Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cyng. T Bowen Eitem 4 (Eitem 7 ar Agenda Bwrdd y Cabinet)

                   Personol – aelod o'r teulu yn gweithio yn Y Gnoll

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)  

 

Cofnodion:

Chwarter 2 - Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Dywedodd swyddogion fod gorwariant rhagamcanol o £3.4m ar ddiwedd mis Medi. Mae'r Cyngor wedi parhau i geisio ffrwyno hyn fel bod y gorwariant yn cael ei leihau a bod balansau wrth gefn yn cael eu diogelu cyn belled ag y bo modd.

 

Mae swyddogion wedi ystyried pob cronfa wrth gefn benodol ac wedi penderfynu a oes eu hangen o hyd ac a ellir eu hailbwrpasu. Trwy'r ymarfer hwn, mae'r Cyngor wedi llwyddo i ailbwrpasu £7.899 miliwn o gronfeydd wrth gefn penodol. Y bwriad yw paratoi tair menter drawsnewid hwy gan ddefnyddio'r  cronfeydd wrth gefn hynny.

 

Holodd yr Aelodau, ar dudalen 27, mewn perthynas ag Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, yn seiliedig ar gostau hyd yn hyn y gorwariant o £132,000. Holodd yr Aelodau pa gyllid ychwanegol y cyfeirir ato yn yr adroddiad mewn perthynas â thalu am y gorwariant hwn. Cadarnhaodd swyddogion pan osodwyd cyllidebau y pennwyd lwfans cyflog o 4% a dyfarniad cyflog ychwanegol o 2% sy'n disgyn dros 4%. Bydd y cyllidebau hyn yn cael eu defnyddio i ddyrannu'r costau'n ôl i gyfarwyddiaethau gwasanaethau ac ysgolion i sicrhau bod dyfarniadau cyflog yn cael eu hariannu'n llawn.

 

Holodd yr Aelodau pwy gafodd ei gomisiynu i weld y Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a beth oedd cost hyn. Cadarnhaodd swyddogion mai Edge Public Consulting a gomisiynwyd, a bod hyn wedi costio £900,000 dros dair blynedd. Cadarnhaodd swyddogion fod adroddiad yn amlinellu manylion y gwaith hwn wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn flaenorol.

 

O ran strategaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cael eu cyflwyno, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai mwy o fanylion yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar ôl y Nadolig.

 

O ran Cynhyrchu Incwm, tudalen 33, cadarnhaodd swyddogion fod cronfeydd refeniw wrth gefn gwerth £1.5m wedi'u hailbwrpasu i ariannu cynigion buddsoddi tymor hwy. Mae angen ailbwrpasu cronfeydd refeniw wrth gefn i gyflawni cynigion trawsnewid tymor hwy wrth ddal i gynnal cyllideb cynhyrchu incwm flynyddol i gefnogi hyn, a hynny o fewn y rhaglen gyfalaf.

 

Nid yw'r eitem goch a nodir ar dudalen 42 sy'n cyfeirio at yr arbediad ym Mharc Gwledig y Gnoll yn gallu cael ei gyflwyno i'r gwaith arfaethedig sy'n cael ei wneud drwy'r Gronfa Ffyniant Bro. Felly, ni ellir cyflawni'r arbedion yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 

Cadarnhaodd swyddogion, o ran digwyddiadau yn Y Gnoll, y bydd hyn yn mynd trwy broses gaffael briodol i sicrhau bod gan y Cyngor y gwerth gorau am arian ar y digwyddiadau hyn.

 

Cododd yr Aelodau bryderon cyffredinol am lefel y craffu y gellir ei rhoi i eitemau pan fydd y papurau ar gyfer agendâu'n hir iawn. Er bod aelodau'n cydnabod bod papurau'n cael eu cyhoeddi o fewn yr amserlen gyfreithiol, roedd yr aelodau'n pryderu am nifer yr eitemau ar agenda. Atgoffodd y Prif Weithredwr aelodau o'r adolygiad craffu parhaus. Awgrymwyd, nes i'r adolygiad hwn yn cael ei gwblhau, y sefydlir rhagor o gyfarfodydd i sicrhau y cynhelir yr holl fusnes ond  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 405 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

7.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd: Gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

8.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·         Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)   

Cofnodion:

Comisiynu Gwasanaeth Eiriolaeth a Chefnogaeth Rhieni a Chymheiriaid,  (Yn eithriedig o dan baragraff 14)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

Tendro Bysus Lleol - Dyfarniad Cymhorthdal De Minimis (Yn eithriedig o dan baragraff 14)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

Canolfan Celfyddydau Pontardawe (Yn eithriedig o dan Baragraff 14)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

Cyllid i Wella'r Swyddogaeth Digartrefedd a Thai Strategol (Yn eithriedig o dan baragraff 14)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad diwygiedig a ddarparwyd gan swyddogion yn y cyfarfod, i'w gyflwyno i'r Cabinet.

 

 

Buddsoddiad Strategol y Gwasanaethau i Oedolion (Yn eithriedig o dan baragraff 14)

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad diwygiedig a ddarparwyd gan swyddogion yn y cyfarfod, i'w gyflwyno i'r Cabinet.