Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Mercher, 15fed Rhagfyr, 2021 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

·        Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu (amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Llywodraethu'r Rhaglen Gyfalaf

 

Derbyniodd aelodau wybodaeth ynghylch cylch gorchwyl Grŵp Llywio'r Rhaglen Gyfalaf a Chymorthfeydd Aelodau, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Croesawodd yr aelodau'r protocol newydd ynghylch Rheoli'r Rhaglen Gyfalaf er mwyn mynd i'r afael â chanfyddiadau'r Adolygiad Llywodraethu Annibynnol.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch dosbarthu arian yn deg. Nodwyd y byddai'r awdurdod yn cynnal arolygon cynhwysfawr o'r holl asedau o fewn y fwrdeistref sirol ar sail rhaglen dreigl. Yn dilyn yr arolygon, bydd swyddogion yn nodi'r defnydd gorau o'r cyllid i'w ddosbarthu'n deg.

 

Gofynnodd aelodau ynghylch y cyfeiriad tuag at waith cyflymdra ar briffyrdd yn yr adroddiad a gofynnodd am eglurder ynghylch y cyfrifoldebau. Nodwyd mai'r heddlu'n unig a all gorfodi'r terfyn cyflymder a rhoi tocynnau am oryrru. Gall swyddogion yng Nghastell-nedd Port Talbot ddefnyddio damweiniau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i roi mesurau lliniaru ar waith i reoli terfynau cyflymder.

 

Gofynnodd swyddogion a oes gan y cyngor yr adnoddau i ymchwilio ac ymateb i geisiadau Deddf Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlenni priodol. Gofynnwyd hefyd a oedd Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol i aelodau yn ogystal â'r cyhoedd. Cadarnhaodd swyddogion fod gan aelodau'r hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth ynghylch y cyngor a'i gweld pe byddant am wneud hynny. Nid gofyn am wybodaeth drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fyddai'r arfer gorau er mwyn i aelod gasglu gwybodaeth. Mewn perthynas â'r cyhoedd yn derbyn gwybodaeth, nodwyd y dylai gwybodaeth gyffredinol fod ar gael ar y wefan er mwyn i'r cyhoedd ei chyrchu er mwyn atal cael ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth niferus.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet

 

Chwarter 2 (1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021) Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Cabinet).

 

Derbyniodd aelodau wybodaeth perfformiad chwarter 2 ar gyfer data Dangosyddion Perfformiad Allweddol a chanmoliaeth a chwynion o fewn cylch y Cabinet, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Amlygodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn deall nad yw rhai o'r dangosyddion perfformiad yn cyrraedd y targedau oherwydd pwysau'n dilyn effaith COVID-19. Nododd aelodau eu gwerthfawrogiad o'r gwaith y mae'r swyddogion yn parhau i'w wneud i gyrraedd eu targedau.

 

Nododd aelodau fod staff â gwybodaeth drylwyr a phrofiad o fewn yr Adran Gynllunio wedi gadael yr awdurdod. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg adnoddau o fewn yr adran. Gofynnodd yr aelodau pa fesurau lliniaru yr oedd swyddogion yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod swyddi swyddogion yn cael eu llenwi, gan sicrhau bod pobl â gwybodaeth a phrofiad yn y cyngor. Nododd swyddogion oherwydd y galw mawr ar gyflwyniad y gwasanaeth, maent yn sicrhau pecyn recriwtio ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru

 

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ynghylch gweithredu Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Parhaodd aelodau i fynegi eu pryderon ynghylch Cydbwyllgorau Corfforedig. Nodwyd bod gohebiaeth wedi bod rhwng  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.