Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Charlotte Davies 01639 763745 E-bost: c.l.davies2@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd y bydd y Pwyllgor yn craffu ar
eitemau Bwrdd y Cabinet fel y'u nodwyd. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 220 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gohirio
cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Medi 2021 i gyfarfod o'r
pwyllgor yn y dyfodol. Cymeradwyo
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Hydref 2021 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Oedi wrth Drosglwyddo Gofal a Phwysau Cymunedol DOTX 35 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Diolchodd eu
Cadeirydd i swyddogion am ddarparu'r adroddiad. Roedd yr Aelodau'n cydnabod
gwaith caled staff ar bob lefel mewn gofal cymdeithasol i oedolion ac yn dymuno
cydnabod eu gwaith parhaus yn y maes hwn. O'r adroddiad,
roedd yr Aelodau'n deall y gallai aelod o'r teulu, mewn amgylchiadau
eithriadol, gael ei dalu drwy daliadau uniongyrchol i ofalu am y teulu. Roedd
yr Aelodau am holi a oedd hyn wedi'i archwilio'n fanwl o ystyried yr
amgylchiadau eithriadol rydym yn gweithredu ynddynt ar hyn o bryd. Cadarnhaodd
swyddogion fod hyn yn cael ei wneud ar hyn o bryd a bod y rhan fwyaf o daliadau
uniongyrchol yn rhai ar gyfer aelodau o'r teulu a CP. Roedd yr
Aelodau'n dymuno cael cadarnhad ynghylch pwy sy'n gofalu am gleifion sy'n barod
i gael eu rhyddhau ac sydd yn y Lolfa Ymadael yn aros am gludiant. Cadarnhaodd
swyddogion mai cyfrifoldeb staff iechyd oedd hyn. Nododd yr Aelodau
fod yr adroddiad yn amlinellu'r anhawster yr oedd staff yn ei gael wrth ddod o
hyd i leoliadau a phecynnau gofal i bobl â dementia. Holodd yr Aelodau beth
fyddai'n digwydd o dan yr amgylchiadau lle na ellir darparu gofal o'r fath.
Cadarnhaodd swyddogion ei bod yn ffodus nad oedd hyn wedi'i brofi hyd yma, ond
pe bai'n digwydd byddai'n debygol o arwain at aildderbyn i'r ysbyty. Gofynnwyd i
swyddogion egluro beth oedd Hwb Cydgysylltu Cymunedol Lleol ac a oedd y rhain
yn gweithio. Hysbyswyd yr Aelodau fod yr eitem hon yn ymwneud â chyfarfodydd
amlddisgyblaethol i ystyried rhyddhau cleifion. Fodd bynnag, ni allai
swyddogion ymhelaethu ymhellach gan fod yr eitem hon yn ymwneud â chanllawiau a
ddarperir i awdurdodau iechyd. Nodwyd yn yr
adroddiad y dylai defnyddiwr gwasanaeth, ar ôl ei ryddhau, gael ymweliad o fewn
un diwrnod i'w ryddhau i benderfynu ar ba gymorth sydd ei angen yn y gymuned
a'i drefnu'n gyflym er mwyn ei roi ar waith. Cadarnhaodd swyddogion fod hyn yn
digwydd ac mae swyddogion yn rhan o gyfarfod dyddiol i drafod canlyniadau'r
ymweliadau hyn. Nododd aelodau'r
adroddiad. |
|
Craffu Cyn Penderfynu Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu) Cofnodion: Llythyr Terfynol a Chynllun
Gweithredu ar y Cyd yn dilyn yr Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant
ar draws Castell-nedd a Phort Talbot (CNPT) Fe'i croesawyd gan y
Cadeirydd ac amlinellodd nifer y pethau cadarnhaol yn yr adroddiad. Roedd y
pethau cadarnhaol a amlinellwyd yn cynnwys y dull cadarnhaol a rhagweithiol o
ddiogelu a hefyd yr ethos rhannu â'r trydydd sector. Mae'r adroddiad yn
cyfeirio at y sianel trosglwyddo gwybodaeth dda sy'n llifo rhwng Barnardo's, yr
heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r staff hefyd yn adrodd ar
arweinyddiaeth dda o fewn y gwasanaeth. Mae'r Awdurdod Lleol yn cael ei
ddisgrifio fel un blaengar ac mae'n profi ffyrdd newydd o weithio. Mae diogelu
cyd-destunol yn ymagwedd at ddeall ac ymateb i brofiadau person ifanc o niwed a
risg y tu allan i'r cartref teuluol. Mae'n ehangu amcanion y system amddiffyn
plant bresennol sydd wedi canolbwyntio ar niwed a risg yn y cartref. Mae
diogelu cyd-destunol yn cydnabod y gall y niwed a'r risg hon ddigwydd y tu
allan i'r cartref hefyd ac mae'r ymagwedd yn edrych y tu hwnt i'r rhieni. Amlygodd yr adroddiad
yr angen i wella cyd-gynhyrchu cynlluniau diogelwch gyda phobl ifanc, a
gofynnodd yr aelodau i hyn gael ei egluro. Mae cynllun gweithredu cynhwysfawr
wedi'i ddatblygu ac mae cynllun gweithredu penodol i edrych ar sut i ymgysylltu
â phobl ifanc a rhieni cyn gynted â phosib. Mae tudalen 26 o'r
adroddiad yn beirniadu'r heddlu am eu defnydd o 'dim risg uniongyrchol amlwg
(NAIRA)' ac mae hefyd yn cyfeirio at ddiffyg cyfathrebu. Gofynnodd yr Aelodau
pwy sy'n gyfrifol am sicrhau yr eir i'r afael â beirniadaeth yr heddlu ac y
bydd y pwyllgor yn cael gwybod am y cynnydd ar hyn. Ymatebodd y Ditectif Brif Arolygydd Llewelyn
i'r eitem. Mae NAIRA yn gategori o bobl sydd ar goll i geisio torri'r galw ac
edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o ddiogelu pobl ifanc. Roedd y cynllun peilot
yn Heddlu De Cymru yn llwyddiant mawr, ond mae beirniadaethau a meysydd i'w
datblygu. Mae proses NAIRA ac ymateb cyffredinol i'r rheini sydd ar golli yn
cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae Heddlu De Cymru yn ei asesu, ac mae
partneriaid academaidd sydd hefyd yn arbenigwyr yn y maes yn edrych ar sut y
gellir datblygu a gwella hyn yn effeithiol. Gofynnodd yr Aelodau
beth oedd ystyr tactegau tarfu cyd-drefnedig gan yr heddlu. Cadarnhawyd y
gellir defnyddio'r rhain i amddiffyn pobl ifanc y mae'r heddlu o'r farn y
gallant fod mewn perygl o gael eu hecsbloetio a'u niweidio. Cadarnhawyd bod yr
heddlu wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth nodi'r oedolion a allai achosi'r
niwed neu'r camfanteisio a tharfu arno drwy eu harestio a'u galluogi i gael eu
symud o'r gymuned. Mae hyn yn ei hanfod yn helpu i achosi'r aflonyddwch sydd ei
angen. Mae'n bwysig bod y person ifanc yn cael cyfle i aros o fewn y gymuned
lle gellir ei gefnogi. Holodd yr Aelodau sut bydd swyddogion yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd am y diffyg tystiolaeth ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cofnodion: I nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ol disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran
100B (4) (b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Codwyd Adroddiad Blynyddol y
Cyfarwyddwr fel eitem frys. Mynegodd yr Aelodau eu hanfodlonrwydd ynghylch
derbyn yr adroddiad llai na 48 awr cyn y cyfarfod. Fodd bynnag, penderfynodd yr
Aelodau beidio â chraffu ar yr eitem. Os yw'r Aelodau am godi unrhyw gwestiynau
mewn perthynas â'r adroddiad, dylid eu hanfon yn uniongyrchol at y Cyfarwyddwr
gyda holl Aelodau eraill y Pwyllgor Craffu'n cael eu copïo i'r e-bost. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mynediad i gyfarfodydd i benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r eitem
ganlynol yn unol ag Is-adran 100a(4) a (5) Deddf Llywodraeth Leol 1972 a'r paragraffau
eithriedig perthnasol o Ran
4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitem(au)
ganlynol/canlynol yn unol ag Adran 100a (4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12a y Ddeddf uchod. |
|
Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 a Diweddariad ar Gartrefi Diogel i Blant Hillside (Yn eithriedig o dan Baragraff 13) Cofnodion: Derbyniodd yr Aelodau adroddiad diweddaru ar Reoliadau
Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol)
(Cymru) 2017 a Chartref Diogel i Blant Hillside. Nododd y pwyllgor yr adroddiad. |