Manylion y penderfyniad

Craffu Cyn Penderfynu

Statws: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Hunanasesiad 2022-2023

 

Rhoddodd swyddogion drosolwg o adroddiad Hunanasesiad 2022-2023 a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 29 yr adroddiad (Crynodeb o Berfformiad) a mynegwyd siom yn nifer y meysydd a gwblhawyd. Holodd yr Aelodau am yr oedi cyn cwblhau SA22 (mireinio ymagwedd y cyngor o ran ymdrin â'r strategaeth Hunanasesiad) ac SA3 (sefydlu tasglu recriwtio) a mynegwyd pryder ynghylch faint o amser a gymerir i ddarparu Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl, y rhai sy'n gadael yr Awdurdod Lleol a'r amserlen o ran ceisiadau cynllunio. Mynegodd aelodau siom nad oedd ffigurau canran yn cynnwys data llawn, fel y gofynnwyd amdano'n flaenorol, sy'n golygu roedd craffu ac argymell i'r Cabinet yn anodd.

 

Cadarnhaodd swyddogion nad oedd modd cwblhau'r cyfeirnod SA22 yn 2022/2023 oherwydd materion gallu, ond y gobaith yw y bydd hyn yn cael ei gwblhau ar gyfer hunanasesiad 2023/2024. Ymddiheurodd swyddogion am y diffyg ffigurau cyfatebol yn yr adroddiad mewn perthynas â'r canrannau a chadarnhawyd y bydd hyn yn cael ei gynnwys cyn caiff y ddogfen ei chyhoeddi.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol fod y tasglu recriwtio wedi'i sefydlu, ond mae gwaith yn mynd rhagddo gan fod nifer o swyddi sy'n anodd eu llenwi yn y cyngor o hyd. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gyflwyno data ymadawyr mwy manwl ac mae categorïau rhesymau ymadawyr wedi cael eu gwella. Mae'r data a ddarperir yn adlewyrchu 2022/23 a bydd gwybodaeth fanylach ar gael wrth i amser fynd yn ei flaen.

Dywedodd yr aelodau y byddai wedi bod yn gliriach pe bai'r adroddiad wedi nodi bod y tasglu recriwtio wedi'i sefydlu ac yn parhau â'r gwaith sy'n mynd rhagddo.

 

Cyfeiriodd yr Aelodau at dudalen 20 yr adroddiad a gofynnwyd am eglurhad o'r ymagwedd a fabwysiadwyd eleni, a pham nad oedd adroddiadau eraill yn cyd-fynd fel sydd wedi digwydd mewn awdurdodau eraill.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod ymchwil wedi'i wneud i sefydlu'r ymagwedd orau ar gyfer hunanasesu gan fod yr arweiniad yn gyfyngedig. Nodwyd mai hwn oedd yr ail hunanasesiad sydd wedi'i gwblhau yn unig a bydd adborth yr aelodau'n cael ei ystyried mewn perthynas â chwblhau'r trydydd hunanasesiad. Bydd y pecyn cymorth yn gallu dangos y cynnydd a wnaed dros amser a rhoddir ystyriaeth i sicrhau nad oes dyblygu a bod yr asesiad yn ychwanegu gwerth.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

Adroddiad ynghylch y Diweddaraf am Sefyllfa'r Setliad

 

Dywedodd y Prif Swyddog Cyllid wrth y pwyllgor mai adroddiad gwybodaeth ar gyfer y Cabinet yw hwn, sy'n nodi'r sefyllfa ariannol sy'n gwaethygu o ganlyniad i'r setliad dros dro is. Mae'r adroddiad hefyd yn manylu ar dri grant penodol lle bu toriadau sylweddol ar draws Cymru.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am oblygiadau colli grantiau.

 

Cadarnhaodd y Prif Swyddog Cyllid fod y cyngor wedi derbyn manylion y gostyngiadau grant penodol ar yr un pryd ag y cyhoeddwyd y setliad dros dro ar 20 Rhagfyr 2023.

 

Cadarnhaodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai fod y gwasanaeth yn edrych yn gyntaf i weld a oes cyfleoedd i gwtogi'r hyn y mae'r grant yn cael ei wario arno. Mewn perthynas â Grant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru'n annog y grantiau i gael eu defnyddio i ddarparu cymorth i ddarparwyr gofal cartref allanol mewn perthynas â recriwtio gofal cartref.  Mae angen i'r gwaith hwn barhau gan arwain at bwysau o £500k ar gyllideb y Gwasanaeth Cymdeithasol. Mae gwaith yn mynd rhagddo i gydbwyso'r gyllideb.

 

Diolchodd yr Aelodau i'r Cyfarwyddwr am ddarparu eglurder, a holwyd a fyddai'r diffyg yn cael ei nodi o gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol neu a fyddai'n cael ei ledaenu ar draws cyfarwyddebau.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai'r pwysau hwn yn cael ei gymryd o gyllideb y Gwasanaethau Cymdeithasol ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gwblhau hyn.

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn atodol.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 16/02/2024

Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2024

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/01/2024 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet