Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)
Cofnodion:
Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:
Monitro Perfformiad Chwarter 3
2021/22
Rhoddodd swyddogion yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ddata rheoli perfformiad chwarter 3 ar
gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Rhagfyr 2021.
Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad.
Rhaglen Gyfalaf Traffig a Chynlluniau
Teithio Llesol 2022-2023
Darparwyd adroddiad i'r
aelodau ynghylch yr hysbyseb arfaethedig o'r gorchmynion rheoleiddio traffig
sy'n gysylltiedig â Rhaglen Gyfalaf Traffig y cyngor a'r Rhaglen Teithio Llesol
a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r crynodeb o'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf
Traffig 2022-2023; yn arbennig yr A4063 Heol Maesteg, Croeserw – gostyngiad yn
y terfyn cyflymder o 60 mya i 40/30 mya (Ward Cymer).
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet.
Gorchymyn/gorchmynion
Rheoleiddio Traffig - Goytre, Port Talbot
Rhoddwyd adroddiad i'r
pwyllgor i ystyried y sylwadau a'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn
hysbysebu Gorchymyn (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) 2022 ar
(Heol Goytre, Cilgant Goytre, Stryd Emroch, lôn y tu ôl i Stryd Emroch a Stryd
y Dwyrain, Goytre).
Esboniodd y Pennaeth
Peirianneg a Thrafnidiaeth fod y Tîm Diogelwch Cymunedol wedi tynnu sylw at y
cynllun i ddechrau, yn dilyn cyfarfod gyda thrigolion lle codwyd pryderon mewn
cysylltiad â'r llwybr hwn. Ar ôl derbyn yr adborth gan y Tîm Diogelwch
Cymunedol, nodwyd bod y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi cynnal arolygiadau o'r
llwybr hwn; roedd y llwybr yn rhan o'r llwybrau diogel i ysgolion, felly roedd
yn bwysig cynnal yr asesiad ac ymateb i aelodau lleol y gymuned.
Yn dilyn datblygiad y cynllun,
tynnwyd sylw at y ffaith bod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig wedi'i gyflwyno i
Fwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet er mwyn gofyn am ganiatâd i’w hysbysebu;
rhoddwyd caniatâd, a dilynwyd y broses ffurfiol fel arfer.
Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad
tair wythnos, derbyniodd swyddogion wrthwynebiadau i'r cynllun a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau, dywedwyd bod y Tîm
Technegol a'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi adolygu'r llwybr ymhellach, a
daethpwyd i'r casgliad y gellid diwygio'r cynllun drwy gwtogi'r Gorchymyn tua
15 metr; penderfynodd swyddogion mai dyma oedd y cynnig lleiaf a fyddai'n
ddiogel i'r gymuned ei ddefnyddio, wrth symud ymlaen.
Tynnwyd sylw at y ffaith yr
ymgynghorwyd ag Aelodau Lleol ar y cynllun hwn, a'u bod yn cefnogi'r
gwrthwynebiadau'n rhannol; fodd bynnag, hoffent i'r gorchmynion rheoleiddio
traffig gael eu lleihau ymhellach ar gornel Rhif 1 Stryd y Dwyrain a Heol
Goytre. Dywedodd swyddogion fod y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi adolygu hyn
ymhellach, a daethpwyd i'r casgliad na fyddai lleihau'r gorchymyn rheoleiddio
traffig ar y gyffordd yn amddiffyn y gornel nac yn ei gwneud yn ddiogel i'r
gymuned. Felly, roedd swyddogion yn argymell y dylid gweithredu'r cynllun
diwygiedig, fel y nodir yn Atodiad B, ar y safle er budd diogelwch ar y ffyrdd.
Yn dilyn y broses graffu,
roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet.