Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 156 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol fel
y nodir isod: ·
24 Medi 2021 ·
5 Tachwedd 2021 |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2021/2022 - Perfformiad Chwarter 2 (1
Ebrill 2021 - 30 Medi 2021) Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad ar ddata rheoli perfformiad chwarter 2
ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2021 i 30 Medi 2021 ar gyfer y Strydlun a
Pheirianneg, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Holodd yr Aelodau ynghylch tynhau'r cyfyngiadau ynghylch gwastraff
rhyngwladol a holwyd a fyddai hyn yn cael effaith bosib ar y cyngor. Esboniodd
swyddogion ein bod ar hyn o bryd yn gwasgaru‘n holl wastraff o fewn y DU ac
felly ni fyddem yn mynd i unrhyw gostau rhyngwladol. Cafwyd trafodaethau ynghylch elfen Canmoliaeth a Chwynion yr adroddiad.
Roedd yr aelodau’n gyntaf yn falch o weld cynnydd yn y ganmoliaeth a
dderbyniwyd yn 21/22. Fodd bynnag, cwestiynodd yr aelodau anghywirdeb yn yr
adroddiad ynghylch y ffigurau canmoliaeth ar gyfer 2020/21. Mynegodd yr Aelodau
eu siom hefyd wrth gofnodi'r ffigurau cwynion. Eglurodd y swyddogion y byddai'r
aelod hwnnw'n cael dadansoddiad o'r holl ffigurau yn yr adroddiad sicrhau
ansawdd a fyddai'n cael ei gyflwyno i gyfarfod y Pwyllgor Strydlun a
Pheirianneg yn y dyfodol. Amlygodd yr aelodau bwysigrwydd ailgylchu plastigion ac a oedd unrhyw
bosibiliadau o addysgu ymhellach ar gynyddu ailgylchu. Tynnodd swyddogion
sylw'r aelodau at y dadansoddiadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd o wastraff
cartrefi a fyddai’n helpu i ddarparu data ar y mathau o wastraff sy’n cael/nad
ydynt yn cael eu hailgylchu. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith bod Castell-nedd
Port Talbot wedi dod yn 7fed yng Nghymru allan o 22 awdurdod ym mherfformiad y
llynedd ar ailgylchu. Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad. |
|
Cofnodion: Nodi'r Blaenraglen Waith |