·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
·
Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu
(amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu
Cofnodion:
Craffodd y pwyllgor ar yr
eitem ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Deddf Tai (Cymru) 2014 –
Ystyried Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr Castell-nedd Port Talbot
Rhoddwyd adroddiad i'r Aelodau
a oedd yn ceisio cytuno ar ganfyddiadau'r Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr
(ALlSTh) (2022) ac awdurdodi cyflwyno Adroddiad ALlSTh i Weinidogion Cymru i'w
gymeradwyo.
Esboniwyd bod rhan 3 o Ddeddf
Tai (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ymgymryd ag ALlSTh
newydd bob pum mlynedd; lle'r oedd yr asesiad yn nodi fod angen lleiniau ar
gyfer cartrefi teithiol, byddai angen i'r cyngor wneud darpariaeth i fynd i'r
afael â'r angen a nodwyd.
Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod yr astudiaeth wedi'i chynnal yn fewnol, gan ddefnyddio canllawiau
Llywodraeth Cymru; roedd cydweithwyr o wahanol wasanaethau'n ymwneud â
chynhyrchu'r ALlSTh, gan gynnwys y Gwasanaethau Cymdeithasol, Tai, Polisi
Cynllunio, Ystadau, Gwasanaethau i Ddysgwyr sy'n Agored i Niwed a Chydlynwyr
Ardaloedd Lleol. Dywedwyd bod yr astudiaeth wedi nodi nad oedd angen lleiniau
yn y pum mlynedd nesaf (2021 i 2026), ond y byddai angen 10 llain yn y tymor
hwy (2027 i 2036).
Hysbyswyd y Pwyllgor, pe bai'r
adroddiad a ddosbarthwyd yn cael ei gymeradwyo gan y Cabinet, y bydd Swyddogion
yn cyflwyno'r asesiad i Lywodraeth Cymru i'w adolygu; unwaith y bydd Llywodraeth
Cymru wedi cymeradwyo'r adroddiad, bydd angen i'r cyngor ddiwallu unrhyw
anghenion a nodwyd.
Gofynnwyd pam nad oedd darpariaeth ar hyn o bryd ar gyfer cymunedau Sipsiwn
a Theithwyr yn ardaloedd y cymoedd. Cadarnhaodd swyddogion fod gan Gastell-nedd
Port Talbot dri safle cyhoeddus ar hyn o bryd, a oedd i gyd wedi'u lleoli ar
hyd coridor arfordirol y Fwrdeistref Sirol; roedd un safle preifat ym Margam
hefyd. Wrth gynnal yr arolwg, cydnabuwyd yr angen am safleoedd cyhoeddus, a
byddai lleiniau ychwanegol yn cael eu hystyried pe bai'n cael ei nodi fel
gofyniad; Byddai angen i swyddogion aros i Lywodraeth Cymru gymeradwyo'r
astudiaeth, cyn bwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Hysbyswyd yr Aelodau y byddai
safleoedd a lleiniau posib yn rhan o'r broses safleoedd ymgeisiol ar gyfer y
Cynllun Datblygu Lleol newydd; o ran ble y byddent wedi'u lleoli, soniwyd y
byddai angen i Swyddogion ymchwilio'n fanylach i hyn. Ychwanegwyd bod yn well
gan y cymunedau Sipsiwn a Theithwyr fyw gyda'i gilydd yn aml, rhywbeth a nodwyd
o'r ffordd y mae aelwydydd wedi'u trefnu ar safleoedd presennol. Byddai swyddogion hefyd yn archwilio manylion
eu canfyddiadau o'r cyfweliadau a gynhaliwyd.
Cynhaliwyd trafodaeth
ynglŷn â thramwyo; os nad oedd angen wedi'i nodi ar gyfer safle tramwy,
holwyd ble y byddai'r cymunedau hyn yn mynd. Dywedwyd, er nad oedd angen wedi'i
nodi ar hyn o bryd am safleoedd tramwy, fod Cymru'r Dyfodol: Cynllun
Cenedlaethol 2040, yn dweud y dylid asesu llety Sipsiwn a Theithwyr ar lefel
ranbarthol; bydd hyn yn awr yn ofyniad fel rhan o'r Cydbwyllgor Corfforaethol.
Soniodd swyddogion y bydd gan y Cydbwyllgor Corfforaethol Is-bwyllgor a fydd yn
penodi Tîm i lunio Cynllun Datblygu Strategol ynghylch hyn; roedd yn bwysig
edrych ar ardal ddaearyddol ehangach na'r awdurdod lleol wrth geisio nodi
safleoedd tramwy newydd, gan y bydd hyn yn rhoi gwell dealltwriaeth o ble y
byddai'r lleoliad mwyaf cynaliadwy ar gyfer y safleoedd hyn.
Tynnodd yr Aelodau sylw at
gamgymeriad ar dudalen 43 yr adroddiad a ddosbarthwyd; ym mharagraff 4.3.3
mae'n cyfeirio at Sipsiwn a Theithwyr fel grŵp moeseg yn hytrach na
grŵp ethnig.
Yn dilyn craffu, roedd
y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.