Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Strydlun a Pheirianneg - Dydd Gwener, 28ain Chwefror, 2020 10.00 am

Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

COFNODION CYFARFODYDD BLAENOROL pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr, 2019.

 

2.

Y DIWEDDARAF AM STRATEGAETH DIOGELWCH FFYRDD 2015-2020 pdf eicon PDF 76 KB

Cofnodion:

Esboniodd swyddogion safle Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn erbyn y targedau a amlinellir yn Strategaeth Diogelwch Ffyrdd 2015-2020.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y data meintiol diweddaraf ar gyfer Castell-nedd Port Talbot yn dangos lleihad sylweddol ar draws Dangosyddion Diogelwch Ffyrdd allweddol Llywodraeth Cymru wrth ei fesur yn erbyn data gwaelodlin 2004-2008.

 

Cynhaliwyd trafodaeth am barthau 20mya ledled y fwrdeistref sirol. Esboniodd swyddogion fod y mwyafrif o'r parthau wedi'u lleoli o amgylch ysgolion, roedd y cyfyngiadau cyflymder hynny’n gynghorol ac nid yn orfodol, er mae ystad cyfan Sandfields yn barth 20mya gorfodol.

 

Dywedodd swyddogion wrth aelodau fod Partneriaeth Lleihau Anafiadau Ffyrdd Cymru GanBwyll yn cymryd ymagwedd drylwyr at oryrru, roedd angen i ardaloedd fodloni eu meini prawf gan fod angen cyfiawnhau'r hyn yr oedd ei angen.

 

Esboniodd swyddogion eu bod yn gweithio'n agos gydag Ysgolion Cynradd, Ysgolion Cyfun, Colegau a'r gymuned leol i gynyddu ymwybyddiaeth o faterion diogelwch ffyrdd.

 

Diolchodd yr aelodau i'r Tîm Diogelwch Ffyrdd am eu gwaith da.

 

 

3.

CRAFFU CYN PENDERFYNU

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Cludiant i Deithwyr

 

Esboniodd swyddogion yn ystod 2021 byddai angen i'r cyngor aildendro'r holl lwybrau bysus lleol sy'n cael cymhorthdal gan Grant Cynnal Gwasanaethau Bysus Llywodraeth Cymru (BSSG) ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

Gorchymyn Traffig:  Safle Tacsis, Port Talbot

 

Cynhaliwyd trafodaeth am y newidiadau arfaethedig i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn Heol yr Orsaf Isaf, Port Talbot.

 

Esboniodd swyddogion y byddai newidiadau i'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sydd eisoes yn bodoli yn darparu Safle Tacsis 24 awr estynedig dynodedig i wasanaethu Heol yr Orsaf Isaf, Port Talbot.

 

Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.

 

4.

BLAENRAGLEN WAITH 2019/2020 pdf eicon PDF 60 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Blaenraglen Waith.

 

Cynhelir Sesiwn Blaenraglen Waith yn ystod y flwyddyn ddinesig newydd.

 

5.

EITEM FRYS

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, codwyd y mater canlynol fel eitem frys i'w thrafod yn ystod cyfarfod heddiw yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

6.

CRAFFU CYN PENDERFYNU

Cofnodion:

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 - Perfformiad Chwarter 3 (1 Ebrill 2019 - 31 Rhagfyr 2019)

 

Derbyniodd yr aelodau drosolwg o'r adroddiad ar Ddangosyddion Perfformiad Chwarter 3.

 

Gofynnodd aelodau i adroddiadau'r dyfodol ddangos esboniad fwy clir ym manyleb y dangosydd perfformiad.

 

Yn dilyn craffu, cytunwyd i nodi'r adroddiad.