Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 1af Medi, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Rheoli Risgiau a Chyfrifoldebau mewn perthynas â Thomenni Glofeydd a Chwareli Segur o fewn yr Awdurdod a rheoli Diogelwch Tomenni Glo yn y dyfodol.

 

Cynghorwyd yr aelodau am y risgiau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r tomenni gwastraff glofeydd a chwareli hanesyddol yn yr awdurdod. Diweddarwyd yr aelodau hefyd am waith Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru ac ymarfer ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar reoli Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru yn y dyfodol, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhannodd yr aelodau bryderon am y cyfrifoldebau y mae perchnogion tir preifat a’r awdurdod lleol bellach yn gyfrifol amdanynt. Teimlwyd mai diben yr awdurdod glo oedd rheoli'r safleoedd hyn, fodd bynnag perchnogion tir oedd yn gyfrifol am gynnal y tomenni hyn yn awr, sy'n cael effaith ar gost. Gofynnwyd i'r pryderon hyn gael eu mynegi i Gomisiwn y Gyfraith. Roedd swyddogion yn deall y pryderon a fynegwyd gan aelodau a gwnaethant sicrhau'r aelodau eu bod hefyd wedi mynegi'r un pryderon i Lywodraeth Cymru. Nodwyd y cafwyd trafodaethau am gyllid posib a allai fod ar gael i helpu i ariannu'r costau hyn a roddwyd i'r perchnogion tir preifat.

 

Mynegodd yr aelodau ymhellach yr hoffent roi ystyriaeth yn ysgrifenedig i Gomisiwn y Gyfraith, gan fynegi'r pryderon am y cyfrifoldebau ynghylch monitro a chynnal a chadw, y mae'r perchnogion tir bellach yn gyfrifol amdanynt.

 

Gofynnodd yr aelodau pa fonitro a wnaed ynghylch tomenni gwastraff cloddio glo brig. Nodwyd bod y pyllau glo brig mawr yn y fwrdeistref sirol wedi'u dylunio i fod yn gadarn, ac anfonir copïau o'r cynlluniau i CNC a'r Awdurdod Glo i sicrhau diogelwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Ceisiwyd cadarnhad ynghylch a fyddai tomenni Categori C a D nad oeddent wedi'u cynnwys yn y ceisiadau yn cael eu harolygu o hyd. Darparwyd sicrwydd, a chadarnhaodd swyddogion y byddai arolygiadau tomenni Categori C a D yn parhau, gan ddibynnu ar gyllid yn y dyfodol.

 

Cafwyd trafodaethau am y 7% o domenni nad ydynt wedi'u cofrestru, a pha fonitro fyddai ei angen. Amlygodd swyddogion nad oes gan y cyngor ddyletswydd ar hyn o bryd lle byddai angen iddo gymryd cyfrifoldeb. Fodd bynnag, nodwyd efallai y bydd y cyngor yn dymuno ymyrryd ar yr achlysuron hyn at ddibenion mesur a diogelu ataliol. Felly, nodwyd o fewn yr ymateb i'r ymgynghoriad y byddai swyddogion yn ailadrodd y pryderon hyn ac yn gofyn i'r cyfrifoldebau gael eu hailystyried oherwydd y diffyg adnoddau a phrofiad yn y cyngor, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo fod yn gyfrifol.

 

Gofynnodd yr aelodau ym mhle mae'r tomenni glo yng Nghastell-nedd Port Talbot. Esboniodd swyddogion fod 404 o domenni glo yng Nghastell-nedd Port Talbot ac esboniwyd nad oes modd nodi'r lleoliadau ar hyn o bryd, fodd bynnag gellir gwneud hyn y tu allan i'r cyfarfod. Esboniodd swyddogion hefyd fanylion y categorïau tomenni glo.

 

Trafododd yr aelodau pa fonitro oedd ar waith ar gyfer y bylchau a adawyd gan domenni blaenorol, gan fod pryderon ynghylch pa gorff  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r mater a gynhwysir yng Nghofnod Rhif 4 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid eu trafod yng nghyfarfod heddiw fel eitemau brys yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm:

Oherwydd yr elfen amser.

 

3.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Gwahardd y cyhoedd yn unol ag Adran 100A (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn debygol o gynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 ac Adran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Cefnogaeth CBSCNPT o Bolisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid y Deyrnas Unedig(ARAP)

 

Trafododd aelodau yr adroddiad brys, a derbyniwyd gwybodaeth mewn perthynas â rhoi'r Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid ar waith, fel a fanylwyd yn yr adroddiad preifat.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet