Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Charlotte Davies - 01639 763745
Rhif | Eitem |
---|---|
Penderfynu arfer y pwerau a nodir yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan mai ni yw'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y'i cymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mai 2015 Cofnodion: Penderfynwyd: Arfer
y pwerau a amlinellwyd yn Adran 35 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2015 fel y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu dynodedig at y diben hwn fel y'i
cymeradwywyd gan y cyngor ym mis Mai 2015. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol yr
adroddiad sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Gynllun Lles y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Rhoddodd
Cyfarwyddwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot (CGG) /
Cadeirydd y Bartneriaeth Costau Byw a Thlodi a'i Atal, gyflwyniad ar gynnydd. Roedd yr
aelodau'n cytuno â chynnwys yr adroddiad ond roeddent yn cwestiynu a oedd Amcan
Lles 2 'bydd ein holl gymunedau'n ffynnu ac yn gynaliadwy' yn gyraeddadwy ac,
os felly, beth oedd y dyddiad targed. Awgrymodd yr aelodau y dylid diwygio’r
datganiad fel a ganlyn, ‘Mae ein holl gymunedau’n ymdrechu i fod/gobeithio bod
yn ffyniannus ac yn gynaliadwy’ a nodwyd yr awgrym hwn gan swyddogion. Roedd Cyfarwyddwr
CGG Castell-nedd Port Talbot yn cydnabod pryderon yr aelodau a chytunodd nad
oedd yr heriau a wynebir wedi newid dros gyfnod hir. Mae'r targedau presennol
wedi'u gosod mewn partneriaeth ag asiantaethau ac ystod o swyddogion. Mae'n
bwysig dangos uchelgais a pharhau i roi gobaith i gymunedau. Bydd y model
rhesymeg yn helpu i ganolbwyntio'r amserlenni a'r targedau ac mae'n bwysig
ystyried profiad bywyd. Cyfeiriodd yr
aelodau at adborth o'r gweithdy costau byw y cyfeiriwyd ato ar dudalen 35 o'r
adroddiad a dywedasant y byddai adborth o'r ail weithdy a gynhaliwyd yn
ddiweddar wedi bod yn werthfawr. Mynegwyd pryder gan aelodau am breswylwyr sy'n
gweithio sydd uwchlaw'r trothwy ar gyfer hawlio budd-daliadau'r Adran Gwaith a
Phensiynau, nad ydynt yn ennill digon i oroesi yn yr argyfwng costau byw
presennol. Nodwyd bod y system fudd-daliadau y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod
lleol a Llywodraeth Cymru. Nid yw'r BGC yn cael ei ariannu ac mae’n derbyn
ychydig iawn o arian grant nad yw wedi’i warantu ar gyfer y dyfodol. Dywedodd
yr aelodau ei bod yn bwysig ceisio barn preswylwyr er mwyn cael profiad byw o
dlodi. Cadarnhaodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol y Gwasanaethau Strategaeth a Chorfforaethol fod
canlyniadau'r gweithdy diweddaraf yn cael eu casglu ar hyn o bryd ac y byddai'r
data'n bwydo i mewn i adroddiadau yn y dyfodol. Byddai manteision astudiaethau
achos bywyd go iawn a chynnwys unigolion â phrofiad byw yn cael eu hystyried ar
gyfer gweithdai yn y dyfodol. Cafwyd 1,600 o ymatebion i’r arolwg ‘Parhewch i
sgwrsio’ a gynhaliwyd yn ddiweddar a phrif bryder preswylwyr yw’r argyfwng
costau byw. Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol â sylwadau’r aelodau ynghylch
teuluoedd sy’n gweithio, nad oeddent yn gallu hawlio budd-daliadau ac maent yn
byw mewn tlodi, cydnabuwyd hyn yn y gweithdy ac mae angen ffocws pellach yn y
maes hwn. Amlinellodd Cyfarwyddwr CGG Castell-nedd Port Talbot yr heriau wrth bennu nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi ond nododd fod aelodau a phartneriaid y trydydd sector mewn sefyllfa dda i drosglwyddo'r wybodaeth hon oherwydd eu cysylltiadau â'u cymunedau. Rhoddwyd ystyriaeth i sefydlu Comisiwn Gwirionedd Tlodi; sefydlwyd comisiwn tebyg yn Ninas a Sir Abertawe, fodd bynnag, oherwydd costau uchel bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio mewn ardaloedd eraill. Nodwyd bod Cydlynwyr Datblygu Cymunedol a Chydlynwyr Ardaloedd Lleol yn gweithio o fewn cymunedau, ond yn unigol ni all unrhyw asiantaeth fynd i'r afael ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |