Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor A/B - Canolfan Ddinesig Castell-nedd - Canolfan Ddinesig Castell-nedd. Cyfarwyddiadau
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 78 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
21 Mai 2021. |
|||
Craffu Cyn Penderfynu Dewis
eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir
adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Craffodd y Pwyllgor ar
yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Cyllid Cyfalaf y Strydlun 2021/22 Cyflwynwyd adroddiad
i'r Pwyllgor a oedd yn nodi'r dyraniad ariannol ar gyfer 'Gwelliannau i
Strydlun yr Amgylchedd' a gynhwyswyd yn y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2021/22. Gofynnodd yr Aelodau a
oedd lleoliadau eisoes wedi'u nodi ar gyfer adnewyddu arwyneb lliw ac arwyneb
ffrithiant uchel, arwyddion negeseuon cyflymder a llochesi bysus newydd. Cadarnhawyd bod gan
Rheolwr y Rhwydwaith a Rhaglenni ar gyfer y gwasanaeth restr o leoliadau wedi'i
blaenoriaethu ar gyfer adnewyddu arwynebau lliw ac arwynebau ffrithiant uchel;
nid oedd unrhyw leoliadau newydd wedi'u cynnwys ar y rhestr gan fod yr arian
ychwanegol yn cael ei ddefnyddio i gynyddu'r buddsoddiad mewn cynnal y rheini a
oedd eisoes ar waith fel rhan o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd. Tynnodd
swyddogion sylw at y ffaith bod y cyngor wedi llwyddo i gael arian grant
diogelwch ar y ffyrdd dros y blynyddoedd; rhoddwyd y rhain ar waith o ymateb i
bryderon goryrru'r Aelodau ac ymchwilio i'r cofnodion damweiniau. Soniwyd bod
llawer o arwynebau lliwgar wedi'u darparu megis arwyneb coch a gwyrdd a hefyd
arwyneb gafael ffrithiant uchel; nid oedd y gyllideb wedi cynyddu dros amser,
felly roedd yn ddefnyddiol iawn cael arian ychwanegol i ddal i fyny â'r gwaith
cynnal a chadw. O ran yr arwyddion
negeseuon cyflymder, tynnwyd sylw at y ffaith bod llawer o'r arwyddion wedi'u
gosod fel rhan o gynlluniau diogelwch ar y ffyrdd; byddai'r ffocws cychwynnol
ar amnewid yr arwyddion a oedd o gwmpas perimedr ysgolion, gan sicrhau eu bod i
gyd yn addas i'r diben. Hysbyswyd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru ar hyn o
bryd ar gam cyntaf symud i derfyn cyflymder diofyn o 20mya ledled Cymru; felly
nid oedd Swyddogion yn mynd i fod yn blaenoriaethu amnewid arwyddion rhybudd
30mya mewn ardaloedd a allai newid i 20mya yn y dyfodol agos. Cafwyd trafodaeth
ynglŷn ag adnewyddu llochesi bysus. Esboniodd swyddogion fod 528 o lochesi
bysus yn y Fwrdeistref Sirol, a thua 128 ohonynt yn llochesi arddull hysbysebu
a oedd yn cael eu cynnal gan yr hysbysebwr yn gyfnewid am hawliau hysbysebu;
roedd hyn yn gadael tua 400 o lochesi bysus i'r cyngor eu cynnal. Nodwyd bod
£40,000 yn y gyllideb ar gyfer cynnal a chadw beunyddiol; byddai'r arian
ychwanegol a ddyrannwyd yn helpu i ddarparu tua 15 o lochesi bysus newydd, gan
mai cost gyfartalog lloches bws newydd oedd tua £3,500 - £5,000. Gofynnwyd a fyddai
angen i Aelodau wneud cais os oedd angen llochesi bysus newydd arnynt yn eu
ward. Esboniodd swyddogion fod llawer o lochesi bysus o ansawdd gwael yn y
Fwrdeistref Sirol ar hyn o bryd yr oedd angen eu hamnewid; dyma fyddai'r
flaenoriaeth yn y lle cyntaf. Soniwyd bod hyn yn amlygu'r angen am y cyfalaf
ychwanegol i gynyddu'r buddsoddiad mewn cynnal a chadw'r llochesi bysus
presennol. Cadarnhawyd y byddai'r
Swyddogion perthnasol yn rhoi gwybod i'r Aelodau os oedd angen gwneud unrhyw
waith, a gynhwyswyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn eu ward. Diolchodd y Pwyllgor ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2. |
|||
Cofnodion: Nododd yr Aelodau Flaenraglen Waith Craffu'r
Strydlun a Pheirianneg ar gyfer 2021/22. Cytunwyd y dylid trefnu Gweithdy Blaenraglen Waith
Craffu'r Strydlun a Pheirianneg ar gyfer mis Hydref 2021. |
|||
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad
i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem ganlynol yn
unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion:
|
|||
Craffu ar Eitem/Eitemau Preifat Cyn Penderfynu Dewis
eitemau preifat priodol o agenda cyn craffu Bwrdd y Cabinet (Adroddiadau Bwrdd
y Cabinet yn amgaeedig ar gyfer yr aelodau craffu). Cofnodion: Dewisodd y pwyllgor
graffu ar yr eitemau canlynol ar agenda Bwrdd y Cabinet: Gwelliannau i Gyffordd Castell-nedd Cafodd yr Aelodau
wybodaeth am welliannau i gyffordd Castell-nedd fel y nodir yn yr adroddiad
preifat a ddosbarthwyd. Yn dilyn craffu, roedd y Pwyllgor yn gefnogol
o'r argymhelliad i fynd i Fwrdd y Cabinet. |