·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y pwyllgor ar yr
eitem ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Model Gwasanaeth Arfaethedig
ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid a Desgiau Arian Parod y Ganolfan Ddinesig
Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau
o fodel gwasanaeth arfaethedig Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer
Gwasanaethau Cwsmeriaid a'r Desgiau Arian Parod ar gyfer pan fydd yr
adeiladau'n ailagor i'r cyhoedd.
Tynnodd y Prif Swyddog Digidol
sylw at y ffaith bod y Canolfannau Dinesig wedi'u cau ers dechrau'r pandemig, a
ddaeth â newid mawr i'r ffordd roedd gwasanaethau'r cyngor yn gweithredu ac yn
cael eu darparu; roedd gan y cyngor fwy o bresenoldeb ar-lein, ac roedd nifer
mawr o bobl wedi defnyddio'r gwasanaethau a ddarparwyd ar-lein. Nodwyd bod
cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi dechrau llacio, ac roedd y cyngor bellach mewn
sefyllfa i ddechrau ystyried sut y gellid ailagor y Canolfannau Dinesig i'r
cyhoedd.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y
model yn disgrifio'r modd y bwriedid gweithredu'r Gwasanaethau Cwsmeriaid wrth
symud ymlaen o ran ymholiadau wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynlluniau i wella
rhai o'r gwasanaethau digidol yn y meysydd Gwasanaethau Cwsmeriaid; bydd hyn yn
caniatáu i aelodau'r cyhoedd, nad oedd ganddynt y dechnoleg addas gartref, gael
mynediad at rai o wasanaethau ar-lein y cyngor.
Dywedwyd bod cynlluniau ar y
cyd i ddechrau ailagor Canolfannau Dinesig i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2022; bydd
hyn yn cyd-fynd â chyfyngiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, a chynhelir yr
asesiadau risg priodol.
Cododd yr Aelodau bryderon
ynglŷn â chau'r desgiau arian parod, gan dynnu sylw at y ffaith y gall
annog y cyhoedd i beidio ag ymweld â'r Canolfannau Dinesig, yn ogystal â'r
posibilrwydd o gael effaith ar nifer y bobl sy'n ymweld â chanolau trefi.
Ychwanegodd yr Aelodau fod rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb yn hanfodol, ac y
dylent aros fel rhan o'r model gwasanaeth. Esboniodd swyddogion fod y desgiau
arian parod wedi bod ar gau ers tua dwy flynedd, a bod y cyngor wedi rhoi
dulliau amgen o ddarpariaeth ar waith; er enghraifft, gallai preswylwyr
ddefnyddio'u swyddfeydd post lleol yn eu canolau trefi eu hunain a'u cymunedau
lleol i dalu eu biliau. Nodwyd, wrth ailagor yr adeiladau, fod yn rhaid i
Swyddogion gofio'r ffaith, er na fyddai unrhyw gyfyngiadau ar waith, fod angen
i'r adeiladau weithredu ar sail asesiad risg o hyd.
Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai
gwahanol gamau i ailagor yr adeiladau; hwn oedd cam cyntaf ailagor ar gyfer y
cyfamser. Soniwyd y gallai Swyddogion fonitro effaith a'r galw am ddesgiau
arian parod yn y cam hwn; a phe bai'r galw yno, byddai Swyddogion yn meddwl am sut
y gellid eu hailsefydlu.
Cynigiodd yr Aelodau y
byddai'n fwy buddiol ailsefydlu'r gwasanaeth desg arian parod yng ngham cyntaf
ailagor yr adeiladau, gan y byddai hyn yn caniatáu i'r tîm gasglu'r wybodaeth
a'r data sydd eu hangen i fonitro'r defnydd ac i lywio penderfyniadau yn y
dyfodol.
Mewn perthynas ag ymholiadau
cyffredinol, nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd y bydd cwsmeriaid yn cael eu
cyfeirio at y sianeli cyswllt sydd ar gael ar gyfer y meysydd gwasanaeth
perthnasol; ac os nad oedd cwsmer yn gallu cwblhau'r trafodiad, yna bydd
Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cynnig cymorth. Gofynnodd yr Aelodau am esboniad
pellach mewn perthynas â'r datganiad hwn, a gofynnodd i Swyddogion am sicrwydd
y byddai staff yn helpu'r rheini na allent ddefnyddio'r gwasanaethau ar-lein
neu nad oeddent am eu defnyddio.
Esboniwyd bod 'methu â
chwblhau'r trafodiad' yn cyfeirio at y rheini nad oeddent yn gallu defnyddio'r
gwasanaeth cymorth digidol a fyddai ar waith; byddai'r Tîm Gwasanaethau
Cwsmeriaid yn rhoi cymorth i'r rheini nad oeddent yn defnyddio'r gwasanaeth hwn
neu na allent ei ddefnyddio am unrhyw reswm penodol. Esboniodd swyddogion y
byddai'r Gwasanaethau Cwsmeriaid yn ymateb yn uniongyrchol i gwsmeriaid ag
ymholiadau a chwestiynau cyffredinol, fel y byddent fel arfer yn ei wneud cyn y
pandemig. Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai'r gwasanaeth cymorth digidol yn helpu i
wella'r ôl troed digidol yn y meysydd Gwasanaethau Cwsmeriaid yn y Canolfannau
Dinesig; ac roeddent ar waith ar gyfer aelodau o'r cyhoedd a oedd yn gallu defnyddio'r
mathau hyn o wasanaethau ar-lein.
Tynnodd yr Aelodau sylw at
bwysigrwydd adolygu'r model gwasanaeth yn barhaus, er mwyn sicrhau ei fod yn
addas i'r diben a'i fod er budd y cyhoedd.
Felly, cynigiwyd ac eiliwyd y
diwygiad ffurfiol canlynol i'r argymhelliad a gynhwyswyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd:
'Argymhellir bod y model
gwasanaeth fel y'i disgrifir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cael ei
gymeradwyo o fis Ebrill 2022 ond y dylid ei adolygu am chwe mis'.
Penderfynwyd bod y pwyllgor o
blaid y gwelliant i'w ystyried gan y Cabinet.