Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 6ed Rhagfyr, 2019 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Hydref, 2019.

 

2.

Blaenraglen Waith 2019-20 pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

3.

Cyflwyniad ar Ddiweddariad Gwastraff 2019

Cofnodion:

Derbyniodd aelodau gyflwyniad ar Reoli Gwastraff yng Nghastell-nedd Port Talbot a diweddariad amdano.

 

Mewn ymateb i ymholiadau'r aelodau, dywedodd swyddogion fod gwastraff bwyd yn cael ei osod ym miniau olwynion rhai preswylwyr o hyd. Esboniwyd bod angen i breswylwyr gynyddu faint o wastraff bwyd a ailgylchir yn y cynhwysydd cywir.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â monitro cynllun eithrio o'r cyfyngiad ar wastraff ar yr ochr ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu. Tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer y preswylwyr a oedd yn cyflwyno cais am eithriadau wedi cynyddu pan ddaeth y casgliadau gwastraff ar yr ochr i ben. Esboniodd swyddogion fod gan y Swyddogion Gwastraff Ochr gasgliadau unigol. Mae swyddogion yn monitro ac yn archwilio casgliadau gwastraff ac yn cysylltu â phreswylwyr sy'n cyflwyno gwastraff ochr anghywir i'w helpu i leihau swm y gwastraff a gyflwynir.

 

Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau fod gan Gastell-nedd Port Talbot un o'r timau gorfodi mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac y byddai'n parhau i fonitro lefelau tipio anghyfreithlon ledled y fwrdeistref sirol. Nodwyd y byddai adroddiad diweddaru am dipio anghyfreithlon yn cael ei ailgyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ar 17 Ionawr 2020.

 

Nodwyd pan gaiff y Strategaeth Wastraff Genedlaethol newydd ei chyhoeddi, byddai Llywodraeth Cymru'n ystyried gwastraff trydanol (deunyddiau prin) ar gyfer casgliad ymyl y stryd posib yn y dyfodol.

 

Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi pennu targed i Gymru ailgylchu 70% o'i gwastraff erbyn 2020, ac i fod yn ddiwastraff erbyn 2050.

 

4.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 - Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2019 - 30 Medi 2019)

 

Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o'r adroddiad ar Ddangosyddion  Perfformiad Chwarter 2.

 

Canmolodd yr aelodau'r gwaith da a wnaed gan y swyddogion.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad.

 

 

Cynnig i adnewyddu prydles cyfarpar darlledu radio ac antena i'r cyngor sydd wedi'u lleoli ar do'r tŵr dŵr yng Nghronfa Ddŵr y Cocyd, Abertawe

 

Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r lleoliad a ffefrir. Esboniodd swyddogion fod posibilrwydd y bydd tri safle ar gael, felly roedd dau leoliad dichonadwy arall ar gael.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

5.

Eitemau brys

(Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, codwyd y mater canlynol fel eitem frys i'w thrafod yn ystod cyfarfod heddiw yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

6.

Access to Meeting

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:   Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

7.

Craffu Cyn Penderfynu

Cofnodion:

Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

 

Cwlfert Ynysydarren - Caffael Tir/Gorfodi Draenio Tir

 

Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.