Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 2ail Gorffennaf, 2021 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 78 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2021.

 

2.

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Craffodd y Pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Cyllid Cyfalaf y Strydlun 2021/22

Cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor a oedd yn nodi'r dyraniad ariannol ar gyfer 'Gwelliannau i Strydlun yr Amgylchedd' a gynhwyswyd yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22.

Gofynnodd yr Aelodau a oedd lleoliadau eisoes wedi'u nodi ar gyfer adnewyddu arwyneb lliw ac arwyneb ffrithiant uchel, arwyddion negeseuon cyflymder a llochesi bysus newydd.

Cadarnhawyd bod gan Rheolwr y Rhwydwaith a Rhaglenni ar gyfer y gwasanaeth restr o leoliadau wedi'i blaenoriaethu ar gyfer adnewyddu arwynebau lliw ac arwynebau ffrithiant uchel; nid oedd unrhyw leoliadau newydd wedi'u cynnwys ar y rhestr gan fod yr arian ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynyddu'r buddsoddiad mewn cynnal y rheini a oedd eisoes ar waith fel rhan o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y cyngor wedi llwyddo i gael arian grant diogelwch ar y ffyrdd dros y blynyddoedd; rhoddwyd y rhain ar waith o ymateb i bryderon goryrru'r Aelodau ac ymchwilio i'r cofnodion damweiniau. Soniwyd bod llawer o arwynebau lliwgar wedi'u darparu megis arwyneb coch a gwyrdd a hefyd arwyneb gafael ffrithiant uchel; nid oedd y gyllideb wedi cynyddu dros amser, felly roedd yn ddefnyddiol iawn cael arian ychwanegol i ddal i fyny â'r gwaith cynnal a chadw.

O ran yr arwyddion negeseuon cyflymder, tynnwyd sylw at y ffaith bod llawer o'r arwyddion wedi'u gosod fel rhan o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd; byddai'r ffocws cychwynnol ar amnewid yr arwyddion a oedd o gwmpas perimedr ysgolion, gan sicrhau eu bod i gyd yn addas i'r diben. Hysbyswyd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ar gam cyntaf symud i derfyn cyflymder diofyn o 20mya ledled Cymru; felly nid oedd Swyddogion yn mynd i fod yn blaenoriaethu amnewid arwyddion rhybudd 30mya mewn ardaloedd a allai newid i 20mya yn y dyfodol agos.

Cafwyd trafodaeth ynglŷn ag adnewyddu llochesi bysus. Esboniodd swyddogion fod 528 o lochesi bysus yn y Fwrdeistref Sirol, a thua 128 ohonynt yn llochesi arddull hysbysebu a oedd yn cael eu cynnal gan yr hysbysebwr yn gyfnewid am hawliau hysbysebu; roedd hyn yn gadael tua 400 o lochesi bysus i'r cyngor eu cynnal. Nodwyd bod £40,000 yn y gyllideb ar gyfer cynnal a chadw beunyddiol; byddai'r arian ychwanegol a ddyrannwyd yn helpu i ddarparu tua 15 o lochesi bysus newydd, gan mai cost gyfartalog lloches bws newydd oedd tua £3,500 - £5,000. 

Gofynnwyd a fyddai angen i Aelodau wneud cais os oedd angen llochesi bysus newydd arnynt yn eu ward. Esboniodd swyddogion fod llawer o lochesi bysus o ansawdd gwael yn y Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd yr oedd angen eu hamnewid; dyma fyddai'r flaenoriaeth yn y lle cyntaf. Soniwyd bod hyn yn amlygu'r angen am y cyfalaf ychwanegol i gynyddu'r buddsoddiad mewn cynnal a chadw'r llochesi bysus presennol.

Cadarnhawyd y byddai'r Swyddogion perthnasol yn rhoi gwybod i'r Aelodau os oedd angen gwneud unrhyw waith, a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn eu ward.

Diolchodd y Pwyllgor  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 88 KB

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu'r Strydlun a Pheirianneg ar gyfer 2021/22.

 

Cytunwyd y dylid trefnu Gweithdy Blaenraglen Waith Craffu'r Strydlun a Pheirianneg ar gyfer mis Hydref 2021.

 

4.

Mynediad i gyfarfodydd

Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD:

Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwaherddir y cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o wybodaeth eithriedig, fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A y Ddeddf uchod.

 

 

 

5.

Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu

Dewis eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu).

Cofnodion:

Dewisodd y pwyllgor graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet:

Gwelliannau i Gyffordd Castell-nedd

Cafodd yr Aelodau wybodaeth am welliannau i gyffordd Castell-nedd fel y nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd.

 Yn dilyn craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol o'r argymhelliad i fynd i Fwrdd y Cabinet.