Agenda a Chofnodion

Special, Pwyllgor Craffu'r Cabinet - Dydd Llun, 21ain Mawrth, 2022 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Charlotte Davies / Chloe Plowman - 01639 763745 / 01639 763301 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol pdf eicon PDF 205 KB

·        24 Tachwedd 2021

·        15 Rhagfyr 2021

·        5 Ionawr 2022

·        12 Ionawr 2022

·        9 Chwefror 2022

·        28 Chwefror 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion canlynol y cyfarfodydd blaenorol fel cofnod cywir:

·       24 Tachwedd 2021

·       15 Rhagfyr 2021

·       5 Ionawr 2022

·       12 Ionawr 2022

·       9 Chwefror 2022

·       28 Chwefror 2022

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Model Gwasanaeth Arfaethedig ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid a Desgiau Arian Parod y Ganolfan Ddinesig

Rhoddwyd trosolwg i'r Aelodau o fodel gwasanaeth arfaethedig Cyngor Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Gwasanaethau Cwsmeriaid a'r Desgiau Arian Parod ar gyfer pan fydd yr adeiladau'n ailagor i'r cyhoedd.

Tynnodd y Prif Swyddog Digidol sylw at y ffaith bod y Canolfannau Dinesig wedi'u cau ers dechrau'r pandemig, a ddaeth â newid mawr i'r ffordd roedd gwasanaethau'r cyngor yn gweithredu ac yn cael eu darparu; roedd gan y cyngor fwy o bresenoldeb ar-lein, ac roedd nifer mawr o bobl wedi defnyddio'r gwasanaethau a ddarparwyd ar-lein. Nodwyd bod cyfyngiadau Llywodraeth Cymru wedi dechrau llacio, ac roedd y cyngor bellach mewn sefyllfa i ddechrau ystyried sut y gellid ailagor y Canolfannau Dinesig i'r cyhoedd.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y model yn disgrifio'r modd y bwriedid gweithredu'r Gwasanaethau Cwsmeriaid wrth symud ymlaen o ran ymholiadau wyneb yn wyneb, yn ogystal â chynlluniau i wella rhai o'r gwasanaethau digidol yn y meysydd Gwasanaethau Cwsmeriaid; bydd hyn yn caniatáu i aelodau'r cyhoedd, nad oedd ganddynt y dechnoleg addas gartref, gael mynediad at rai o wasanaethau ar-lein y cyngor.

Dywedwyd bod cynlluniau ar y cyd i ddechrau ailagor Canolfannau Dinesig i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2022; bydd hyn yn cyd-fynd â chyfyngiadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru, a chynhelir yr asesiadau risg priodol. 

Cododd yr Aelodau bryderon ynglŷn â chau'r desgiau arian parod, gan dynnu sylw at y ffaith y gall annog y cyhoedd i beidio ag ymweld â'r Canolfannau Dinesig, yn ogystal â'r posibilrwydd o gael effaith ar nifer y bobl sy'n ymweld â chanolau trefi. Ychwanegodd yr Aelodau fod rhai gwasanaethau wyneb yn wyneb yn hanfodol, ac y dylent aros fel rhan o'r model gwasanaeth. Esboniodd swyddogion fod y desgiau arian parod wedi bod ar gau ers tua dwy flynedd, a bod y cyngor wedi rhoi dulliau amgen o ddarpariaeth ar waith; er enghraifft, gallai preswylwyr ddefnyddio'u swyddfeydd post lleol yn eu canolau trefi eu hunain a'u cymunedau lleol i dalu eu biliau. Nodwyd, wrth ailagor yr adeiladau, fod yn rhaid i Swyddogion gofio'r ffaith, er na fyddai unrhyw gyfyngiadau ar waith, fod angen i'r adeiladau weithredu ar sail asesiad risg o hyd.

Hysbyswyd y Pwyllgor y byddai gwahanol gamau i ailagor yr adeiladau; hwn oedd cam cyntaf ailagor ar gyfer y cyfamser. Soniwyd y gallai Swyddogion fonitro effaith a'r galw am ddesgiau arian parod yn y cam hwn; a phe bai'r galw yno, byddai Swyddogion yn meddwl am sut y gellid eu hailsefydlu.

Cynigiodd yr Aelodau y byddai'n fwy buddiol ailsefydlu'r gwasanaeth desg arian parod yng ngham cyntaf ailagor yr adeiladau, gan y byddai hyn yn caniatáu i'r tîm gasglu'r wybodaeth a'r data sydd eu hangen i fonitro'r defnydd ac i lywio penderfyniadau yn y dyfodol.

Mewn perthynas ag ymholiadau cyffredinol, nododd yr adroddiad a ddosbarthwyd y bydd cwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at y sianeli cyswllt sydd ar gael ar gyfer y meysydd gwasanaeth perthnasol; ac os  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Mynediad i gyfarfodydd

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

RESOLVED:

that pursuant to Section 100A(4) and (5) of the Local Government Act 1972, the public be excluded for the following items of business which involved the likely disclosure of exempt information as defined in Paragraph 14 of Part 4 of Schedule 12A to the above Act.

 

4.

Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet (Cyllid) ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda'r Cabinet:

Rownd 2 Cronfa Codi'r Gwastad y DU (CCG) - Cyllideb i Benodi Ymgynghorwyr Allanol i Gefnogi Ceisiadau Castell-nedd Port Talbot

Rhoddwyd adroddiad i'r Aelodau ynghylch rownd 2 CCG y DU a'r gyllideb i benodi ymgynghorwyr allanol i gefnogi ceisiadau Castell-nedd Port Talbot.

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan y Cabinet.