Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

 

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Rheoli Risgiau a Chyfrifoldebau mewn perthynas â Thomenni Glofeydd a Chwareli Segur o fewn yr Awdurdod a rheoli Diogelwch Tomenni Glo yn y dyfodol.

 

Cynghorwyd yr aelodau am y risgiau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r tomenni gwastraff glofeydd a chwareli hanesyddol yn yr awdurdod. Diweddarwyd yr aelodau hefyd am waith Tasglu Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru ac ymarfer ymgynghori Comisiwn y Gyfraith ar reoli Diogelwch Tomenni Glo yng Nghymru yn y dyfodol, fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhannodd yr aelodau bryderon am y cyfrifoldebau y mae perchnogion tir preifat a’r awdurdod lleol bellach yn gyfrifol amdanynt. Teimlwyd mai diben yr awdurdod glo oedd rheoli'r safleoedd hyn, fodd bynnag perchnogion tir oedd yn gyfrifol am gynnal y tomenni hyn yn awr, sy'n cael effaith ar gost. Gofynnwyd i'r pryderon hyn gael eu mynegi i Gomisiwn y Gyfraith. Roedd swyddogion yn deall y pryderon a fynegwyd gan aelodau a gwnaethant sicrhau'r aelodau eu bod hefyd wedi mynegi'r un pryderon i Lywodraeth Cymru. Nodwyd y cafwyd trafodaethau am gyllid posib a allai fod ar gael i helpu i ariannu'r costau hyn a roddwyd i'r perchnogion tir preifat.

 

Mynegodd yr aelodau ymhellach yr hoffent roi ystyriaeth yn ysgrifenedig i Gomisiwn y Gyfraith, gan fynegi'r pryderon am y cyfrifoldebau ynghylch monitro a chynnal a chadw, y mae'r perchnogion tir bellach yn gyfrifol amdanynt.

 

Gofynnodd yr aelodau pa fonitro a wnaed ynghylch tomenni gwastraff cloddio glo brig. Nodwyd bod y pyllau glo brig mawr yn y fwrdeistref sirol wedi'u dylunio i fod yn gadarn, ac anfonir copïau o'r cynlluniau i CNC a'r Awdurdod Glo i sicrhau diogelwch ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Ceisiwyd cadarnhad ynghylch a fyddai tomenni Categori C a D nad oeddent wedi'u cynnwys yn y ceisiadau yn cael eu harolygu o hyd. Darparwyd sicrwydd, a chadarnhaodd swyddogion y byddai arolygiadau tomenni Categori C a D yn parhau, gan ddibynnu ar gyllid yn y dyfodol.

 

Cafwyd trafodaethau am y 7% o domenni nad ydynt wedi'u cofrestru, a pha fonitro fyddai ei angen. Amlygodd swyddogion nad oes gan y cyngor ddyletswydd ar hyn o bryd lle byddai angen iddo gymryd cyfrifoldeb. Fodd bynnag, nodwyd efallai y bydd y cyngor yn dymuno ymyrryd ar yr achlysuron hyn at ddibenion mesur a diogelu ataliol. Felly, nodwyd o fewn yr ymateb i'r ymgynghoriad y byddai swyddogion yn ailadrodd y pryderon hyn ac yn gofyn i'r cyfrifoldebau gael eu hailystyried oherwydd y diffyg adnoddau a phrofiad yn y cyngor, gan ganiatáu i Lywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo fod yn gyfrifol.

 

Gofynnodd yr aelodau ym mhle mae'r tomenni glo yng Nghastell-nedd Port Talbot. Esboniodd swyddogion fod 404 o domenni glo yng Nghastell-nedd Port Talbot ac esboniwyd nad oes modd nodi'r lleoliadau ar hyn o bryd, fodd bynnag gellir gwneud hyn y tu allan i'r cyfarfod. Esboniodd swyddogion hefyd fanylion y categorïau tomenni glo.

 

Trafododd yr aelodau pa fonitro oedd ar waith ar gyfer y bylchau a adawyd gan domenni blaenorol, gan fod pryderon ynghylch pa gorff oedd yn gyfrifol am y rhain. Esboniodd swyddogion mai'r awdurdod glo sy'n gyfrifol, fodd bynnag byddent yn codi'r mater o fewn yr ymateb i'r ymgynghoriad er eglurder.

 

Darparodd yr aelodau sicrwydd i swyddogion y byddai'r pryderon a fynegwyd heddiw yn cael eu pwysleisio i ASau lleol i gynyddu ymwybyddiaeth o'r materion hyn.

 

Yn dilyn craffu, roedd yr aelodau'n cefnogi'r argymhellion yn amodol ar y testun ychwanegol ym mhwynt 35 yr argymhelliad, ac argymhelliad ychwanegol fel a fanylwyd isod.

 

·      Oherwydd yr amserlenni a oedd yn berthnasol wrth baratoi ymateb CNPT i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith, rhoddir pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio baratoi a chyflwyno ymateb i ymarfer ymgynghori Comisiwn y Gyfraith, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Strydlun a Pheirianneg, gydag ymateb o'r fath yn mynd i'r afael â phryderon am gyfrifoldeb ariannol y gwaith cynnal a chadw a drosglwyddir i berchnogion tir.

·      Bod yr ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i'r ASau yng Nghastell-nedd Port Talbot i'w hystyried.