Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 9fed Chwefror, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

·        Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu (amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Deddf Tai (Cymru) 2014 – Ystyried Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Castell-nedd Port Talbot

Rhoddwyd adroddiad i'r Aelodau a oedd yn ceisio cytuno ar ganfyddiadau'r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr (ALlSTh) (2022) ac awdurdodi cyflwyno Adroddiad ALlSTh i Weinidogion Cymru i'w gymeradwyo.

Esboniwyd bod rhan 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ymgymryd ag ALlSTh newydd bob pum mlynedd; lle'r oedd yr asesiad yn nodi fod angen lleiniau ar gyfer cartrefi teithiol, byddai angen i'r cyngor wneud darpariaeth i fynd i'r afael â'r angen a nodwyd.

Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod yr astudiaeth wedi'i chynnal yn fewnol, gan ddefnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru; roedd cydweithwyr o wahanol wasanaethau'n ymwneud â chynhyrchu'r ALlSTh, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Polisi Cynllunio, Ystadau, Gwasanaethau i Ddysgwyr sy'n Agored i Niwed a Chydlynwyr Ardaloedd Lleol. Dywedwyd bod yr astudiaeth wedi nodi nad oedd angen lleiniau yn y pum mlynedd nesaf (2021 i 2026), ond y byddai angen 10 llain yn y tymor hwy (2027 i 2036).

Hysbyswyd y Pwyllgor, pe bai'r adroddiad a ddosbarthwyd yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, y bydd Swyddogion yn cyflwyno'r asesiad i Lywodraeth Cymru i'w adolygu; unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo'r adroddiad, bydd angen i'r cyngor ddiwallu unrhyw anghenion a nodwyd.

Gofynnwyd pam nad oedd darpariaeth ar hyn o bryd ar gyfer cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn ardaloedd y cymoedd. Cadarnhaodd swyddogion fod gan Gastell-nedd Port Talbot dri safle cyhoeddus ar hyn o bryd, a oedd i gyd wedi'u lleoli ar hyd coridor arfordirol y Fwrdeistref Sirol; roedd un safle preifat ym Margam hefyd. Wrth gynnal yr arolwg, cydnabuwyd yr angen am safleoedd cyhoeddus, a byddai lleiniau ychwanegol yn cael eu hystyried pe bai'n cael ei nodi fel gofyniad; Byddai angen i swyddogion aros i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r astudiaeth, cyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai safleoedd a lleiniau posib yn rhan o'r broses safleoedd ymgeisiol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol newydd; o ran ble y byddent wedi'u lleoli, soniwyd y byddai angen i Swyddogion ymchwilio'n fanylach i hyn. Ychwanegwyd bod yn well gan y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr fyw gyda'i gilydd yn aml, rhywbeth a nodwyd o'r ffordd y mae aelwydydd wedi'u trefnu ar safleoedd presennol.  Byddai swyddogion hefyd yn archwilio manylion eu canfyddiadau o'r cyfweliadau a gynhaliwyd.

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â thramwyo; os nad oedd angen wedi'i nodi ar gyfer safle tramwy, holwyd ble y byddai'r cymunedau hyn yn mynd. Dywedwyd, er nad oedd angen wedi'i nodi ar hyn o bryd am safleoedd tramwy, fod Cymru'r Dyfodol: Cynllun Cenedlaethol 2040, yn dweud y dylid asesu llety Sipsiwn a Theithwyr ar lefel ranbarthol; bydd hyn yn awr yn ofyniad fel rhan o'r Cydbwyllgor Corfforaethol. Soniodd swyddogion y bydd gan y Cydbwyllgor Corfforaethol Is-bwyllgor a fydd yn penodi Tîm i lunio Cynllun Datblygu Strategol ynghylch hyn; roedd yn bwysig edrych ar ardal ddaearyddol ehangach na'r awdurdod lleol wrth geisio nodi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.