Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301
Rhif | Eitem |
---|---|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu) ·
Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu
(amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet: Monitro Cofrestr Risgiau
2021/2022 Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am Risgiau Strategol y cyngor. Nododd yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod nifer sylweddol o bwyntiau pwysau ar draws y cyngor ar hyn o
bryd lle nad oedd digon o gyflenwad gweithlu i fodloni Gofynion Gwasanaeth;
Holodd yr Aelodau pa gamau a oedd yn cael eu cymryd i leihau'r pwyntiau pwysau.
Esboniodd swyddogion fod Seminar Pob Aelod wedi'i drefnu ar gyfer 18 Tachwedd
2021 lle byddai'r Aelodau'n cael eu briffio ar y Gofynion Gwasanaeth presennol
a'r cynlluniau wrth symud ymlaen. Cyfeiriodd yr Aelodau at y
buddsoddiad i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig risg uchel drwy Grŵp
Arweinyddiaeth VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol), a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am sut y byddai hyn yn cael ei
weithredu. Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i
ddosbarthu gwybodaeth am y mater hwn i'r Aelodau maes o law. Un o'r triniaethau sy'n
gysylltiedig â'r risg cadernid ariannol oedd cynyddu ymgysylltiad dinasyddion â
heriau'r gyllideb, gan sicrhau ymrwymiad dinasyddion i ymddygiadau a fydd yn
lleihau neu'n dileu'r galw ar wasanaethau'r cyngor; gofynnwyd sut y byddai hyn
yn cael ei gyflawni. Nodwyd, o ran ymgysylltu â dinasyddion, fod y cyngor wedi
cwblhau'r ymgyrch 'Gadewch i Ni Siarad' yn ddiweddar a oedd yn gofyn i
breswylwyr nodi'r hyn a oedd yn bwysig iddynt yn dilyn cychwyniad y pandemig;
roedd dros 1,700 o ymatebwyr, yr oedd 500 ohonynt wedi dweud eu bod am i'r
cyngor gysylltu â hwy yng ngham nesaf yr ymarfer ymgynghori. Roedd gan y cyngor
hefyd Banel Dinasyddion ag oddeutu 500 o aelodau, a Chymuned Ymarfer; cysylltir
â'r ddau grŵp ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y ffaith y
bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb a'r ymgynghoriad ar adfer gwasanaethau yn
cael ei hyrwyddo gymaint â phosib; gwneir hyn mewn sawl ffordd megis ar-lein,
mewn llyfrgelloedd a thrwy'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol (CALl). Ychwanegodd swyddogion
y bydd y cyngor, dros gyfnod y gaeaf, yn cynnal ymgyrch tri mis er mwyn
ymgysylltu â'r cyhoedd a sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut mae'r cyngor yn
effeithio ar eu bywydau a'u bod yn ymwybodol o'r gwaith yr oedd y cyngor wedi'i
wneud yn ystod y pandemig. Cadarnhaodd swyddogion fod y
driniaeth restredig ganlynol sy'n gysylltiedig â'r risgiau cadernid ariannol yn
gysylltiedig ag Aelodau Etholedig a holl randdeiliaid y cyngor; er mwyn gwella
ansawdd y dystiolaeth a gafwyd i enghreifftio heriau cadernid ariannol y cyngor
a sicrhau bod y rhai sy'n ymwneud â'r penderfyniadau ar gyllidebau llywodraeth
leol yn deall hyn. Cododd y Pwyllgor bryderon ynghylch darllenadwyedd y Gofrestr Risgiau Strategol a darparodd awgrymiadau a fyddai'n caniatáu i Aelodau ddehongli'r ddogfen a chael gwell dealltwriaeth o'r darlun cyffredinol, a fyddai felly'n eu galluogi i'w monitro'n fwy effeithiol. Dywedodd swyddogion y byddent yn cynnwys geiriau esboniadol yn yr adroddiad yn y dyfodol ac yn rhoi cymaint o eglurder â phosib yn seiliedig ar yr adborth a ddarparwyd gan yr ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |