Lleoliad: Via Teams
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor o gamgymeriad yn yr adroddiad
canlynol ar Agenda Bwrdd y Cabinet: ·
Eitem 13 ar yr
Agenda - Rhaglen Caffael Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau Trwm 2022/23 Nodwyd
y dylai pwynt 2 o 'ddiben yr adroddiad' ddarllen 'cymeradwyo rhoi awdurdod
dirprwyedig i Bennaeth Gwasanaeth newid cerbydau yn y dyfodol, o 2023/2024 os
bydd unrhyw grantiau ar gael i helpu i brynu cerbydau' Yn dilyn y diweddariad, nododd yr aelodau'r
camgymeriad. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 373 KB ·
17 Rhagfyr 2021 ·
28 Ionawr 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd
ar 17 Rhagfyr 2021 a 28 Ionawr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Polisi Bin Graean PDF 317 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd canfyddiadau diweddaraf
y Grŵp Tasg a Gorffen Adolygu Polisi Bin Graean i'r pwyllgor; roedd yr
adroddiad yn cyflwyno'r gwaith a
gwblhawyd gan y grŵp, gan gynnwys cefndir pam y sefydlwyd y grŵp,
manylion pob cyfarfod a gynhaliwyd, a'r ymarfer arolwg y gwahoddwyd pob Aelod
Etholedig i gymryd rhan ynddo. Esboniwyd bod yr ymarfer
arolwg yn rhoi cyfle i aelodau gyflwyno ceisiadau am finiau graean ychwanegol
yn eu ward ac i'r biniau graean presennol gael eu symud neu eu gwaredu;
trafodwyd canfyddiadau'r ymarfer hwn yng nghyfarfod diwethaf y grŵp, ac i
gloi'r cyfarfod, rhoddodd y swyddogion dri opsiwn i'r aelodau. Cadarnhaodd Cadeirydd y
Grŵp Tasg a Gorffen fod pleidlais wedi'i chynnal yn ystod cyfarfod
diwethaf y grŵp i benderfynu ar yr opsiwn a ffefrir i'w argymell i Fwrdd Strydlun
a Pheirianneg y Cabinet; roedd y mwyafrif o blaid opsiwn 3 sef argymell y
byddai'r rhestr gyfredol o anghenion blaenoriaethol a nodwyd, fel y nodwyd gan
aelodau yn Atodiad 2 yr adroddiad, yn cael ei bodloni a’r cap yn cael ei
gynyddu'n gyfatebol, ond yna byddai lefel y biniau graean yn cael ei chapio
eto. Yn dilyn gwaith
craffu, roedd y pwyllgor yn cefnogi cyflwyno opsiwn 3 i Fwrdd y Cabinet i'w
gymeradwyo'n ffurfiol. |
|
Cynnal llwybrau diogel i ysgolion PDF 294 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynwyd gwybodaeth i'r
aelodau am gynnal a chadw llwybrau diogel i ysgolion, gan gynnwys pontydd troed
ac isffyrdd. Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn tynnu sylw at y ffaith bod pontydd ac isffyrdd, a oedd yn rhan
o'r llwybrau diogel i ysgolion, yn cael eu harolygu bob dwy flynedd am
ddiffygion adeileddol. Gofynnodd yr aelodau a oedd cyfle i wneud yr
arolygiadau'n fwy aml oherwydd pwysigrwydd cadw'r llwybrau'n ddiogel i'w
defnyddio. Nodwyd bod y drefn arolygu ffurfiol, o ran yr asedau adeileddol, yn
cydymffurfio â'r gofynion statudol; mae'r gofynion yn cynnwys arolygiad cyffredinol
dwy flynedd, ac arolygiad egwyddor dros gyfnod hwy. Soniodd swyddogion y gall y
Goruchwylwyr Parth hefyd nodi unrhyw beryglon o ddydd i ddydd. Ychwanegwyd bod
gan y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd Swyddog Teithio gan Ddysgwyr sy'n cynnal
arolygiad llwybr yn flynyddol, yn benodol ar y llwybrau diogel i ysgolion, i
nodi unrhyw feysydd sy'n peri pryder; byddai'r swyddog yn adrodd am unrhyw
bryderon yn uniongyrchol i'r system. Dywedwyd y gallai defnyddwyr, rhieni neu
Aelodau Etholedig roi gwybod i'r tîm am unrhyw bryderon neu beryglon, a byddent
yn ymateb iddynt yn briodol. Gofynnwyd pam nad oedd de
Bryncoch wedi'i gynnwys ar Fap Trosolwg Llwybrau Diogel i'r Ysgol CNPT, a nodir
yn Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. Esboniodd swyddogion fod y llwybr yr
oedd yr aelodau'n cyfeirio ato yn llwybr newydd a oedd yn cael ei gwblhau ar
hyn o bryd; unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau, caiff ei arolygu un tro
olaf gan y Swyddog Teithio gan Ddysgwyr, ac yna ei ychwanegu at y rhestr o
lwybrau diogel i ysgolion. Soniwyd y bydd y llwybr wedi'i ddiweddaru hefyd yn
cael ei rannu â'r coleg a'r ysgolion lleol er mwyn iddynt ddiweddaru eu
cynlluniau. Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr
eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Monitro Perfformiad Chwarter 3
2021/22 Rhoddodd swyddogion yr
wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am ddata rheoli perfformiad chwarter 3 ar
gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Rhagfyr 2021. Yn dilyn craffu, nodwyd
cynnwys yr adroddiad. Rhaglen Gyfalaf Traffig a Chynlluniau
Teithio Llesol 2022-2023 Darparwyd adroddiad i'r
aelodau ynghylch yr hysbyseb arfaethedig o'r gorchmynion rheoleiddio traffig
sy'n gysylltiedig â Rhaglen Gyfalaf Traffig y cyngor a'r Rhaglen Teithio Llesol
a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Cynhaliwyd trafodaeth mewn
perthynas â'r crynodeb o'r cynlluniau arfaethedig ar gyfer y Rhaglen Gyfalaf
Traffig 2022-2023; yn arbennig yr A4063 Heol Maesteg, Croeserw – gostyngiad yn
y terfyn cyflymder o 60 mya i 40/30 mya (Ward Cymer). Yn dilyn y broses graffu,
roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd y Cabinet. Gorchymyn/gorchmynion
Rheoleiddio Traffig - Goytre, Port Talbot Rhoddwyd adroddiad i'r
pwyllgor i ystyried y sylwadau a'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn
hysbysebu Gorchymyn (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) 2022 ar
(Heol Goytre, Cilgant Goytre, Stryd Emroch, lôn y tu ôl i Stryd Emroch a Stryd
y Dwyrain, Goytre). Esboniodd y Pennaeth
Peirianneg a Thrafnidiaeth fod y Tîm Diogelwch Cymunedol wedi tynnu sylw at y
cynllun i ddechrau, yn dilyn cyfarfod gyda thrigolion lle codwyd pryderon mewn
cysylltiad â'r llwybr hwn. Ar ôl derbyn yr adborth gan y Tîm Diogelwch
Cymunedol, nodwyd bod y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi cynnal arolygiadau o'r
llwybr hwn; roedd y llwybr yn rhan o'r llwybrau diogel i ysgolion, felly roedd
yn bwysig cynnal yr asesiad ac ymateb i aelodau lleol y gymuned. Yn dilyn datblygiad y cynllun,
tynnwyd sylw at y ffaith bod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig wedi'i gyflwyno i
Fwrdd Strydlun a Pheirianneg y Cabinet er mwyn gofyn am ganiatâd i’w hysbysebu;
rhoddwyd caniatâd, a dilynwyd y broses ffurfiol fel arfer. Ar ôl cynnal yr ymgynghoriad
tair wythnos, derbyniodd swyddogion wrthwynebiadau i'r cynllun a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd. Mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau, dywedwyd bod y Tîm
Technegol a'r Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi adolygu'r llwybr ymhellach, a
daethpwyd i'r casgliad y gellid diwygio'r cynllun drwy gwtogi'r Gorchymyn tua
15 metr; penderfynodd swyddogion mai dyma oedd y cynnig lleiaf a fyddai'n
ddiogel i'r gymuned ei ddefnyddio, wrth symud ymlaen. Tynnwyd sylw at y ffaith yr
ymgynghorwyd ag Aelodau Lleol ar y cynllun hwn, a'u bod yn cefnogi'r
gwrthwynebiadau'n rhannol; fodd bynnag, hoffent i'r gorchmynion rheoleiddio
traffig gael eu lleihau ymhellach ar gornel Rhif 1 Stryd y Dwyrain a Heol
Goytre. Dywedodd swyddogion fod y Tîm Diogelwch ar y Ffyrdd wedi adolygu hyn
ymhellach, a daethpwyd i'r casgliad na fyddai lleihau'r gorchymyn rheoleiddio
traffig ar y gyffordd yn amddiffyn y gornel nac yn ei gwneud yn ddiogel i'r
gymuned. Felly, roedd swyddogion yn argymell y dylid gweithredu'r cynllun
diwygiedig, fel y nodir yn Atodiad B, ar y safle er budd diogelwch ar y ffyrdd. Yn dilyn y broses graffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol i'r argymhelliad fynd at Fwrdd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |