Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 18fed Mawrth, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Via Teams

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Hysbyswyd y Pwyllgor o gamgymeriad yn yr adroddiad canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet:

 

·        Eitem 13 ar yr Agenda - Rhaglen Caffael Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau Trwm 2022/23

 

Nodwyd y dylai pwynt 2 o 'ddiben yr adroddiad' ddarllen 'cymeradwyo rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth Gwasanaeth newid cerbydau yn y dyfodol, o 2023/2024 os bydd unrhyw grantiau ar gael i helpu i brynu cerbydau'

Yn dilyn y diweddariad, nododd yr aelodau'r camgymeriad.

 

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 373 KB

·        17 Rhagfyr 2021

·        28 Ionawr 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 17 Rhagfyr 2021 a 28 Ionawr 2022 fel cofnod cywir.

 

 

3.

Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Polisi Bin Graean pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd canfyddiadau diweddaraf y Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Polisi Bin Graean i'r pwyllgor; roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r gwaith a gwblhawyd gan y grŵp, gan gynnwys cefndir pam y sefydlwyd y grŵp, manylion pob cyfarfod a gynhaliwyd, a'r ymarfer arolwg y gwahoddwyd pob Aelod Etholedig i gymryd rhan ynddo.

Esboniwyd bod yr ymarfer arolwg yn rhoi cyfle i aelodau gyflwyno ceisiadau am finiau graean ychwanegol yn eu ward ac i'r biniau graean presennol gael eu symud neu eu gwaredu; trafodwyd canfyddiadau'r ymarfer hwn yng nghyfarfod diwethaf y grŵp, ac i gloi'r cyfarfod, rhoddodd y swyddogion dri opsiwn i'r aelodau.

Cadarnhaodd Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen fod pleidlais wedi'i chynnal yn ystod cyfarfod diwethaf y grŵp i benderfynu ar yr opsiwn a ffefrir i'w argymell i Fwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet; roedd y mwyafrif o blaid opsiwn 3 sef argymell y byddai'r rhestr gyfredol o anghenion blaenoriaethol a nodwyd, fel y nodwyd gan aelodau yn Atodiad 2 yr adroddiad, yn cael ei bodloni a’r cap yn cael ei gynyddu'n gyfatebol, ond yna byddai lefel y biniau graean yn cael ei chapio eto.

Yn dilyn gwaith craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi cyflwyno opsiwn 3 i Fwrdd y Cabinet i'w gymeradwyo'n ffurfiol.

 

4.

Cynnal llwybrau diogel i ysgolion pdf eicon PDF 294 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd gwybodaeth i'r aelodau am gynnal a chadw llwybrau diogel i ysgolion, gan gynnwys pontydd troed ac isffyrdd.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn tynnu sylw at y ffaith bod pontydd ac isffyrdd, a oedd yn rhan o'r llwybrau diogel i ysgolion, yn cael eu harolygu bob dwy flynedd am ddiffygion adeileddol. Gofynnodd yr aelodau a oedd cyfle i wneud yr arolygiadau'n fwy aml oherwydd pwysigrwydd cadw'r llwybrau'n ddiogel i'w defnyddio. Nodwyd bod y drefn arolygu ffurfiol, o ran yr asedau adeileddol, yn cydymffurfio â'r gofynion statudol; mae'r gofynion yn cynnwys arolygiad cyffredinol dwy flynedd, ac arolygiad egwyddor dros gyfnod hwy. Soniodd swyddogion y gall y Goruchwylwyr Parth hefyd nodi unrhyw beryglon o ddydd i ddydd. Ychwanegwyd bod gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Swyddog Teithio gan Ddysgwyr sy'n cynnal arolygiad llwybr yn flynyddol, yn benodol ar y llwybrau diogel i ysgolion, i nodi unrhyw feysydd sy'n peri pryder; byddai'r swyddog yn adrodd am unrhyw bryderon yn uniongyrchol i'r system. Dywedwyd y gallai defnyddwyr, rhieni neu Aelodau Etholedig roi gwybod i'r tîm am unrhyw bryderon neu beryglon, a byddent yn ymateb iddynt yn briodol.

Gofynnwyd pam nad oedd de Bryncoch wedi'i gynnwys ar Fap Trosolwg Llwybrau Diogel i'r Ysgol CNPT, a nodir yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion fod y llwybr yr oedd yr aelodau'n cyfeirio ato yn llwybr newydd a oedd yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd; unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, caiff ei arolygu un tro olaf gan y Swyddog Teithio gan Ddysgwyr, ac yna ei ychwanegu at y rhestr o lwybrau diogel i ysgolion. Soniwyd y bydd y llwybr wedi'i ddiweddaru hefyd yn cael ei rannu â'r coleg a'r ysgolion lleol er mwyn iddynt ddiweddaru eu cynlluniau.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

 

5.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Monitro Perfformiad Chwarter 3 2021/22

Rhoddodd swyddogion yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ddata rheoli perfformiad chwarter 3 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Rhagfyr 2021.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

Rhaglen Gyfalaf Traffig a Chynlluniau Teithio Llesol 2022-2023

Darparwyd adroddiad i'r aelodau ynghylch yr hysbyseb arfaethedig o'r gorchmynion rheoleiddio traffig sy'n gysylltiedig â Rhaglen Gyfalaf Traffig y cyngor a'r Rhaglen Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â'r crynodeb o'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf Traffig 2022-2023; yn arbennig yr A4063 Heol Maesteg, Croeserw – gostyngiad yn y terfyn cyflymder o 60 mya i 40/30 mya (Ward Cymer).

Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet.

Gorchymyn/gorchmynion Rheoleiddio Traffig - Goytre, Port Talbot

Rhoddwyd adroddiad i'r pwyllgor i ystyried y sylwadau a'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn hysbysebu Gorchymyn (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) 2022 ar (Heol Goytre, Cilgant Goytre, Stryd Emroch, lôn y tu ôl i Stryd Emroch a Stryd y Dwyrain, Goytre).

Esboniodd y Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth fod y Tîm Diogelwch Cymunedol wedi tynnu sylw at y cynllun i ddechrau, yn dilyn cyfarfod gyda thrigolion lle codwyd pryderon mewn cysylltiad â'r llwybr hwn. Ar ôl derbyn yr adborth gan y Tîm Diogelwch Cymunedol, nodwyd bod y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi cynnal arolygiadau o'r llwybr hwn; roedd y llwybr yn rhan o'r llwybrau diogel i ysgolion, felly roedd yn bwysig cynnal yr asesiad ac ymateb i aelodau lleol y gymuned.

Yn dilyn datblygiad y cynllun, tynnwyd sylw at y ffaith bod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig wedi'i gyflwyno i Fwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet er mwyn gofyn am ganiatâd i’w hysbysebu; rhoddwyd caniatâd, a dilynwyd y broses ffurfiol fel arfer.

Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad tair wythnos, derbyniodd swyddogion wrthwynebiadau i'r cynllun a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau, dywedwyd bod y Tîm Technegol a'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi adolygu'r llwybr ymhellach, a daethpwyd i'r casgliad y gellid diwygio'r cynllun drwy gwtogi'r Gorchymyn tua 15 metr; penderfynodd swyddogion mai dyma oedd y cynnig lleiaf a fyddai'n ddiogel i'r gymuned ei ddefnyddio, wrth symud ymlaen.

Tynnwyd sylw at y ffaith yr ymgynghorwyd ag Aelodau Lleol ar y cynllun hwn, a'u bod yn cefnogi'r gwrthwynebiadau'n rhannol; fodd bynnag, hoffent i'r gorchmynion rheoleiddio traffig gael eu lleihau ymhellach ar gornel Rhif 1 Stryd y Dwyrain a Heol Goytre. Dywedodd swyddogion fod y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi adolygu hyn ymhellach, a daethpwyd i'r casgliad na fyddai lleihau'r gorchymyn rheoleiddio traffig ar y gyffordd yn amddiffyn y gornel nac yn ei gwneud yn ddiogel i'r gymuned. Felly, roedd swyddogion yn argymell y dylid gweithredu'r cynllun diwygiedig, fel y nodir yn Atodiad B, ar y safle er budd diogelwch ar y ffyrdd.

Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.