Manylion y penderfyniad

Craffu Cyn Penderfynu

Statws: For Determination

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Chwarter 2 - Monitro Cyllideb Refeniw 2023/24

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Dywedodd swyddogion fod gorwariant rhagamcanol o £3.4m ar ddiwedd mis Medi. Mae'r Cyngor wedi parhau i geisio ffrwyno hyn fel bod y gorwariant yn cael ei leihau a bod balansau wrth gefn yn cael eu diogelu cyn belled ag y bo modd.

 

Mae swyddogion wedi ystyried pob cronfa wrth gefn benodol ac wedi penderfynu a oes eu hangen o hyd ac a ellir eu hailbwrpasu. Trwy'r ymarfer hwn, mae'r Cyngor wedi llwyddo i ailbwrpasu £7.899 miliwn o gronfeydd wrth gefn penodol. Y bwriad yw paratoi tair menter drawsnewid hwy gan ddefnyddio'r  cronfeydd wrth gefn hynny.

 

Holodd yr Aelodau, ar dudalen 27, mewn perthynas ag Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, yn seiliedig ar gostau hyd yn hyn y gorwariant o £132,000. Holodd yr Aelodau pa gyllid ychwanegol y cyfeirir ato yn yr adroddiad mewn perthynas â thalu am y gorwariant hwn. Cadarnhaodd swyddogion pan osodwyd cyllidebau y pennwyd lwfans cyflog o 4% a dyfarniad cyflog ychwanegol o 2% sy'n disgyn dros 4%. Bydd y cyllidebau hyn yn cael eu defnyddio i ddyrannu'r costau'n ôl i gyfarwyddiaethau gwasanaethau ac ysgolion i sicrhau bod dyfarniadau cyflog yn cael eu hariannu'n llawn.

 

Holodd yr Aelodau pwy gafodd ei gomisiynu i weld y Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a beth oedd cost hyn. Cadarnhaodd swyddogion mai Edge Public Consulting a gomisiynwyd, a bod hyn wedi costio £900,000 dros dair blynedd. Cadarnhaodd swyddogion fod adroddiad yn amlinellu manylion y gwaith hwn wedi cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn flaenorol.

 

O ran strategaethau'r Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n cael eu cyflwyno, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai mwy o fanylion yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar ôl y Nadolig.

 

O ran Cynhyrchu Incwm, tudalen 33, cadarnhaodd swyddogion fod cronfeydd refeniw wrth gefn gwerth £1.5m wedi'u hailbwrpasu i ariannu cynigion buddsoddi tymor hwy. Mae angen ailbwrpasu cronfeydd refeniw wrth gefn i gyflawni cynigion trawsnewid tymor hwy wrth ddal i gynnal cyllideb cynhyrchu incwm flynyddol i gefnogi hyn, a hynny o fewn y rhaglen gyfalaf.

 

Nid yw'r eitem goch a nodir ar dudalen 42 sy'n cyfeirio at yr arbediad ym Mharc Gwledig y Gnoll yn gallu cael ei gyflwyno i'r gwaith arfaethedig sy'n cael ei wneud drwy'r Gronfa Ffyniant Bro. Felly, ni ellir cyflawni'r arbedion yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

 

Cadarnhaodd swyddogion, o ran digwyddiadau yn Y Gnoll, y bydd hyn yn mynd trwy broses gaffael briodol i sicrhau bod gan y Cyngor y gwerth gorau am arian ar y digwyddiadau hyn.

 

Cododd yr Aelodau bryderon cyffredinol am lefel y craffu y gellir ei rhoi i eitemau pan fydd y papurau ar gyfer agendâu'n hir iawn. Er bod aelodau'n cydnabod bod papurau'n cael eu cyhoeddi o fewn yr amserlen gyfreithiol, roedd yr aelodau'n pryderu am nifer yr eitemau ar agenda. Atgoffodd y Prif Weithredwr aelodau o'r adolygiad craffu parhaus. Awgrymwyd, nes i'r adolygiad hwn yn cael ei gwblhau, y sefydlir rhagor o gyfarfodydd i sicrhau y cynhelir yr holl fusnes ond gydag agendâu byrrach.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.

 

 

Adolygiad Canol Blwyddyn Rheoli'r Trysorlys - 2023/24

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Nododd yr aelodau fod nifer o acronymau drwy'r holl adroddiad. Gofynnodd yr aelodau a allai swyddogion esbonio'r acronymau mewn adroddiadau dilynol. Ymhellach, pe gellid darparu hyfforddiant ynghylch eitemau ariannol.

 

Dywedodd swyddogion y gellid ystyried yr elfen hyfforddi yn y rhaglen datblygu aelodau sy'n dod o dan gylch gwaith Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dywedodd swyddogion ymhellach fod gofyniad statudol i aelodau gael eu hyfforddi'n ddigonol mewn rheoli'r trysorlys. Bydd swyddogion yn trefnu'r hyfforddiant hwn maes o law. Caiff hyfforddiant cyffredinol ei drefnu hefyd yn ôl yr angen.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

Monitro Perfformiad Chwarter 2

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Nododd yr Aelodau y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a'r gostyngiad yn nifer y gweithwyr sy'n dweud eu bod yn ddysgwyr a chynnydd yn nifer y gweithwyr nad ydynt am ddweud. Holodd yr Aelodau ynghylch achos sylfaenol hyn. Holodd yr aelodau hefyd ynghylch y gostyngiad mewn dechreuwyr ac ymadawyr tymor hir ac a oedd hyn yn gysylltiedig â'r pwynt cyntaf.

 

Dywedodd swyddogion fod y Cyngor wedi cymeradwyo Strategaeth Hyrwyddo'r Gymraeg a oedd yn nodi cynllun gweithredu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg o fewn yr awdurdod.

 

O ran y rhai sy'n gadael, mae'r data yn gymhariaeth o'r un cyfnod o chwe mis y flwyddyn flaenorol, ac mae'n dangos cynnydd o 36 o ymadawyr yn unig.

 

Holodd yr aelodau a oes mwy o gynnydd mewn mân achosion o dorri data? Cadarnhaodd swyddogion fod yr awdurdod yn cofnodi unrhyw beth sy'n achos gwirioneddol o dorri data neu unrhyw beth a allai arwain at dorri data. Darperir hyfforddiant manwl mewn perthynas â diogelu data ac mae'n rhaglen barhaus i weithwyr.

 

Mae'r toriadau a gofnodir yn doriadau lefel isel. Cadarnhawyd mai dim ond unwaith y mae'r Panel Toriadau, sy'n ystyried torri rheolau difrifol, wedi cyfarfod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/02/2024

Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2023

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2023 - Pwyllgor Craffu'r Cabinet