Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 20fed Medi, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot and Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r pwyllgor yn craffu ar eitemau 7, 9, 10, 11, 12, 13, 15, 16, 20.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Y Cyng J.Henton, Eitem 10 (Cabinet) - Personol, Gwirfoddolwr gyda Chyfeillion Cwmni Haearn Abaty Nedd

 

3.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 369 KB

·        19 Ebrill 2023

·        28 Mehefin 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2023 a 28 Mehefin 2023 fel cofnod gwir a chywir.  

 

4.

Adroddiad Blynyddol pdf eicon PDF 93 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r Adroddiad Blynyddol fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Cytunodd yr Aelodau fod y Pwyllgor Craffu'r Cabinet yn nodi ac yn cymeradwyo Adroddiad blynyddol 2022/2023 sy'n atodedig yn Atodiad 1 ac yn ei gymeradwyo i'r cyngor.

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

·         Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)  

 

Cofnodion:

Rhagolwg

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn atodiad.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai pwrpas yr adroddiad yw rhoi darlun manwl o sefyllfa bresennol y cyngor, o ran cyllid a'r cynnydd yn y galw ar wasanaethau'r awdurdod.

 

Cafodd yr aelodau ddiweddariad gyda'r ffigurau chwyddiant, sy'n adlewyrchu pa mor anwadal yw'r sefyllfa ariannol bresennol ar draws y wlad. Er bod cynllunio ariannol cyfredol yn ystyried ystod o senarios posib, mae'r awdurdod yn gweithio gyda ffigwr setliad o 3.1% ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae hyn yn destun newid.

 

Amlinellodd y panel yn yr adroddiad, os cytunir arno, y byddai'n gweithredu'n ychwanegol at y mecanweithiau eraill sy'n digwydd. Fe'i defnyddir i helpu i lunio a datblygu polisïau a gwasanaethau'r awdurdod wrth symud ymlaen.

 

Cadarnhaodd swyddogion oherwydd yr amser cyfyngedig ar ddiwedd y broses o bennu'r gyllideb, a maint y bwlch yn y gyllideb y bydd yr awdurdod yn ei wynebu, mae'n debygol y bydd cynigion lle bydd angen newid polisi neu benderfyniadau gwasanaeth yn cael eu cyflwyno'n gynharach. Bydd hyn yn golygu y bydd gan y pwyllgorau craffu olwg ar gynigion yn gynharach ac y bydd hyn yn caniatáu cyfraniad pan fydd cynigion ar gyfer y flwyddyn i ddod yn cael eu llunio.

 

Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.

 

 

Gorymdeithiau Coffa - Castell-nedd a Phort Talbot

 

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.

 

Holodd yr Aelodau am ddadansoddiad o'r gost ar gyfer y digwyddiadau. Cadarnhaodd swyddogion y rhan fwyaf o'r costau sy'n ymwneud â chau'r briffordd, ynghyd â rhai costau ar gyfer darparu cymorth cyntaf a threfnu pobl yn y digwyddiad. Wrth symud ymlaen, cadarnhaodd swyddogion y byddai staff yr awdurdod yn derbyn hyfforddiant mewn cynlluniau rheoli traffig a fyddai'n helpu i leihau costau'r digwyddiad yn y dyfodol.

 

Mynegodd yr aelodau eu pryder bod y cyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer y digwyddiadau yn y ddwy dref ac nad oedd cymunedau'r cymoedd wedi'u cynnwys yn yr eitem hon. Gofynnodd yr Aelodau am ystyriaeth ehangach ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Dywedodd swyddogion fod y rheswm dros y ffocws ar y ddwy dref yn ymwneud â'r adborth a dderbyniwyd y llynedd pan nad oedd modd cynnal y gorymdeithiau. Roedd cymunedau'r cyn-filwr yn enwedig yn yr ardaloedd hyn yn ofidus oherwydd nad oeddent yn gallu gorymdeithio y llynedd. Nid yw unrhyw ran arall o'r Fwrdeistref wedi cysylltu, ac nid yw'r awdurdod yn ymwybodol o unrhyw orymdaith arall sy'n ei chael hi'n anodd.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei bod wedi gofyn am adolygiad o ddigwyddiadau a gwyliau ar draws y fwrdeistref.

 

Cadarnhawyd y byddai'r costau ar gyfer 2023 yn dod o gronfeydd wrth gefn cyffredinol.

 

Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.

 

 

Strategaethau Diwylliant a Chyrchfannau

 

Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda a'r strategaethau a ddosbarthwyd o fewn y pecyn atodol.

 

Ystyriodd yr Aelodau'r strategaeth ddiwylliant mewn perthynas â chwaraeon ac roeddent yn falch o weld bod y strategaeth wedi nodi bod angen comisiynu asesiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau'r Flaenraglen Waith.

 

7.

Eitemau brys

·         Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

8.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd: gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au) ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

 

9.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·         Dewis eitemau preifat priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)   

Cofnodion:

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (eithriedig o dan Baragraff 14) 

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad gan y Cabinet.