Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol PDF 205 KB ·
24 Tachwedd 2021 ·
15 Rhagfyr 2021 ·
5 Ionawr 2022 ·
12 Ionawr 2022 ·
9 Chwefror 2022 ·
28 Chwefror 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion
canlynol y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir: ·
24 Tachwedd 2021 ·
15 Rhagfyr 2021 ·
5 Ionawr 2022 ·
12 Ionawr 2022 ·
9 Chwefror 2022 ·
28 Chwefror 2022 |
|||
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr
eitem ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Model Gwasanaeth Arfaethedig
ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid a Desgiau Arian Parod y Ganolfan Ddinesig Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau
o fodel gwasanaeth arfaethedig Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer
Gwasanaethau Cwsmeriaid a'r Desgiau Arian Parod ar gyfer pan fydd yr
adeiladau'n ailagor i'r cyhoedd. Tynnodd y Prif Swyddog Digidol
sylw at y ffaith bod y Canolfannau Dinesig wedi'u cau ers dechrau'r pandemig, a
ddaeth â newid mawr i'r ffordd roedd gwasanaethau'r cyngor yn gweithredu ac yn
cael eu darparu; roedd gan y cyngor fwy o bresenoldeb ar-lein, ac roedd nifer
mawr o bobl wedi defnyddio'r gwasanaethau a ddarparwyd ar-lein. Nodwyd bod
cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi dechrau llacio, ac roedd y cyngor bellach mewn
sefyllfa i ddechrau ystyried sut y gellid ailagor y Canolfannau Dinesig i'r
cyhoedd. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y
model yn disgrifio'r modd y bwriedid gweithredu'r Gwasanaethau Cwsmeriaid wrth
symud ymlaen o ran ymholiadau wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynlluniau i wella
rhai o'r gwasanaethau digidol yn y meysydd Gwasanaethau Cwsmeriaid; bydd hyn yn
caniatáu i aelodau'r cyhoedd, nad oedd ganddynt y dechnoleg addas gartref, gael
mynediad at rai o wasanaethau ar-lein y cyngor. Dywedwyd bod cynlluniau ar y
cyd i ddechrau ailagor Canolfannau Dinesig i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2022; bydd
hyn yn cyd-fynd â chyfyngiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, a chynhelir yr
asesiadau risg priodol. Cododd yr Aelodau bryderon
ynglŷn â chau'r desgiau arian parod, gan dynnu sylw at y ffaith y gall
annog y cyhoedd i beidio ag ymweld â'r Canolfannau Dinesig, yn ogystal â'r
posibilrwydd o gael effaith ar nifer y bobl sy'n ymweld â chanolau trefi.
Ychwanegodd yr Aelodau fod rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb yn hanfodol, ac y
dylent aros fel rhan o'r model gwasanaeth. Esboniodd swyddogion fod y desgiau
arian parod wedi bod ar gau ers tua dwy flynedd, a bod y cyngor wedi rhoi
dulliau amgen o ddarpariaeth ar waith; er enghraifft, gallai preswylwyr
ddefnyddio'u swyddfeydd post lleol yn eu canolau trefi eu hunain a'u cymunedau
lleol i dalu eu biliau. Nodwyd, wrth ailagor yr adeiladau, fod yn rhaid i
Swyddogion gofio'r ffaith, er na fyddai unrhyw gyfyngiadau ar waith, fod angen
i'r adeiladau weithredu ar sail asesiad risg o hyd. Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai
gwahanol gamau i ailagor yr adeiladau; hwn oedd cam cyntaf ailagor ar gyfer y
cyfamser. Soniwyd y gallai Swyddogion fonitro effaith a'r galw am ddesgiau
arian parod yn y cam hwn; a phe bai'r galw yno, byddai Swyddogion yn meddwl am sut
y gellid eu hailsefydlu. Cynigiodd yr Aelodau y
byddai'n fwy buddiol ailsefydlu'r gwasanaeth desg arian parod yng ngham cyntaf
ailagor yr adeiladau, gan y byddai hyn yn caniatáu i'r tîm gasglu'r wybodaeth
a'r data sydd eu hangen i fonitro'r defnydd ac i lywio penderfyniadau yn y
dyfodol. Mewn perthynas ag ymholiadau cyffredinol, nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd y bydd cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at y sianeli cyswllt sydd ar gael ar gyfer y meysydd gwasanaeth perthnasol; ac os ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3)
a (5) Offeryn Statudol 2001
Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr
eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys
datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff
14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet (Cyllid) ar gyfer craffu cyn
penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr
eitem breifat ganlynol ar agenda'r Cabinet: Rownd 2 Cronfa Codi'r Gwastad
y DU (CCG) - Cyllideb i Benodi Ymgynghorwyr Allanol i Gefnogi Ceisiadau
Castell-nedd Port Talbot Rhoddwyd adroddiad i'r Aelodau
ynghylch rownd 2 CCG y DU a'r gyllideb i benodi ymgynghorwyr allanol i gefnogi
ceisiadau Castell-nedd Port Talbot. Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet. |