·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu
cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
·
Dewis eitemau priodol o agenda Is-bwyllgor (Cyllid) y Cabinet at ddiben craffu cyn penderfynu
(amgaeeir adroddiadau Is-bwyllgor Cyllid y Cabinet ar gyfer yr
Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:
Monitro Cofrestr Risgiau
2021/2022
Rhoddwyd yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Aelodau am Risgiau Strategol y cyngor.
Nododd yr adroddiad a
ddosbarthwyd fod nifer sylweddol o bwyntiau pwysau ar draws y cyngor ar hyn o
bryd lle nad oedd digon o gyflenwad gweithlu i fodloni Gofynion Gwasanaeth;
Holodd yr Aelodau pa gamau a oedd yn cael eu cymryd i leihau'r pwyntiau pwysau.
Esboniodd swyddogion fod Seminar Pob Aelod wedi'i drefnu ar gyfer 18 Tachwedd
2021 lle byddai'r Aelodau'n cael eu briffio ar y Gofynion Gwasanaeth presennol
a'r cynlluniau wrth symud ymlaen.
Cyfeiriodd yr Aelodau at y
buddsoddiad i gefnogi dioddefwyr cam-drin domestig risg uchel drwy Grŵp
Arweinyddiaeth VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais
Rhywiol), a gofynnwyd am ragor o wybodaeth am sut y byddai hyn yn cael ei
weithredu. Cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i
ddosbarthu gwybodaeth am y mater hwn i'r Aelodau maes o law.
Un o'r triniaethau sy'n
gysylltiedig â'r risg cadernid ariannol oedd cynyddu ymgysylltiad dinasyddion â
heriau'r gyllideb, gan sicrhau ymrwymiad dinasyddion i ymddygiadau a fydd yn
lleihau neu'n dileu'r galw ar wasanaethau'r cyngor; gofynnwyd sut y byddai hyn
yn cael ei gyflawni. Nodwyd, o ran ymgysylltu â dinasyddion, fod y cyngor wedi
cwblhau'r ymgyrch 'Gadewch i Ni Siarad' yn ddiweddar a oedd yn gofyn i
breswylwyr nodi'r hyn a oedd yn bwysig iddynt yn dilyn cychwyniad y pandemig;
roedd dros 1,700 o ymatebwyr, yr oedd 500 ohonynt wedi dweud eu bod am i'r
cyngor gysylltu â hwy yng ngham nesaf yr ymarfer ymgynghori. Roedd gan y cyngor
hefyd Banel Dinasyddion ag oddeutu 500 o aelodau, a Chymuned Ymarfer; cysylltir
â'r ddau grŵp ar gyfer ymgysylltu yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y ffaith y
bydd yr ymgynghoriad ar y gyllideb a'r ymgynghoriad ar adfer gwasanaethau yn
cael ei hyrwyddo gymaint â phosib; gwneir hyn mewn sawl ffordd megis ar-lein,
mewn llyfrgelloedd a thrwy'r Cydlynwyr Ardaloedd Lleol (CALl). Ychwanegodd swyddogion
y bydd y cyngor, dros gyfnod y gaeaf, yn cynnal ymgyrch tri mis er mwyn
ymgysylltu â'r cyhoedd a sicrhau eu bod yn ymwybodol o sut mae'r cyngor yn
effeithio ar eu bywydau a'u bod yn ymwybodol o'r gwaith yr oedd y cyngor wedi'i
wneud yn ystod y pandemig.
Cadarnhaodd swyddogion fod y
driniaeth restredig ganlynol sy'n gysylltiedig â'r risgiau cadernid ariannol yn
gysylltiedig ag Aelodau Etholedig a holl randdeiliaid y cyngor; er mwyn gwella
ansawdd y dystiolaeth a gafwyd i enghreifftio heriau cadernid ariannol y cyngor
a sicrhau bod y rhai sy'n ymwneud â'r penderfyniadau ar gyllidebau llywodraeth
leol yn deall hyn.
Cododd y Pwyllgor bryderon
ynghylch darllenadwyedd y Gofrestr Risgiau Strategol a darparodd awgrymiadau a
fyddai'n caniatáu i Aelodau ddehongli'r ddogfen a chael gwell dealltwriaeth o'r
darlun cyffredinol, a fyddai felly'n eu galluogi i'w monitro'n fwy effeithiol.
Dywedodd swyddogion y byddent yn cynnwys geiriau esboniadol yn yr adroddiad yn
y dyfodol ac yn rhoi cymaint o eglurder â phosib yn seiliedig ar yr adborth a
ddarparwyd gan yr Aelodau.
Amlygodd yr adroddiad a
ddosbarthwyd y gwaith o reoli Tirlithriadau a Chwareli ar dir sy'n eiddo i'r
cyngor; gofynnwyd a ddylid cynnwys Tomenni Glo yn y driniaeth hon. Soniodd
swyddogion fod adran sylwadau'r driniaeth hon yn dangos bod y cyngor yn cynnal
arolygiadau mewn perthynas â Thomenni Glo, ac yn rheoli'r asedau'n ofalus; dyma
un o argymhellion y gwaith diweddar yr oedd yr Awdurdod Glo wedi bod yn ei
wneud yn genedlaethol. Nodwyd bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwneud hyn
cyn i'r tasglu gael ei sefydlu gan yr Awdurdod Glo; yr arfer da a oedd wedi bod
ar waith yn y cyngor hwn a oedd wedi arwain at ffurfio rhai o argymhellion y
tasglu. Roedd swyddogion yn hyderus bod y sylwadau yn y gofrestr risgiau yn
gyfredol, ond yn y dyfodol byddai'n cyfeirio at y tasglu ac yn disodli
'Tomenni' gyda 'Tomenni Glo'.
Yn dilyn ymlaen o'r uchod,
holwyd pwy oedd yn monitro'r risgiau canolig a allai ddod yn risg uchel.
Hysbyswyd yr Aelodau fod yr holl domenni yn yr ardal wedi'u dosbarthu o A-Ch,
ac roedd y rhai a oedd o fewn perchnogaeth a rheolaeth y cyngor yn cael eu
harolygu'n rheolaidd o ran eu risg; arolygwyd y rhai sydd â'r risg uchaf
(dosbarth Ch) yn amlach na'r rhai sydd â'r risg isaf (dosbarth A). Cadarnhawyd,
wrth arolygu'r risgiau canolig, y bydd Swyddogion yn penderfynu a oeddent wedi
dirywio ai peidio; os felly, cânt eu hail-ddosbarthu a byddai'r arolygiadau'n
cynyddu yn unol â hynny, neu fel arall byddai Swyddogion yn ceisio sicrhau
cyllid i weithredu mesurau lliniaru.
Gofynnodd yr Aelodau i
Swyddogion ymhelaethu ar y pwynt canlynol a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd; adolygu'r potensial ar gyfer capasiti/rhyddhau neu leihau costau
drwy wasanaethau mewnol a rennir neu drwy gydweithio allanol. Cadarnhaodd
swyddogion y byddent yn casglu mwy o wybodaeth am hyn ac yn rhoi ymateb i'r
Aelodau y tu allan i'r cyfarfod.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.
Chwarter 1 (1 Ebrill 2021 - 30
Mehefin 2021) Dangosyddion Perfformiad Allweddol y Cabinet
Derbyniodd y Pwyllgor
Ddangosyddion Perfformiad Allweddol y Cabinet ar gyfer Chwarter 1 (1 Ebrill
2021 - 30 Mehefin 2021).
Cyfeiriwyd at y dangosydd
perfformiad a oedd yn ymwneud â chanran yr holl geisiadau cynllunio a
benderfynwyd mewn pryd; roedd y perfformiad yn chwarter 1 wedi llithro yn erbyn
y targedau oherwydd y pwysau presennol yn y gwasanaeth hwn. Gofynnodd Cadeirydd
y Pwyllgor Cynllunio a ellid anfon e-bost at yr holl Aelodau Etholedig i'w
hysbysu o'r pwysau hyn, a bod ceisiadau cynllunio yn debygol o gymryd mwy o
amser nag arfer nes i'r lefelau staffio wella. Tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod cydweithwyr yn y Gwasanaeth Cynllunio yn cael trafferth gyda'r
llwyth gwaith gan fod nifer o swyddi gwag o fewn y gwasanaeth a galw mawr gan
ddatblygwyr; roedd y cyngor ar fin cymryd rhan mewn proses recriwtio newydd
oherwydd y materion o ran sicrhau staff cymwysedig a phrofiadol. Soniwyd y bydd
hyn yn helpu i wella'r perfformiad wrth symud ymlaen; fodd bynnag, ar hyn o
bryd roedd cydweithwyr yn ceisio delio â materion ar sail blaenoriaeth.
Cadarnhawyd y byddai Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio yn anfon e-bost at yr
holl Aelodau fel y soniwyd uchod.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r amser cyfartalog (mewn eiliadau) i ateb galwadau ffôn yn Gymraeg;
Roedd yr Aelodau'n pryderu am y manylion a gynhwyswyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn erbyn y dangosydd perfformiad penodol hwn, a gofynnwyd beth
oedd yn cael ei wneud i leihau faint o amser yr oedd yn ei gymryd i ateb galwad
yn Gymraeg. Esboniodd y Prif Weithredwr fod problem gyffredinol gyda
chysylltiad â chanolfan gyswllt y cyngor; roedd y system gweithio hybrid wedi
profi'n broblemus pan roedd staff y switsfwrdd yn ceisio trosglwyddo galwadau i
berson priodol. Nodwyd bod llawer o resymau gwahanol dros hyn, yn benodol
problemau technegol gyda'r system; roedd hyn o ganlyniad i'r newid cyflym o ran
sefydlu'r trefniadau gweithio gartref mae'n debyg. Hysbyswyd yr Aelodau fod y
Prif Swyddog Digidol yn gweithio drwy'r gwahanol atebion ar hyn o bryd; fodd bynnag,
roedd darn ehangach o waith i'w wneud dros y chwe mis nesaf yn ymwneud â'r
strategaeth cyswllt. Nodwyd bod gan y cyngor fwy o siaradwyr Cymraeg yn y
Gwasanaethau Cwsmeriaid nag erioed o'r blaen; fodd bynnag, tynnodd y dangosydd
perfformiad sylw at y ffaith bod mwy o waith i'w wneud o hyd o ran hyn.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.
Adroddiad Blynyddol
Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2020/2021
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol
Strategaeth Hybu'r Gymraeg 2020-2021 i'r Pwyllgor.
Tynnodd yr Aelodau sylw at
bwysigrwydd Strategaeth Hybu'r Gymraeg, a dywedwyd bod angen ei chynnwys yng
nghynlluniau adfer COVID-19 gyda gwasanaethau ac amcanion strategol eraill.
Awgrymwyd bod adolygiad o'r Strategaeth yn cael ei gynnal gyda phartneriaid, i
nodi ble a sut yr oedd angen gwneud cynnydd.
Soniodd y Prif Weithredwr y
byddai'r cynllun adfer tymor hwy yn cael ei ddarparu i'r Aelodau ym mis
Rhagfyr; fel rhan o'r cynllun hwn, roedd Swyddogion yn cynnig y dylid ffurfio
amcan llesiant newydd a fydd yn canolbwyntio ar waith y cyngor mewn perthynas
â'r amgylchedd, treftadaeth a diwylliant lleol. Nodwyd bod y themâu hyn wedi
cael eu nodi'n gryf iawn gan breswylwyr a gymerodd ran yn yr ymgyrch Gadewch i
Ni Siarad; bydd yr amcan llesiant newydd hwn yn galluogi Swyddogion i flaenoriaethu'r
ffactorau hyn a rhoi mwy o ffocws iddynt. Cadarnhawyd y byddai'r Gymraeg yn
cael ei chynnwys o fewn yr amcan llesiant cyffredinol; croesawodd swyddogion yr
awgrym i adolygu'r strategaeth gyda phartneriaid. Hysbyswyd yr Aelodau mai un o
ofynion safonau'r Gymraeg sy'n ymwneud â Strategaeth Hybu'r Gymraeg oedd cynnal
gwerthusiad ac adolygiad o fewn cyfnod pum mlynedd y Strategaeth; yn dilyn
cyhoeddi'r cynllun adfer, bydd Swyddogion yn gweithio ar ddatblygu Strategaeth
Hybu'r Gymraeg newydd.
Roedd yr Aelodau'n cefnogi
sicrhau bod y cyfnod adrodd yn cyd-fynd â strategaethau eraill, ond soniwyd bod
y cyngor hanner ffordd drwy'r cyfnod adrodd nesaf ar hyn o bryd. Dywedodd
swyddogion eu bod wedi gobeithio cyflwyno'r adroddiad hwn i'r Cabinet ym mis Medi
ond yn anffodus nid oeddent wedi gallu gwneud hynny oherwydd problemau wrth
gasglu gwybodaeth gan bartneriaid. Wrth symud ymlaen, cadarnhawyd y byddai
Swyddogion yn ceisio cyflwyno adroddiadau blynyddol yn gynharach yn y flwyddyn.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi mai un o'r camau gweithredu yn y Strategaeth oedd sicrhau
bod clybiau chwaraeon yn cael eu hannog a'u cefnogi i ddefnyddio'r Gymraeg mewn
lleoliadau clwb ffurfiol ac anffurfiol. Gofynnodd yr Aelodau pa gymorth a oedd
yn cael ei ddarparu i helpu'r clybiau chwaraeon i annog hyn. Esboniodd
swyddogion fod yr wybodaeth hon yn cael ei darparu gan un o bartneriaid y
cyngor a byddai rhagor o fanylion yn cael eu ceisio a'u darparu i'r Aelodau yn
unol â hynny.
Cododd yr Aelodau bwysigrwydd
defnyddio'r Gymraeg yn achlysurol, a gofynnwyd iddynt gael gwybod am unrhyw
fathau o gynlluniau i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg achlysurol; bydd hyn yn
caniatáu i Aelodau ddarparu'r wybodaeth i'w hetholwyr.
Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros
Addysg, Sgiliau a Diwylliant sicrwydd i'r Aelodau fod y Gymraeg a diwylliant
Cymreig yn cael eu hyrwyddo'n barhaus drwy ysgolion Cymraeg a Saesneg.
Cyfeiriwyd at Grŵp Tasg a
Gorffen Strategaeth Hybu'r Gymraeg a sefydlwyd ychydig flynyddoedd yn ôl i
ddatblygu'r Strategaeth; holwyd sut yr oedd hyn yn cyd-fynd â'r gwaith
presennol sy'n cael ei wneud a gwaith yn y dyfodol wrth symud ymlaen. Esboniodd
swyddogion bob tro yr adroddwyd am gynnydd blynyddol, roedd yng ngoleuni'r
gwaith a wnaed wrth ddatblygu'r Strategaeth gan y Grŵp Tasg a Gorffen.
Soniwyd y gellid ailsefydlu'r Grŵp Tasg a Gorffen ar gyfer datblygu'r
Strategaeth newydd, pe bai'r Aelodau o'r un farn.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.
Cynllun Dyletswydd
Bioamrywiaeth Lleol 2021
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am
y Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth wedi'i ddiweddaru (2020-2023).
Holwyd, pan fydd y cyngor yn
derbyn ceisiadau am ddatblygiadau, faint o bwysoliad a fyddai'n cael ei roi ar
yr agwedd bioamrywiaeth yn erbyn creu swyddi a'r economi. Dywedodd Cyfarwyddwr
yr Amgylchedd ac Adfywio fod cynllunio a'r broses benderfynu bob amser wedi bod
yn weithred gydbwyso; mae'r cyngor yn cynnal ymgynghoriadau gydag ymgyngoreion
statudol ac anstatudol, ac yn aml yn cael gwahaniaeth barn. Nodwyd mai rôl y
Swyddog Cynllunio wedyn fyddai cydbwyso'r materion hynny, a llunio barn wybodus
yn seiliedig ar bolisi ac arweiniad ar lefel genedlaethol a lleol. Hysbyswyd yr
Aelodau fod yr agenda newid yn yr hinsawdd yn dod yn fwyfwy o flaenoriaeth; ac
roedd y pwyslais ar ddatblygu amgylchedd cynaliadwy hefyd yn flaenoriaeth i
Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol, boed hynny o ran darpariaeth breswyl, yr
economi neu'r amgylchedd naturiol. Dywedodd swyddogion y bydd y cyngor yn
parhau i sicrhau y byddai'r elfennau hyn yn cael eu hystyried fel rhan o'r
broses benderfynu, ond roedd hefyd yn ofynnol iddo ystyried y buddiannau eraill
gan eu bod yn benderfyniad materol ar geisiadau cynllunio. Ychwanegwyd bod y
cyngor yn cymryd ei gyfrifoldeb yn ofalus iawn ac yn sicrhau cyllid i gychwyn
rhai o'i gynlluniau bioamrywiaeth ei hun.
O ran y Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl), nodwyd pan y bydd Swyddogion yn derbyn safleoedd yr ymgeiswyr ar gyfer
y cynllun newydd, y byddant yn sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hystyried
wrth i’r gwaith uwchgynllunio gael ei wneud. Hysbyswyd yr Aelodau fod y cyngor
eisoes wedi ymrwymo i'r Siarter Creu Lleoedd a oedd yn canolbwyntio ar greu
cymunedau; sicrhau bod tai a swyddi ar gael, a hefyd yn eu cysylltu drwy
isadeiledd gwyrdd. Dywedwyd y byddai Swyddogion yn cynnal asesiad isadeiledd
gwyrdd a fydd yn edrych ar deithio llesol a bioamrywiaeth; bydd hyn yn sicrhau
bod pob elfen wedi'i hintegreiddio.
Canmolodd y Pwyllgor y Cynllun
Dyletswydd Bioamrywiaeth Lleol a diolchodd i'r Timau a fu'n rhan o waith y
prosiect hwn.
Yn dilyn craffu, roedd y
pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.