Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 61 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
25 Hydref, 2019. |
|
Blaenraglen Waith 2019-20 PDF 61 KB Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Cyflwyniad ar Ddiweddariad Gwastraff 2019 Cofnodion: Derbyniodd aelodau gyflwyniad ar Reoli Gwastraff
yng Nghastell-nedd Port Talbot a diweddariad amdano. Mewn ymateb i ymholiadau'r aelodau, dywedodd swyddogion fod gwastraff bwyd
yn cael ei osod ym miniau olwynion rhai preswylwyr o hyd. Esboniwyd bod angen i
breswylwyr gynyddu faint o wastraff bwyd a ailgylchir yn y cynhwysydd cywir. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â monitro cynllun
eithrio o'r cyfyngiad ar wastraff ar yr ochr ar gyfer gwastraff na ellir ei
ailgylchu. Tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer y preswylwyr a oedd yn cyflwyno
cais am eithriadau wedi cynyddu pan ddaeth y casgliadau gwastraff ar yr ochr i
ben. Esboniodd swyddogion fod gan y Swyddogion Gwastraff Ochr gasgliadau
unigol. Mae swyddogion yn monitro ac yn archwilio casgliadau gwastraff ac yn
cysylltu â phreswylwyr sy'n cyflwyno gwastraff ochr anghywir i'w helpu i leihau
swm y gwastraff a gyflwynir. Dywedodd y swyddogion wrth yr aelodau fod gan
Gastell-nedd Port Talbot un o'r timau gorfodi mwyaf llwyddiannus yng Nghymru ac
y byddai'n parhau i fonitro lefelau tipio anghyfreithlon ledled y fwrdeistref
sirol. Nodwyd y byddai adroddiad diweddaru am dipio anghyfreithlon yn cael ei
ailgyflwyno i'r Pwyllgor Craffu ar 17 Ionawr 2020. Nodwyd pan gaiff y Strategaeth Wastraff
Genedlaethol newydd ei chyhoeddi, byddai Llywodraeth Cymru'n ystyried gwastraff
trydanol (deunyddiau prin) ar gyfer casgliad ymyl y stryd posib yn y dyfodol. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod
Llywodraeth Cymru wedi pennu targed i Gymru ailgylchu 70% o'i gwastraff erbyn
2020, ac i fod yn ddiwastraff erbyn 2050. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr eitemau canlynol ar
agenda Bwrdd y Cabinet: Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2019/2020 -
Perfformiad Chwarter 2 (1 Ebrill 2019 - 30 Medi 2019) Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o'r adroddiad ar
Ddangosyddion Perfformiad Chwarter 2. Canmolodd yr aelodau'r gwaith da a wnaed gan y
swyddogion. Yn dilyn craffu, cytunwyd nodi'r adroddiad. Cynnig i adnewyddu prydles cyfarpar darlledu radio
ac antena i'r cyngor sydd wedi'u lleoli ar do'r tŵr dŵr yng Nghronfa
Ddŵr y Cocyd, Abertawe Derbyniodd y pwyllgor drosolwg o'r adroddiad a
ddosbarthwyd. Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r lleoliad a
ffefrir. Esboniodd swyddogion fod posibilrwydd y bydd tri safle ar gael, felly
roedd dau leoliad dichonadwy arall ar gael. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet. |
|
Eitemau brys (Unrhyw eitemau brys (boed yn
gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran
100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth
Leol 1972. Cofnodion: Gyda chaniatâd y Cadeirydd, codwyd y mater canlynol
fel eitem frys i'w thrafod yn ystod cyfarfod heddiw yn unol ag Adran 100A(4) a
(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Rheswm: Oherwydd yr elfen amser. |
|
Access to Meeting Cofnodion: PENDERFYNWYD: Yn unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y
cyhoedd o'r eitemau busnes canlynol a oedd yn cynnwys datganiadau posib o
wybodaeth eithriedig, fel a diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4 Atodlen 12A y
Ddeddf uchod. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Cofnodion: Craffodd y pwyllgor ar yr eitem breifat ganlynol ar
agenda Bwrdd y Cabinet: Cwlfert Ynysydarren - Caffael Tir/Gorfodi Draenio
Tir Rhoddodd y swyddogion drosolwg o'r adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r
cynnig i'w ystyried gan Fwrdd y Cabinet.
|