Agenda item

Craffu Cyn Penderfynu

Dewis eitemau priodol o agenda’r Cabinet ar gyfer craffu cyn penderfynu (amgaeir adroddiadau ar gyfer yr Aelodau Craffu)

Cofnodion:

Llythyr Terfynol a Chynllun Gweithredu ar y Cyd yn dilyn yr Arolygiad ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant ar draws Castell-nedd a Phort Talbot (CNPT)

 

Fe'i croesawyd gan y Cadeirydd ac amlinellodd nifer y pethau cadarnhaol yn yr adroddiad. Roedd y pethau cadarnhaol a amlinellwyd yn cynnwys y dull cadarnhaol a rhagweithiol o ddiogelu a hefyd yr ethos rhannu â'r trydydd sector. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y sianel trosglwyddo gwybodaeth dda sy'n llifo rhwng Barnardo's, yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r staff hefyd yn adrodd ar arweinyddiaeth dda o fewn y gwasanaeth. Mae'r Awdurdod Lleol yn cael ei ddisgrifio fel un blaengar ac mae'n profi ffyrdd newydd o weithio.

 

Mae diogelu cyd-destunol yn ymagwedd at ddeall ac ymateb i brofiadau person ifanc o niwed a risg y tu allan i'r cartref teuluol. Mae'n ehangu amcanion y system amddiffyn plant bresennol sydd wedi canolbwyntio ar niwed a risg yn y cartref. Mae diogelu cyd-destunol yn cydnabod y gall y niwed a'r risg hon ddigwydd y tu allan i'r cartref hefyd ac mae'r ymagwedd yn edrych y tu hwnt i'r rhieni.

 

Amlygodd yr adroddiad yr angen i wella cyd-gynhyrchu cynlluniau diogelwch gyda phobl ifanc, a gofynnodd yr aelodau i hyn gael ei egluro. Mae cynllun gweithredu cynhwysfawr wedi'i ddatblygu ac mae cynllun gweithredu penodol i edrych ar sut i ymgysylltu â phobl ifanc a rhieni cyn gynted â phosib.

 

Mae tudalen 26 o'r adroddiad yn beirniadu'r heddlu am eu defnydd o 'dim risg uniongyrchol amlwg (NAIRA)' ac mae hefyd yn cyfeirio at ddiffyg cyfathrebu. Gofynnodd yr Aelodau pwy sy'n gyfrifol am sicrhau yr eir i'r afael â beirniadaeth yr heddlu ac y bydd y pwyllgor yn cael gwybod am y cynnydd ar hyn.  Ymatebodd y Ditectif Brif Arolygydd Llewelyn i'r eitem. Mae NAIRA yn gategori o bobl sydd ar goll i geisio torri'r galw ac edrych ar ffyrdd mwy effeithiol o ddiogelu pobl ifanc. Roedd y cynllun peilot yn Heddlu De Cymru yn llwyddiant mawr, ond mae beirniadaethau a meysydd i'w datblygu. Mae proses NAIRA ac ymateb cyffredinol i'r rheini sydd ar golli yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Mae Heddlu De Cymru yn ei asesu, ac mae partneriaid academaidd sydd hefyd yn arbenigwyr yn y maes yn edrych ar sut y gellir datblygu a gwella hyn yn effeithiol.

 

Gofynnodd yr Aelodau beth oedd ystyr tactegau tarfu cyd-drefnedig gan yr heddlu. Cadarnhawyd y gellir defnyddio'r rhain i amddiffyn pobl ifanc y mae'r heddlu o'r farn y gallant fod mewn perygl o gael eu hecsbloetio a'u niweidio. Cadarnhawyd bod yr heddlu wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth nodi'r oedolion a allai achosi'r niwed neu'r camfanteisio a tharfu arno drwy eu harestio a'u galluogi i gael eu symud o'r gymuned. Mae hyn yn ei hanfod yn helpu i achosi'r aflonyddwch sydd ei angen. Mae'n bwysig bod y person ifanc yn cael cyfle i aros o fewn y gymuned lle gellir ei gefnogi.

 

Holodd yr Aelodau sut bydd swyddogion yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd am y diffyg tystiolaeth o weithredu ac adolygu cynlluniau diogelwch a rennir. Rhoddodd swyddogion sicrwydd i'r Aelodau fod yr holl gynlluniau plant yn ddogfennau byw gweithredol y mae plant, teuluoedd a phartneriaid yn ymwneud â hwy ac eu cyd-gynhyrchu ganddynt hefyd. Fodd bynnag, cadarnhaodd swyddogion y byddant yn mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd fel blaenoriaeth.

 

Gofynnodd yr Aelodau a oes unrhyw gynlluniau i gynnal yr un math o adolygiad â'r gwasanaethau i oedolion, yn enwedig y rheini nad oes ganddynt alluedd neu sydd â dibyniaeth ar gyffuriau a/neu alcohol. Dywedodd swyddogion fod yr arolygiad yn gynllun peilot a gynhaliwyd ym maes amddiffyn plant. Nid yw swyddogion yn ymwybodol ar hyn o bryd o unrhyw gynlluniau i ehangu hyn i'r gwasanaethau i oedolion.

 

Canmolodd yr Aelodau a'r swyddogion yr ymagwedd ar y cyd at weithio rhwng y gwahanol sefydliadau ac asiantaethau sy'n ymwneud â gofal plant.

Nododd yr Aelodau yr hyfforddiant y mae staff wedi'i gael ar draws y gwahanol adrannau a sefydliadau i helpu i adnabod pobl sy'n agored i niwed. Holodd yr Aelodau'n benodol a oedd staff y ganolfan alwadau wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ar yr eitem hon. Cadarnhaodd swyddogion fod y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi cyfarfod a thrafod diogelu cyd-destunol. Y cam nesaf yn awr yw cyflwyno'r hyfforddiant ar draws y gwahanol adrannau yn yr awdurdod lleol.

Cadarnhaodd swyddogion fod perthynas waith dda â'r awdurdod tân i ddarparu cymorth a rhannu gwybodaeth yn ôl y gofyn.

 

Diolchwyd i'r Pwyllgor a'r swyddogion am eu gwaith a'u hymdrechion parhaus o fewn y Gwasanaethau Plant.

Nododd swyddogion, er bod yr adroddiad a gyflwynwyd yn syml ac yn hawdd ei ddeall, fod y gwaith a aeth i mewn i'r adroddiad a'r arolygiad wedi digwydd ar anterth y pandemig. Croesawyd pum arolygiaeth wahanol i'r Gwasanaethau Plant i gynnal yr arolygiad. Arolygiad peilot oedd hwn ac nid oedd wedi'i gynnal gan y pum arolygiaeth wahanol ar y cyd.

Pwysleisiodd swyddogion Addysg bwysigrwydd hyfforddiant mewn perthynas â diogelu. Hefyd, pa mor dda y mae Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn cydweithio fel tîm, gyda'r plant neu'r teulu'n ganolog i'r penderfyniad sy'n mynd i gael ei wneud.

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a'r Gwasanaethau i Oedolion - Adroddiad Perfformiad Chwarter 2 (Ebrill 2021 – Medi 2021)

 

Tynnodd y Cadeirydd sylw at nifer o bethau cadarnhaol yn yr adroddiad. Roedd nifer yr asesiadau plant a gwblhawyd ar amser yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, nid oes unrhyw gwynion wedi'u cadarnhau a bu cynnydd yn nifer y canmoliaethau mewn perthynas â'r gwasanaethau plant. Bu cynnydd hefyd yn y gweithgareddau cyfranogi ac ymgysylltu â phobl ifanc. Nodwyd hefyd mai CNPT sydd â'r fframwaith cyntaf sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau yng Nghymru a bod hyn yn mynd i gael ei gyflwyno'n genedlaethol.

 

Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn nodi bod 101 o bobl yn aros am asesiad gofal. Holodd yr Aelodau am y cyfathrebu a gynhelir gyda'r cleient wrth iddo aros am yr asesiad gan y byddai hyn yn cael effaith ar y trydydd sector. Cadarnhaodd swyddogion fod nifer o agweddau mewn perthynas â hyn. Ar hyn o bryd mae CNPT yn treialu system drwy grŵp ymgynghori allanol. System ymateb negeseuon testun ydyw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i unigolion ynghylch eu hatgyfeiriad. Mae'n dechrau o'r pwynt cyswllt pan fo swyddogion yn derbyn yr alwad ffôn gychwynnol. Mae'r cynllun peilot yn ei ail gam ar hyn o bryd. Mae'r adborth cyffredinol hyd yma wedi bod yn gadarnhaol. Holodd yr Aelodau sut yr eir ati i gyfathrebu â'r rheini nad oes ganddynt ffonau symudol. Cadarnhawyd lle nad oes unrhyw ddull cyfathrebu o'r fath, y gwneir ymweliadau a galwadau ffôn fel y bo'n briodol.

 

Hysbyswyd yr Aelodau fod Prif Swyddog bellach wedi'i benodi ar gyfer Datblygiad Cymunedol Ymyriad Cynnar felly bydd yn dod â'r holl wasanaethau atal yn y gwasanaethau i oedolion ynghyd. Mae strwythur yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i dynnu hyn at ei gilydd. Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu i'r pwyllgor. Mae'n rhan o gam 2 ailfodelu'r gwasanaethau i oedolion.

 

Holodd yr Aelodau am y swyddi gwaith cymdeithasol gwag. Ar hyn o bryd mae diffyg o 25% mewn gweithwyr cymdeithasol ar draws pob tîm yn y gwasanaethau i oedolion a chyflogir un gweithiwr asiantaeth ar hyn o bryd.

Mae swyddogion yn darparu diweddariad ynghylch am y sefyllfa gyda'r gwasanaethau i blant.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Gweithredu Fframwaith Sicrhau Ansawdd ar gyfer Darparu Gwasanaethau Anabledd Dysgu a Gwasanaethau Byw â Chymorth Iechyd Meddwl yng Nghastell-nedd Port Talbot

 

Aeth y Cadeirydd drwy'r pethau cadarnhaol a amlinellwyd yn yr adroddiad.

Eglurodd yr Aelodau fod yr eitemau coch yn welliannau mewn ymateb i'r ymgynghoriad.

Roedd yr adroddiad yn nodi sylwadau teuluoedd mewn perthynas ag eiriolaeth, datgelu camarfer a chynnal a chadw eiddo. Gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd bod yr eitemau hyn yn cael eu hystyried yn briodol. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn cael eu hystyried.

Yn dilyn y broses graffu, roedd y pwyllgor yn gefnogol o'r cynigion i'w hystyried gan Fwrdd y Cabinet.