Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Blaenraglen Waith 2019/2020 PDF 60 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Ymgynghoriad ar Gyllideb ac Arbedion Drafft Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd ar gyfer 2020/21 PDF 2 MB Cofnodion: Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y cerbyd
gorfodi. Esboniwyd bod y cerbyd yn gweithredu tan 6.30pm, gyda staff yn
gweithredu ar ddwy shifft a rennir sydd wedi'u hymrwymo i gytundeb 37 awr, ac
roedd hyn yn cynnwys rhai nosweithiau Sadwrn ar gyfer ardaloedd a nodwyd megis
safleoedd tacsis. Esboniodd y swyddogion y byddent yn ceisio defnyddio gwaith
gyda'r hwyr mewn ardaloedd sydd â phroblemau y tu allan i oriau, megis
safleoedd tacsis. Aeth y swyddogion ati i esbonio bod gorchmynion traffig yn
dod i ben am 6.00pm mewn rhai lleoliadau. Gofynnodd yr aelodau am y defnydd o'r
cerbyd; tynnwyd sylw at y ffaith bod gan y cyngor un fan ac y defnyddir honno i
orfodi rhai gorchmynion megis safleoedd tacsis, gwaharddiadau llwytho,
cilfannau bysus gwasanaeth cyhoeddus a llinellau igam ogam y tu allan i
ysgolion, ac ni allant orfodi'r holl orchmynion ar hyn o bryd. Os byddai angen
swyddog symudol ar aelodau, bydd angen iddynt gysylltu â'r Adran Gwasanaethau
Parcio i drefnu hynny. Teimlai aelodau fod y cerbyd gorfodi'n
ymweld ag ysgolion ar yr amser anghywir, esboniwyd y byddent yn osgoi ysgolion
ar hyn o bryd nes y bydd gorchmynion traffig newydd ar waith, yna caiff y
gorchmynion hyn eu gorfodi gan y fan camera. Nodwyd nad oes llawer o hysbysiadau o
dâl cosb yn cael eu rhoi i rieni ar hyn o bryd, oherwydd pan fyddant yn gweld y
swyddog gorfodi sifil neu'r heddlu byddent yn symud ymlaen. Pe bai cerbyd
gorfodi'n gyrru heibio ysgol ac roedd rheini wedi parcio'n groes i'r
gorchmynion traffig ni fyddai unrhyw amser iddynt symud. Nodwyd bod incwm wedi'i ailfuddsoddi yn
y gwasanaeth, er blaenoriaeth y cerbyd gorfodi oedd diogelwch, nid incwm. Esboniodd swyddogion bod ffyrdd y
gallai'r cyngor hyrwyddo'r cerbyd gorfodi, trwy gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch
y defnydd o'r cerbyd. Nodwyd bod nifer y tocynnau parcio a
roddwyd wedi cynyddu eleni, ac y bu llai o apeliadau. Roedd oddeutu 2,300 o
docynnau wedi'u rhoi hyd yn hyn gan y cerbyd gorfodi, roedd hwn yn cael effaith
gadarnhaol. Esboniodd swyddogion fod rhif ffôn
cyffredinol ar gyfer y Gwasanaethau Parcio lle gallai aelodau ffonio'r is-adran
a gallai Swyddogion Parcio drefnu i'r cerbyd gorfodi ymweld ag ardal. Atgoffwyd y Cynghorwyr
y byddai eu sylwadau yn sgil
y cyfarfod hwn yn rhan o’r
ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer y Gyllideb
2020/21. Gofynnwyd iddynt roi gwybod i swyddogion
os oedd ganddynt
unrhyw gynigion eraill nad
oeddent wedi’u cynnwys yn yr
adroddiad atodedig fel bod modd eu
hystyried Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r
adroddiad. |
|
Adroddiad diweddaru a monitro ar dipio anghyfreithlon PDF 76 KB Cofnodion: Esboniodd swyddogion y bu ychydig o gynnydd o ran
tipio anghyfreithlon, sydd yn ôl pob tebyg o ganlyniad i gyflwyno polisi dim
gwastraff ar yr ochr newydd, a bod yr wybodaeth hon yn cael ei dadansoddi.
Tynnwyd sylw at y ffaith bod camau gorfodi'n parhau i gynyddu a bod y cyngor yn
arwain y ffordd o ran gorfodi yng Nghymru. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch tipio anghyfreithlon
mewn lleoliadau ar draws y fwrdeistref sirol. Gofynnodd aelodau a oedd hyn o
ganlyniad i amserau agor y ganolfan ailgylchu yng Nghwmtwrch Isaf. Esboniwyd
bod y ganolfan ar agor pum niwrnod yr wythnos, a bod trefniadau ar y cyd â
Phowys wedi'u rhoi ar waith, ac felly byddai unrhyw newidiadau'n golygu newid
i'r bartneriaeth â Phowys, a byddai angen rhagor o staff er mwyn ehangu'r
amserau gan arwain at gost ychwanegol. Esboniodd swyddogion fod cost tipio anghyfreithlon
yn cael ei chyfrifo gan ddefnyddio fformiwla a ddarperir gan Lywodraeth Cymru,
ac roedd pob cyngor wedi defnyddio'r fformiwla a oedd wedi darparu cymhariaeth
o gostau tipio anghyfreithlon ar draws y cynghorau yng Nghymru. Dywedodd
aelodau yr hoffent weld yr union gostau, nid data'r fformiwla'n unig. Cytunodd
y swyddogion i gysylltu â Rheolwr y Gwasanaeth i drafod hyn, ond gan fod nifer
mawr o achosion o dipio anghyfreithlon yn cael eu hadrodd yn ogystal â gwaith
arall, byddai'n annhebygol y gellir rhoi'r union gostau. Mewn perthynas â grwpiau gwirfoddol yn casglu
sbwriel, esboniodd y swyddogion y cydlynir y gwirfoddolwyr sy'n casglu'r
sbwriel gan Gydlynydd Cadwch Gymru'n Daclus. Gosodir y sbwriel a gasglwyd i
mewn i sachau oren sy'n cael eu gadael mewn mannau casglu penodol i'r cyngor eu
casglu. Diolchodd yr aelodau i'r Tîm Gorfodi am eu gwaith
da. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad diweddaru a monitro ar Reoli Plau PDF 62 KB Cofnodion: Rhoddodd y swyddogion drosolwg ac esboniwyd nad
oedd y maes gwasanaeth hwn yn statudol, ac y bu'n destun strategaeth arbedion
gan gynnwys cynyddu'r gost, er bod y prisiau'n parhau i fod yn gystadleuol i'r
sector preifat. Nodwyd, er bod y pris wedi cynyddu, fod y cyngor yn disgwyl
adennill costau'n unig, ac ni fyddai'r pris yn cynyddu'r flwyddyn nesaf.
Esboniodd swyddogion pan fydd y cyngor yn codi tâl, byddai'r galw am y
gwasanaeth yn lleihau. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y cyngor wedi lleihau'r
adnoddau yn unol â'r galw am y gwasanaeth a chredir ei fod bellach yn wasanaeth
cynaliadwy. Esboniodd swyddogion fod Cynllun Busnes ar waith
sydd â dangosyddion Perfformiad Chwarterol, a byddai hyn yn golygu y gellir
cymharu'r ffigurau blynyddol. Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd Derbyniodd aelodau'r diweddaraf am ddatblygiad
parhaus y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (CRhAP) Gofynnodd yr aelodau am nifer y
cwlferi yn y fwrdeistref sirol, ac esboniwyd bod y 90 o gwlferi a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd wedi'u rhestru yn y Strategaeth Llifogydd a'u bod yn
flaenoriaeth uchel. Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd gennym nifer y cwlferi ar
dir preifat. Esboniodd y swyddogion hefyd fod cyfanswm o dros 1200 o gwlferi
dan berchnogaeth yr awdurdod. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch safleoedd a llochesi
bysus; esboniwyd nad oes unrhyw ofyniad statudol i ddarparu llochesi bysus, er bod
gan y cyngor gyllideb i'w cynnal a'u cadw a'u newid, ac roedd cyllideb ar gael
hefyd ar gyfer safleoedd bysus newydd. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. Gorchmynion Traffig Arfaethedig: Strydoedd Amrywiol
Castell-nedd Port Talbot - Ysgolion Gofynnodd yr aelodau a fyddai angen arddangos arwyddion ar y safle ar gyfer
y cyfnod hysbysebu. Esboniodd swyddogion fod y gofynion o dan Reoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau
Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 yn nodi bod angen i'r awdurdodau
traffig gyhoeddi o leiaf un Hysbysiad o Fwriad mewn papur newydd a ddosberthir
yn yr ardal lle mae'r ffordd cyn gwneud gorchymyn, sy'n amlinellu ei gynnig a
rhaid iddo hefyd ymgynghori ag ymgyngoreion statudol penodol (e.e. gwasanaethau
brys). Bydd angen i'r awdurdodau traffig hefyd sicrhau bod yr hysbysiad uchod yn
cael ei gadw yn eu Canolfannau Dinesig i'r cyhoedd ei archwilio, yn ogystal â
chynllun, copi o'r Gorchymyn ddrafft a chopïau o unrhyw Orchmynion Traffig sy'n
cael eu diddymu. Mae rheoliad 7 y rheoliadau'n nodi bod angen i unrhyw awdurdod draffig: "cyn gwneud gorchymyn, ... [c] gymryd unrhyw gamau eraill y mae'n eu
hystyried yn briodol ar gyfer ystyried bod cyhoeddusrwydd digonol am y
gorchymyn ar gael i bobl y mae ei ddarpariaethau'n debygol o effeithio arnynt
ac, heb ragfarn i gyffredinolrwydd yr is-baragraff, gall camau eraill o'r fath
gynnwys -
i.
... cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette,
ii.
arddangos hysbysiadau ar ffyrdd neu mewn unrhyw leoedd y
mae'r gorchymyn yn effeithio arnynt, iii.
dosbarthu hysbysiadau neu lythyrau i fangre, neu fangre a
anheddir gan bobl, sy'n ymddangos i'r awdurdod ei fod y bydd unrhyw
ddarpariaeth yn y gorchymyn hwnnw yn debygol o effeithio arnynt." Nodwyd nad oedd gofyniad penodol i osod hysbysiadau ar y ffordd neu i
sicrhau bod yr hysbysiadau hyn a osodwyd ar y ffordd yn cael eu cynnal drwy
gydol y cyfnod gwrthwynebu statudol. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. |