Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

·        Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda'r Cabinet:

 

Prif gynllun Parc Gwledig Ystâd y Gnoll

 

Darparwyd crynodeb i'r Aelodau o brif gynllun Parc Gwledig Ystâd y Gnoll a'r cyfleoedd y mae'r cynllun yn eu cynnig ar gyfer gwella'r parc.

 

Canmolodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy yr adroddiad ar ei ran ef ei hun a'r Pwyllgor Craffu Adfywio a Datblygu Cynaliadwy. Gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion ystyried ehangu'r gynulleidfa ar yr ymgynghoriad er mwyn cael ymateb helaeth yn y dyfodol.

 

Cynhaliwyd trafodaethau ynglŷn â'r diffyg parcio sydd ar gael yn y lleoliad a'r potensial ar gyfer parcio ychwanegol yn dilyn y prif gynllun. Trafodwyd costau parcio preswylwyr lleol, tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod yr holl gostau parcio yn unol â pharcio canol y dref.

 

Gofynnodd yr Aelod a fyddai angen adleoli rhai digwyddiadau yr oedd y cyngor wedi'u cynnal yn flaenorol ym Mharc y Gnoll. Esboniodd swyddogion fod trafodaethau'n cael eu cynnal i sicrhau y gellir cynnal digwyddiadau'r cyngor.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw at y ffaith nad oedd y Cynllun Gweithredu Profiad Ymwelwyr yn cynnwys camau gweithredu ynghylch gwella bioamrywiaeth ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll, a nodwyd yn flaenoriaeth allweddol i ymatebwyr yr arolwg ar-lein. Nodwyd y byddai'r Gweithgor Swyddogion yn sicrhau y byddai camau gweithred sy’n ymwneud â bioamrywiaeth yn cael eu datblygu yn y cynllun a’i gamau gweithredu a gofynnwyd sut byddai hyn yn cael ei hyrwyddo a'i fonitro. Esboniwyd bod y gweithgor swyddogion yn gynamserol o hyd ac y byddai'r trefniadau craffu’n parhau yn y Pwyllgor Craffu Hamdden a Diwylliant gan roi cyfle i barhau i graffu ar hyn a'i fonitro ymhellach.

 

Gofynnodd yr Aelodau i swyddogion ystyried y bywyd gwyllt yn y parc er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn barc gwledig ac yn atal lleihau bywyd gwyllt.

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Pleidlais dros Adnewyddu Ardal Gwella Busnes Castell-nedd

 

Hysbyswyd yr Aelodau o fwriad 'Neath Inspired' (BID) i gynnal pleidlais dros adnewyddu am dymor arall o bum mlynedd yn ardal Canol Tref Castell-nedd.

 

Mynegodd yr Aelodau bryderon ynglŷn â'r ardoll y byddai'n ofynnol i fusnesau ei thalu, pe baent ym mharth y BID. Yn ogystal, codwyd pryderon ynghylch yr anawsterau parhaus sy'n wynebu busnesau oherwydd yr incwm a gollwyd yn sgîl pandemig Coronafeirws.

 

Sicrhaodd swyddogion yr aelodau eu bod yn deall eu hamheuon presennol ond, wedi ystyried, roeddent yn teimlo y gallai adnewyddu'r BID gefnogi adferiad busnesau lleol o'r pandemig dros y pum mlynedd nesaf. O ran y taliad ardoll, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai taliad o'r fath yn daladwy gan fusnesau sydd â gwerth trethadwy cydgasgledig o £6,000 neu fwy yn unig. Byddai pob busnes sydd wedi'u graddio islaw'r trothwy hwn yn cael ei eithrio.

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Cyfarpar TG i Ysgolion

 

Cafodd yr Aelodau’r wybodaeth ddiweddaraf am brosesu'r cyngor a darparu cyfarpar TG i blant ym mhob ysgol.

 

Nododd a chanmolodd yr Aelodau y gwaith a fu'n gysylltiedig â sicrhau y gallai Dysgu Cyfunol lwyddo a phwysigrwydd gael y cyfarpar. Gofynnwyd a oedd pecynnau hyfforddiant a meddalwedd wedi'u hystyried yn unol â dosbarthiad y cyfarpar TG. Cadarnhaodd swyddogion fod pecynnau hyfforddiant a meddalwedd wedi'u hystyried. Tynnwyd sylw at y ffaith y byddai disgyblion yn defnyddio gwahanol lwyfannau i gyflawni dysgu cyfunol a bod ysgolion yn darparu hyfforddiant ar ddefnyddio'r feddalwedd a'r cyfarpar. 

 

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.