·
Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau’r Cabinet ar gyfer aelodau’r pwyllgor Craffu)
Cofnodion:
Rhagolwg
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y
pecyn atodiad.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr mai pwrpas yr
adroddiad yw rhoi darlun manwl o sefyllfa bresennol y cyngor, o ran cyllid a'r
cynnydd yn y galw ar wasanaethau'r awdurdod.
Cafodd yr aelodau ddiweddariad gyda'r ffigurau
chwyddiant, sy'n adlewyrchu pa mor anwadal yw'r sefyllfa ariannol bresennol ar
draws y wlad. Er bod cynllunio ariannol cyfredol yn ystyried ystod o senarios
posib, mae'r awdurdod yn gweithio gyda ffigwr setliad o 3.1% ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, mae hyn yn destun newid.
Amlinellodd y panel yn yr adroddiad, os cytunir
arno, y byddai'n gweithredu'n ychwanegol at y mecanweithiau eraill sy'n
digwydd. Fe'i defnyddir i helpu i lunio a datblygu polisïau a gwasanaethau'r
awdurdod wrth symud ymlaen.
Cadarnhaodd swyddogion oherwydd yr amser
cyfyngedig ar ddiwedd y broses o bennu'r gyllideb, a maint y bwlch yn y
gyllideb y bydd yr awdurdod yn ei wynebu, mae'n debygol y bydd cynigion lle
bydd angen newid polisi neu benderfyniadau gwasanaeth yn cael eu cyflwyno'n
gynharach. Bydd hyn yn golygu y bydd gan y pwyllgorau craffu olwg ar gynigion
yn gynharach ac y bydd hyn yn caniatáu cyfraniad pan fydd cynigion ar gyfer y
flwyddyn i ddod yn cael eu llunio.
Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w
cyflwyno i'r Cabinet.
Gorymdeithiau Coffa - Castell-nedd a Phort Talbot
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad fel a nodwyd yn y pecyn agenda.
Holodd yr Aelodau am ddadansoddiad o'r gost ar gyfer y digwyddiadau.
Cadarnhaodd swyddogion y rhan fwyaf o'r costau sy'n ymwneud â chau'r briffordd,
ynghyd â rhai costau ar gyfer darparu cymorth cyntaf a threfnu pobl yn y
digwyddiad. Wrth symud ymlaen, cadarnhaodd swyddogion y byddai staff yr
awdurdod yn derbyn hyfforddiant mewn cynlluniau rheoli traffig a fyddai'n helpu
i leihau costau'r digwyddiad yn y dyfodol.
Mynegodd yr aelodau eu pryder bod y cyllid wedi'i ddyrannu ar gyfer y
digwyddiadau yn y ddwy dref ac nad oedd cymunedau'r cymoedd wedi'u cynnwys yn
yr eitem hon. Gofynnodd yr Aelodau am ystyriaeth ehangach ar gyfer digwyddiadau
yn y dyfodol. Dywedodd swyddogion fod y rheswm dros y ffocws ar y ddwy dref yn
ymwneud â'r adborth a dderbyniwyd y llynedd pan nad oedd modd cynnal y
gorymdeithiau. Roedd cymunedau'r cyn-filwr yn enwedig yn yr ardaloedd hyn yn
ofidus oherwydd nad oeddent yn gallu gorymdeithio y llynedd. Nid yw unrhyw ran
arall o'r Fwrdeistref wedi cysylltu, ac nid yw'r awdurdod yn ymwybodol o unrhyw
orymdaith arall sy'n ei chael hi'n anodd.
Cadarnhaodd y Prif Weithredwr ei bod wedi gofyn am adolygiad o
ddigwyddiadau a gwyliau ar draws y fwrdeistref.
Cadarnhawyd y byddai'r costau ar gyfer 2023 yn dod o gronfeydd wrth gefn
cyffredinol.
Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.
Strategaethau Diwylliant a Chyrchfannau
Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda a'r
strategaethau a ddosbarthwyd o fewn y pecyn atodol.
Ystyriodd yr Aelodau'r strategaeth ddiwylliant mewn perthynas â chwaraeon
ac roeddent yn falch o weld bod y strategaeth wedi nodi bod angen comisiynu
asesiad angen cyfleusterau chwaraeon. Dylai hyn gynnwys deiliadaeth
cyfleusterau chwaraeon a chynaliadwyedd y cyfleusterau hefyd.
Holodd yr Aelodau faint o aelodau staff fyddai eu hangen i gyflawni'r
strategaethau, ac a ydynt yn ddibynnol ar gyllid grant. Ar hyn o bryd mae cwpl
o aelodau staff yn cael eu cyflogi gan ddefnyddio cyllid grant a fydd yn
cynorthwyo i gyflawni'r ddwy strategaeth a gyflwynir. Ar hyn o bryd mae
swyddogion yn ceisio caffael rhagor o gyllid grant.
Roedd swyddogion yn awyddus i amlinellu, er bod y dogfennau'n cael eu
harwain gan y cyngor, bod cyflawni'r strategaeth yn dibynnu ar ddull
partneriaeth.
Edrychodd yr Aelodau ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gofynnodd i
swyddogion ystyried yr hyn a ellid ei wneud i ymgysylltu â'r grŵp oedran
nad oedd wedi darparu ymateb. Pwysleisiodd swyddogion bwysigrwydd partneriaeth
ddiwylliant i bobl iau wrth symud ymlaen.
Holodd yr aelodau werth yr ymgynghorwyr ac a oeddent yn werth am arian o
ran canlyniadau'r adroddiadau. Cymeradwyodd swyddogion waith trylwyr yr
ymgynghorwyr mewn perthynas â'r eitem hon.
Codwyd yr Aelodau broblemau o ran trafnidiaeth a'r angen i sicrhau bod y
strategaethau'n cysylltu â strategaethau ehangach y cyngor. Roedd swyddogion yn
cydnabod pwysigrwydd trafnidiaeth yn y strategaethau ac yn gyffredinol ar draws
y Fwrdeistref.
Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.
Strategaeth Treftadaeth
Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda a'r
strategaeth a ddosbarthwyd o fewn y pecyn atodol.
Nodwyd bod yr eitem hon yn strategaeth ddrafft i'w hawdurdodi ar gyfer
ymgynghoriad.
Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w
cyflwyno i'r Cabinet.
Chwarter 1 - Monitro'r Gyllideb Refeniw
Ystyriodd yr Aelodau yr adroddiad fel y'i dosbarthwyd yn y pecyn agenda a'r
strategaethau a ddosbarthwyd o fewn y pecyn atodol.
Ar dudalen 266, nodir gorwariant rhagamcanol o £2.867 miliwn. Cadarnhawyd
mai dyma'r gorwariant a ragwelir ar ôl i £3.5m gael ei dynnu o gronfeydd wrth
gefn cyffredinol y cytunwyd arnynt gan y Cabinet/cyngor pan osodwyd y gyllideb
yn wreiddiol.
Nid yw effaith dyfarniad cyflog arfaethedig staff llyfrau gwyrdd yr NJC
wedi'i gytuno o hyd, felly mae'r ffigurau a gyflwynir yn bwynt safle mewn
amser. Gall y gorwariant fod yn destun newid. Mae'r adroddiad yn tybio bod
aelodau'n fodlon defnyddio'r gyllideb wrth gefn ar gyfer cyflogau a neilltuwyd
i ariannu cost ychwanegol y dyfarniad cyflog.
Bydd unrhyw fesurau arbed costau a chynhyrchu incwm sy'n dod o fewn mesurau
a pholisïau presennol yn cael eu hystyried yn ystod y flwyddyn i geisio
lleihau'r gorwariant.
O ran cludiant rhwng y cartref a'r ysgol a'r gorwariant yn ystod y
flwyddyn, cadarnhawyd bod hyn o ganlyniad i lwybrau newydd, a llwybrau newydd a
oedd eisoes yn bodoli ond roedd yn rhaid eu haildendro, a arweiniodd felly at
gost ychwanegol. Er mwyn ceisio lliniaru costau yn y dyfodol, roedd swyddogion
yn bwriadu ymgysylltu â swyddogion allanol i geisio lleihau costau yn y
dyfodol, heb effeithio ar yr hawl i gludiant rhwng y cartref a'r ysgol.
Holodd yr Aelodau pa waith oedd yn cael ei wneud o ran y strategaeth llety.
Cadarnhaodd y swyddogion fod y gwaith yn cael ei wneud. Mae'r adeiladau y
gellir eu hailbwrpasu'n destun trafodaeth gyfredol mewn perthynas â buddsoddiad
cyfalaf i benderfynu beth sy'n ofynnol er mwyn iddynt gael eu defnyddio. Yn y
cyfamser, mae adeiladau ychwanegol yn cael eu hystyried a sut y gellir eu
defnyddio er mwyn lleihau ôl troed carbon y cyngor a chostau gweithredu
parhaus. Bydd hyn yn cymryd amser i sicrhau bod y cyngor yn gallu parhau i
ddarparu gwasanaeth effeithlon a chadw staff sy'n gweithio yn y cyngor.
Tynnodd yr Aelodau sylw at y tanwariant ar gynllun gostyngiadau treth y
cyngor a holwyd beth oedd yn cael ei wneud i hyrwyddo hyn, o ystyried yr
argyfwng costau byw parhaus. Yn ogystal, a fu unrhyw effaith o ganlyniad i
ehangu'r Gwasanaeth Hawliau Lles. Nid oedd swyddogion yn gallu dweud a oedd y
cynnydd wedi cael unrhyw effaith bendant ar y nifer sy'n derbyn cefnogaeth
treth y cyngor. Nodwyd bod nifer y bobl sy'n hawlio cefnogaeth treth y cyngor
wedi gostwng ers 2020.
Amlinellodd y Prif Weithredwr rai pwyntiau o ran y gwaith a wnaed mewn
ymateb i gefnogaeth Hawliau Lles. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno prydau ysgol am
ddim. Yn ogystal, defnyddiwyd rhywfaint o arian y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar
y gwasanaeth olrhain teuluoedd ag incwm isel, sy'n targedu ac yn cynorthwyo
pobl nad ydynt o bosib yn cael mynediad i'w hawl i fudd-dal llawn. Dywedodd
swyddogion y byddai rhestr o'r cymorth sydd ar gael yn cael ei dosbarthu i
aelodau drwy e-bost yn dilyn y cyfarfod.
Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.
Chwarter 1 - Monitro'r Gyllideb Gyfalaf
Holodd yr Aelodau a yw'r argyfwng costau byw yn effeithio ar gyllidebau
cyfalaf ac a roddwyd cyfrif am argyfyngau wrth gefn addas o fewn y cyllidebau.
Nodwyd bod cost chwyddiant yn cael effaith ar faint o bethau y gellir eu
cyflawni o fewn y cyllidebau presennol. Mae cost gynyddol benthyca'n cael
effaith ar gostau ariannu cyfalaf.
Yn dilyn craffu, cymeradwywyd yr argymhellion i'w cyflwyno i'r Cabinet.
Chwarter 1 - Dangosyddion Perfformiad - 23/24
Amlinellodd swyddogion y fformat newydd ar gyfer
cyflwyno'r wybodaeth. Mae hyfforddiant ar graffu perfformiad wedi'i drefnu ar
gyfer mis Hydref 2023.
Cododd yr aelodau y dangosydd mewn perthynas â
gwasanaethau cwsmeriaid a'r amser a gymerir i ateb galwadau. Holodd yr Aelodau,
gan gyfeirio at yr adolygiad o wasanaethau cwsmeriaid, a oedd dangosydd arall a
fyddai'n adlewyrchu perfformiad gwasanaethau cwsmeriaid yn well. Cadarnhaodd
swyddogion fod rheolwr y Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi'i benodi a'u bod yn
trafod yr adolygiad o'r gwasanaethau cwsmeriaid. Bydd y dangosydd perfformiad
yn nodwedd o'r adolygiad ei hun a'r gobaith yw y gellir nodi dangosydd sy'n adlewyrchu'n
well ansawdd y gwasanaeth a ddarparwyd. Cadarnhaodd swyddogion y bydd aelodau
etholedig yn rhan o'r adolygiad.
Cododd yr aelodau nifer y staff sy'n gadael yr
awdurdod lle mae'r gweithiwr yn dechrau'r broses. Cadarnhaodd swyddogion fod
aelodau staff profiadol wedi'u cynnwys yn y ffigyrau hynny. Mae data'n
adlewyrchu bod nifer y bobl sy'n recriwtio i'r sefydliad wedi cynyddu o
flwyddyn i flwyddyn ac yn gyffredinol mae nifer y dechreuwyr yn fwy na nifer y
rheini sy'n gadael. Fodd bynnag, cydnabu mewn rhai rhannau o'r cyngor, mae
recriwtio'n parhau i fod yn anodd.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Adroddiad Blynyddol Canmoliaeth a Chwynion
2022-2023
Er bod yr aelodau'n cydnabod mai'r adborth gan y
cyhoedd sydd bwysicaf, holodd yr aelodau a yw'r awdurdod yn nodi pryd mae
aelodau unigol yn canmol gwasanaethau. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn cael eu
cynnwys fel rhan o'r adroddiadau pan dderbynnir canmoliaeth gan aelodau.
Holodd yr aelodau a oedd dadansoddiad o'r cwynion
i wahaniaethu rhwng cwynion am y gwasanaeth a chwynion am staff. Cadarnhaodd
swyddogion fod yr wybodaeth hon wedi'i hamlinellu yn yr Adroddiad Blynyddol
Cwynion.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.