·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
·
Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu
(amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd
y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Llywodraethu'r
Rhaglen Gyfalaf
Derbyniodd
aelodau wybodaeth ynghylch cylch gorchwyl Grŵp Llywio'r Rhaglen Gyfalaf a
Chymorthfeydd Aelodau, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Croesawodd
yr aelodau'r protocol newydd ynghylch Rheoli'r Rhaglen Gyfalaf er mwyn mynd i'r
afael â chanfyddiadau'r Adolygiad Llywodraethu Annibynnol.
Cafwyd
trafodaethau ynghylch dosbarthu arian yn deg. Nodwyd y byddai'r awdurdod yn
cynnal arolygon cynhwysfawr o'r holl asedau o fewn y fwrdeistref sirol ar sail
rhaglen dreigl. Yn dilyn yr arolygon, bydd swyddogion yn nodi'r defnydd gorau
o'r cyllid i'w ddosbarthu'n deg.
Gofynnodd
aelodau ynghylch y cyfeiriad tuag at waith cyflymdra ar briffyrdd yn yr adroddiad
a gofynnodd am eglurder ynghylch y cyfrifoldebau. Nodwyd mai'r heddlu'n unig a
all gorfodi'r terfyn cyflymder a rhoi tocynnau am oryrru. Gall swyddogion yng
Nghastell-nedd Port Talbot ddefnyddio damweiniau sy'n seiliedig ar dystiolaeth
i roi mesurau lliniaru ar waith i reoli terfynau cyflymder.
Gofynnodd
swyddogion a oes gan y cyngor yr adnoddau i ymchwilio ac ymateb i geisiadau
Deddf Rhyddid Gwybodaeth o fewn yr amserlenni priodol. Gofynnwyd hefyd a oedd
Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn berthnasol i aelodau yn ogystal â'r cyhoedd.
Cadarnhaodd swyddogion fod gan aelodau'r hawl i ofyn am unrhyw wybodaeth
ynghylch y cyngor a'i gweld pe byddant am wneud hynny. Nid gofyn am wybodaeth
drwy Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth fyddai'r arfer gorau er mwyn i aelod gasglu
gwybodaeth. Mewn perthynas â'r cyhoedd yn derbyn gwybodaeth, nodwyd y dylai
gwybodaeth gyffredinol fod ar gael ar y wefan er mwyn i'r cyhoedd ei chyrchu er
mwyn atal cael ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth niferus.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet
Chwarter
2 (1 Ebrill 2021 - 30 Medi 2021) Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Cabinet).
Derbyniodd
aelodau wybodaeth perfformiad chwarter 2 ar gyfer data Dangosyddion Perfformiad
Allweddol a chanmoliaeth a chwynion o fewn cylch y Cabinet, fel y nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd.
Amlygodd
y Cadeirydd fod y Pwyllgor yn deall nad yw rhai o'r dangosyddion perfformiad yn
cyrraedd y targedau oherwydd pwysau'n dilyn effaith COVID-19. Nododd aelodau eu
gwerthfawrogiad o'r gwaith y mae'r swyddogion yn parhau i'w wneud i gyrraedd eu
targedau.
Nododd
aelodau fod staff â gwybodaeth drylwyr a phrofiad o fewn yr Adran Gynllunio
wedi gadael yr awdurdod. Mae hyn wedi arwain at ddiffyg adnoddau o fewn yr
adran. Gofynnodd yr aelodau pa fesurau lliniaru yr oedd swyddogion yn eu rhoi
ar waith i sicrhau bod swyddi swyddogion yn cael eu llenwi, gan sicrhau bod
pobl â gwybodaeth a phrofiad yn y cyngor. Nododd swyddogion oherwydd y galw
mawr ar gyflwyniad y gwasanaeth, maent yn sicrhau pecyn recriwtio ar hyn o
bryd.
Yn
dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Cyd-bwyllgor
Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru
Rhoddwyd
diweddariad i'r aelodau ynghylch gweithredu Cyd-bwyllgor Corfforedig
Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn unol â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Parhaodd
aelodau i fynegi eu pryderon ynghylch Cydbwyllgorau Corfforedig. Nodwyd bod
gohebiaeth wedi bod rhwng y Pwyllgor Craffu a'r gweinidog sy'n rhannu pryderon
y pwyllgor.
Roedd
aelodau'n falch o weld y gwneir gwaith i sefydlu fformat craffu. Fodd bynnag,
gwnaethant rannu eu pryder ynghylch y cydbwyllgorau blaenorol lle ystyriwyd y
Pwyllgor Craffu yn y camau olaf. Nodwyd bod angen ystyried craffu o'r dechrau
er mwyn sicrhau bod llywodraethu da ar waith er mwyn dal y rheini i gyfrif.
Cafwyd
trafodaethau ynghylch cyfrifoldebau swyddogaethau'r Cydbwyllgorau Corfforedig.
Nodwyd yn yr adroddiad y byddai Sir Benfro'n bennaf yn gyfrifol am Lywodraethu
ac Archwilio, a gofynnodd aelodau ynghylch y ffordd y sefydlwyd hyn. Nodwyd y
byddai gan Sir Benfro'r rheolaeth yn bennaf o ran cyfrifoldeb swyddogion, ond
byddai'r Pwyllgor Craffu Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys cynrychiolwyr o
bob awdurdod, gan gynnwys Castell-nedd Port Talbot.
Yn
dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd
y Cabinet