)   

Cofnodion:

Ymgynghoriad y Swyddfa Gartref ar Lwybrau Diogel a Chyfreithiol (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd ym mhecyn yr agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.