Lleoliad: Via Microsoft Teams
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Craffu Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu
(amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda'r Cabinet: Prif gynllun Parc Gwledig Ystâd y Gnoll Darparwyd crynodeb i'r Aelodau o brif gynllun Parc
Gwledig Ystâd y Gnoll a'r cyfleoedd y mae'r cynllun yn eu cynnig ar gyfer
gwella'r parc. Canmolodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Adfywio a
Datblygu Cynaliadwy yr adroddiad ar ei ran ef ei hun a'r Pwyllgor Craffu Adfywio
a Datblygu Cynaliadwy. Gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion ystyried ehangu'r
gynulleidfa ar yr ymgynghoriad er mwyn cael ymateb helaeth yn y dyfodol. Cynhaliwyd trafodaethau ynglŷn â'r diffyg
parcio sydd ar gael yn y lleoliad a'r potensial ar gyfer parcio ychwanegol yn
dilyn y prif gynllun. Trafodwyd costau parcio preswylwyr lleol, tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith bod yr holl gostau parcio yn unol â pharcio canol y
dref. Gofynnodd yr Aelod a fyddai angen adleoli rhai
digwyddiadau yr oedd y cyngor wedi'u cynnal yn flaenorol ym Mharc y Gnoll.
Esboniodd swyddogion fod trafodaethau'n cael eu cynnal i sicrhau y gellir
cynnal digwyddiadau'r cyngor. Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith nad oedd y
Cynllun Gweithredu Profiad Ymwelwyr yn cynnwys camau gweithredu ynghylch gwella
bioamrywiaeth ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll, a nodwyd yn flaenoriaeth
allweddol i ymatebwyr yr arolwg ar-lein. Nodwyd y byddai'r Gweithgor Swyddogion
yn sicrhau y byddai camau gweithred sy’n ymwneud â bioamrywiaeth yn cael eu
datblygu yn y cynllun a’i gamau gweithredu a gofynnwyd sut byddai hyn yn cael
ei hyrwyddo a'i fonitro. Esboniwyd bod y gweithgor swyddogion yn gynamserol o
hyd ac y byddai'r trefniadau craffu’n parhau yn y Pwyllgor Craffu Hamdden a
Diwylliant gan roi cyfle i barhau i graffu ar hyn a'i fonitro ymhellach. Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion ystyried y bywyd
gwyllt yn y parc er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn barc gwledig ac yn
atal lleihau bywyd gwyllt. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. Pleidlais dros Adnewyddu Ardal Gwella Busnes
Castell-nedd Hysbyswyd yr Aelodau o fwriad 'Neath Inspired'
(BID) i gynnal pleidlais dros adnewyddu am dymor arall o bum mlynedd yn ardal
Canol Tref Castell-nedd. Mynegodd yr Aelodau bryderon ynglŷn â'r ardoll
y byddai'n ofynnol i fusnesau ei thalu, pe baent ym mharth y BID. Yn ogystal,
codwyd pryderon ynghylch yr anawsterau parhaus sy'n wynebu busnesau oherwydd yr
incwm a gollwyd yn sgîl pandemig Coronafeirws. Sicrhaodd swyddogion yr aelodau eu bod yn deall eu
hamheuon presennol ond, wedi ystyried, roeddent yn teimlo y gallai adnewyddu'r
BID gefnogi adferiad busnesau lleol o'r pandemig dros y pum mlynedd nesaf. O
ran y taliad ardoll, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai taliad o'r fath yn
daladwy gan fusnesau sydd â gwerth trethadwy cydgasgledig o £6,000 neu fwy yn
unig. Byddai pob busnes sydd wedi'u graddio islaw'r trothwy hwn yn cael ei
eithrio. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol
o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. Cyfarpar TG i Ysgolion Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am brosesu'r cyngor a darparu cyfarpar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Yn
unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir
gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o
gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4
Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion:
|
|||
Craffu Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu ·
Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet
(Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar
agenda'r Cabinet: Trefniadau Ariannol Hamdden Cyflwynwyd adroddiad preifat i'r Aelodau a oedd yn
rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau ariannol presennol yn y
cyfleusterau hamdden a'r effeithiau y mae COVID-19 wedi'u cael ar y
cyfleusterau hyn. Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn
gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. |